Conor yw Prif Weithredwr Dros Dro Money and Mental Health Policy Institute, yr elusen ymchwil a sefydlwyd gan Martin Lewis i ddeall yn well a mynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng anhawster ariannol a phroblemau iechyd meddwl.
Ers ei sefydlu yn 2016, mae’r elusen wedi dod yn llais blaenllaw ar faterion o ddyled i wariant byrbwyll, gwasanaethau iechyd meddwl, diogelu defnyddwyr a’r potensial ar gyfer data mawr a bancio agored i gwsmeriaid sy’n agored i niwed. Cyn dechrau ar ei rôl dros dro ym mis Mai 2023, Conor oedd Pennaeth Ymchwil a Pholisi’r elusen, gan arwain datblygiad ymchwil a pholisi y Money and Mental Health Policy Institute.
Cyn ymuno â’r tîm yn 2020, bu Conor yn gweithio yn y gwasanaeth sifil ond mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn y trydydd sector, gan gynnwys rolau yn y Resolution Foundation a Sefydliad Joseph Rowntree. O 2021-23, roedd yn ymddiriedolwr Canolfan Gymunedol Wyddelig Lewisham.