Joanna Elson

Prif Weithredwr – Money Advice Trust

 

Mae Joanna yn brif weithredwr i’r Money Advice Trust; eu gweledigaeth yw helpu pobl ledled y DU i fynd i'r afael â'u dyledion a rheoli eu harian yn hyderus.

Mae Joanna yn gyfarwyddwr UK Finance, yn cynrychioli cynhwysiant ariannol a bregusrwydd, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghori Centre on Household Assets and Savings Management, Prifysgol Birmingham, ac yn aelod o Fforwm Polisi Cynhwysiant Ariannol y Llywodraeth. Mae hi hefyd yn is -gadeirydd Friends Provident Foundation, ac yn Gyfarwyddwr Fair 4 All Finance.

Yn 2020, dyfarnwyd CBE i Joanna am wasanaethau i gynhwysiant ariannol.