Cyhoeddwyd ar:
07 Tachwedd 2022
Does gan naw miliwn o bobl ledled y DU ddim cynilion ac mae gan bum miliwn arall lai na £100, yn ôl ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).
Does gan naw miliwn o bobl ledled y DU ddim cynilion ac mae gan bum miliwn arall lai na £100, yn ôl ymchwil newydd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).
Mae’r arolwg o 3,000 o oedolion, a gynhaliwyd ar gyfer Wythnos Siarad Arian (Tachwedd 7-11), yn dangos nad oes gan un o bob chwech (17%) unrhyw beth wedi’i gynilo ac mae gan un arall o bob deg (9%) £100 neu lai.
Mae hyn yn gadael tua chwarter yr oedolion sy’n byw heb rwyd diogelwch ariannol i ymdopi â chostau byw neu filiau annisgwyl cynyddol, sy’n golygu y gallai rhai orfod defnyddio credyd.
Dywed MaPS er bod credyd yn arf pwysig pan gaiff ei ddefnyddio a’i reoli’n dda, mae’n hanfodol bod pobl yn deall yr hyn y gallant ei fforddio a chael cynllun i’w dalu yn ôl.
Fodd bynnag, mae’r ffigyrau hefyd yn datgelu bod llawer o bobl eisoes yn ei chael hi’n anodd i wneud hyn. Ymhlith y 79% o drigolion y DU sy’n defnyddio credyd, mae dau o bob pump (43%) bellach yn bryderus am faint sy’n ddyledus ganddynt. Mae dros draean (35%) yn poeni am nifer y cynnyrch gwahanol sydd ganddynt.
Wrth i bwysau costau byw gynyddu, mae MaPS yn dweud ei bod hi’n bwysicach nag erioed i siarad am arian cyn i broblemau ddechrau. Ond mae’r arolwg hefyd yn datgelu bod 81% o bobl yn dal i osgoi trafod eu cyllid.
Pan ofynnwyd pam, yr ymatebion mwyaf cyffredin oedd ‘ddim am gael eu barnu’ (21%), ”ofn rhoi’r baich ar eraill’ (19%) a ‘chywilydd neu embaras’ (17%).
Yn ystod Wythnos Siarad Arian, mae MaPS yn annog pawb i siarad yn agored am arian, cynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol a chymryd cyngor dyled am ddim cyn gynted ag y maent eu hangen.
Dywed y sefydliad y gall ei wasanaeth HelpwrArian fod yn fan cychwyn i bobl, gan gynnig arweiniad am ddim ar bynciau fel arian bob dydd, cynilion a ble i ddod o hyd i gyngor dyled am ddim.
Mae hefyd yn darparu ystod o wybodaeth am ddelio â materion ariannol, gan gynnwys canllawiau cam wrth gam ar sut i siaradYn agor mewn ffenestr newydd â’ch credydwyr neu drafod arian gyda theulu a ffrindiauYn agor mewn ffenestr newydd
Dywedodd Caroline Siarkiewicz, Prif Weithredwr y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
“Mae miliynau o bobl yn ei chael hi’n her i gynilo ac mae hyn yn eu gadael yn agored i niwed pan fydd eitemau gwariant sydyn yn codi. Pan fyddwch yn ychwanegu y pryder maent yn teimlo gyda’u hymrwymiadau credyd, gall pwysau’r pryder hwnnw fynd yn llethol yn gyflym.
“Yr Wythnos Siarad Arian hon, rydym am i bawb ddechrau’r sgwrs gyda theulu neu ffrindiau a rhannu baich unrhyw bryderon ariannol. Drwy ddelio â’r broblem yn uniongyrchol, gall pobl ddarganfod pa mor ddefnyddiol y gall cyngor am ddyledion am ddim fod a gweld pwysigrwydd siarad â’u credydwyr yn gynnar. Maent hefyd yn gallu dechrau dod o hyd i ffordd ymlaen, dim ots pa mor anodd y gallai eu sefyllfa deimlo.
“Mae holl gymorth ac arweiniad am ddim ar sut i wneud hyn ar gael trwy ein gwasanaeth HelpwrArian a byddwn yn annog pawb sydd ei angen i gysylltu heddiw.”
– DIWEDD –
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: