Published on:
10 Mehefin 2025
Ar Sul y Tadau hyn, mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn taflu goleuni ar sut mae dynion yn teimlo am arian ac yn eu hannog i fod yn fwy agored wrth siarad amdano.
Dim ond 1 o bob 3 tad sy'n teimlo mewn rheolaeth o'u cyllid, ac mae 1 o bob 5 dyn yn adrodd eu bod yn teimlo'n bryderus am eu sefyllfa ariannol.
Os ydych chi'n teimlo felly, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Gall y gwasanaeth HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd am ddim a diduedd gefnogi rhieni a darpar rieni gyda theclynnau am ddim, ac arweiniad ynghylch sut i gael sgyrsiau ariannol.
"Rwy'n teimlo'r pwysau i fod yn enillydd cyflog", meddai'r tadau Paul Rhodes a Nathan Boorman.
Mae ymchwil hefyd yn dangos bod tadau sengl a theuluoedd LGBTQ + yn wynebu pwysau o ran arian.
Yn ôl Arolwg ‘Debt Need’ MaPS 2023, mae llai na hanner y dynion yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn rheoli eu sefyllfa ariannol (47%). Roedd y nifer hwn yn is wrth edrych yn benodol ar dadau, fodd bynnag, gyda dim ond ychydig dros 1 o bob 3 tad (35%) yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn rheoli eu sefyllfa ariannol.
Canfu hefyd fod 1 o bob 5 dyn (20%) wedi dweud bod meddwl am eu sefyllfa ariannol yn gwneud iddynt deimlo'n bryderus.
Dywed Paul Rhodes, Uwch Reolwr MaPS, cyd-sylfaenydd Fathercraft UK a thad i ddau o blant:
"Gall fod pwysau i ddarparu a gall deimlo fel eich cyfrifoldeb chi yw bod yn enillydd cyflog i'ch teulu."
Wrth i MaPS daflu goleuni ar berthynas dynion ag arian a chynnig arweiniad i'w cefnogi drwy HelpwrArian, mae Dr Hayley James, Uwch Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Lles Ariannol Personol ym Mhrifysgol Aston, yn hyrwyddo ymhellach yr angen am gefnogaeth i ddynion a thadau.
Mae Dr James yn ymchwilio i'r berthynas rhwng rhyw ac arian, ac yn dweud:
"Gall fod pwysau ar ddynion i deimlo bod rhaid iddyn nhw wybod beth maen nhw'n ei wneud gyda rheoli arian - yn enwedig wrth gynllunio'n ariannol ar gyfer dyfodol eich teulu gyda phethau fel buddsoddi.
"Yna gellir hyn arwain at ei chael hi'n anodd cyfaddef efallai nad ydych chi'n deall arian cystal ag y dylech chi. Gall dynion wedyn deimlo fel nad ydyn nhw'n 'chwarae'r rôl' o edrych ar ôl dyfodol ariannol y teulu yn iawn."
Mae yna hefyd stigma o gwmpas dynion nad ydynt eisiau siarad am arian, a all fod oherwydd y pwysau personol â’r disgwyliad cymdeithasol o fod yn 'enillydd cyflog' ond hefyd oherwydd sut y gallai dynion adlewyrchu agweddau eu rhieni neu fodelau rôl eu hunain tuag at arian.
Mae Nathan Boorman, sylfaenydd Official Dad Bag a dad i 2 yn cytuno, gan ddweud:
"Fel dyn, rwy'n bendant yn teimlo fel bod pwysau i fod yn enillydd cyflog. Mae'n teimlo fel greddfau dynion ogof mai fi yw'r un a ddylai fynd allan i 'hela', cael y bwyd a gwneud yn siŵr fy mod i'n gofalu am fy nheulu."
"Ers i ni gael ein plant yn eithaf ifanc, rydw i wedi teimlo mai fy nghyfrifoldeb i yw gwneud yn siŵr bod y biliau'n cael eu talu a'r babanod yn cael eu bwydo."
"Mae'n gallu bod yn anhygoel o anodd gyfaddef a dweud eich bod yn cael trafferth gydag arian", meddai Paul.
Dywed Nathan yn yr un modd : "Pe bawn i'n cael trafferth gydag arian, dwi ddim yn meddwl y byddwn i'n siarad amdano gyda fy ffrindiau. Fel dyn rwy'n teimlo fy mod i i fod i ddarparu a byddwn i'n teimlo'n rhy falch i gyfaddef unrhyw beth arall - byddai'n bendant yn rhywbeth y byddwn i'n teimlo embaras amdano."
"Y ffordd orau o oresgyn stereoteipiau rhywedd ynghylch arian a'r pwysau y gall dynion a thadau eu hwynebu yw cael sgyrsiau da gyda'ch partner." Meddai Dr Hayley James. "Canlyniad rhannu cyfrifoldebau cartref yw nad ydym bob amser yn deall y pwysau y mae hyd yn oed ein haelodau agosaf o'n teulu yn ei deimlo am gyllid."
Meddai Lawrence Davies, Rheolwr Partneriaeth Gwlad Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
"Gall dynion deimlo dan bwysau i fod mewn rheolaeth o sefyllfa ariannol eu teulu.
"Ond gall rheoli arian teuluol fod yn rhywbeth y mae'r teulu cyfan yn siarad amdano gyda'i gilydd er mwyn osgoi teimlo fel y baich y mae'n rhaid i un person ei gario.
"A thros gyfnod Sul y Tadau byddai'n wych gweld mwy o ddynion yn siarad am arian i ddechrau’r sgwrs a mynd i'r afael â'r tabŵ o'i gwmpas.
"I unrhyw un sy'n cael trafferth rheoli arian, mae gan HelpwrArian lawer o ganllawiau am ddim a diduedd a all gefnogi ar bob cam o fywyd."
Mae gan HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd arweiniad am ddim ar ddechrau sgyrsiau am arian, gan gynnwys sut i siarad â'ch partner am arianYn agor mewn ffenestr newydd – ar gyfer y sgyrsiau teuluol pwysig hynny, a sut i siarad â'ch ffrindiau am arianYn agor mewn ffenestr newydd i greu lle i ddynion fod yn onest â'i gilydd.
Mae HelpwrArian hefyd yn darparu cymorth i rieni a darpar rieni, gan gynnwys tudalennau ar reoli arian, dod yn rhiantYn agor mewn ffenestr newydd, neu helpu gyda chostau gofal plantYn agor mewn ffenestr newydd.
– DIWEDD –
Ar gael ar gyfer cyfweliad
Mae'r bobl ganlynol ar gael ar gyfer cyfweliad ar gais:
Nathan Boorman, tad i 2 o blant a sylfaenydd Official Dad Bag.
Paul Rhodes, Uwch Reolwr MaPS, tad i 2 o blant, a sylfaenydd Fathercraft UK.
Lawrence Davies, Rheolwr Partneriaeth Gwlad Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau.
Canlyniadau Nodiadau ar Arolwg ‘Debt Need’ Gwasanaeth Arian a Phensiynau 2023
Cyfwelodd Arolwg ‘Debt Need’ y Gwasanaeth Arian a Phensiynau 2023 sampl gynrychioliadol genedlaethol o oedolion 18+ oed. O'r rhain roedd 10,267 yn ddynion.
Fe wnaethon ni ofyn i bawb ddweud wrthym faint mae'r datganiad "Mae meddwl am fy sefyllfa ariannol yn fy ngwneud yn bryderus" yn berthnasol iddyn nhw ar raddfa o 0 i 10 lle roedd 0 yn golygu "Nid yw'n swnio fel fi o gwbl" a 10 yn golygu "Swnio llawer tebyg i mi". Rhoddodd 20% o ddynion sgôr o 8,9 neu10 sy'n nodi eu bod yn bryderus am eu sefyllfa ariannol.
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: