Published on:
20 Tachwedd 2025
Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) eisiau i bobl sydd wedi colli arian i sgamiau siarad amdano, gan fod ymchwil newydd yn canfod bod un o bob tri oedolyn yng Nghymru yn anghyfforddus yn dweud wrth eu ffrindiau.
Yn y cyfnod cyn Dydd Gwener y Gwario Gwirion a Dydd Llun Seibr, mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn annog pobl i beidio â chadw'n dawel am sgamiau; mae ymchwil newydd yn canfod y byddai un o bob tri o oedolion yng Nghymru (30%) yn anghyfforddus yn dweud wrth eu ffrindiau eu bod wedi cael eu sgamio.
Yn ogystal, dim ond tua hanner (54%) fyddai'n gyfforddus yn dweud wrth eu teuluoedd os oeddent wedi colli arian oherwydd sgam.
Roedd pobl yn poeni y byddai siarad yn gwneud iddyn nhw deimlo embaras, yn wirion, neu'n ffôl. Roedden nhw hefyd yn ofni cael eu barnu ac nid oeddent eisiau poeni eraill.
Mae Sam, 51 oed, yn annog pobl i siarad os ydyn nhw mewn sefyllfa debyg, ar ôl iddi gael ei thwyllo allan o £6,000 pan wnaeth twyllwr dynwared ei banc. Dywed:
"Fe wnes i bopeth na ddylech ei wneud - rhoddais godau iddo a hyd yn oed ei ddiolch iddo, wrth iddo fy rhybuddio am weithgarwch twyllodrus ar fy nghyfrif.
"Roeddwn i'n meddwl bod syrthio am sgam yn rhywbeth sy'n digwydd i bobl hŷn neu fwy agored i niwed yn unig. Rwy'n dda iawn gydag arian ac yn gwirio fy manc bob dydd."
"Pan sylweddolais beth oedd wedi digwydd, roeddwn i'n teimlo cywilydd, roeddwn i'n siomedig tu hwnt.
"Cefais help gan yr heddlu a Victim Support a dywedais wrth gydweithwyr a ffrindiau agos. Byddwn yn annog pobl eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan sgamiau i ddweud wrth rywun y maent yn ymddiried ynddo, rhoi gwybod amdano, a chael cefnogaeth gan HelpwrArian."
Mae MaPS yn annog pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan sgamiau i siarad ag arbenigwr yn HelpwrArian am gymorth cyfrinachol am ddim.
Gall HelpwrArian helpu trwy ddeall y sefyllfa, rhybuddio am risgiau sgamiau eilaidd, a darparu arweiniad i adferiad.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod am y sgam i Action Fraud.
Meddai Lee Phillips, Rheolwr Cymru yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau:
"Os ydych chi'n bwriadu siopa am fargeinion ar-lein, byddwch yn wyliadwrus o sgamiau. Peidiwch â rhuthro i brynu a chofiwch siopa gan fanwerthwyr dibynadwy yn unig.
"Os ydych chi'n credu eich bod wedi colli arian oherwydd sgam, does dim angen teimlo embaras neu gywilydd. Rydych chi'n ddioddefwr trosedd, ac nid ydych chi ar fai.
"Y cam cyntaf yw rhoi gwybod am y sgam. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo neu cysylltwch ag HelpwrArian am gymorth am ddim a chyfrinachol."
Meddai Sam Young, Rheolwr Polisi Age Cymru a Chadeirydd Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau:
"Rydym yn annog pobl i fod yn ofalus wrth siopa ar-lein y gaeaf hwn. Er mwyn cadw'ch hun yn ddiogel, rydym yn argymell y cyngor canlynol:
Yn olaf, gofynnwn i bobl gofio nad oes cywilydd mewn bod yn ddioddefwr sgam: gall ddigwydd i unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran neu allu.
Os ydych chi wedi dioddef sgam, rhaid i chi roi gwybod amdano i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu yn www.reporting.reportfraud.police.uk. Os ydych chi eisoes wedi gwneud taliad neu wedi rhoi eich manylion banc, dylech gysylltu â'ch banc ar unwaith. "
Ewch i wefan MoneyHelper i gael rhagor o wybodaeth am sgamiau a sut i ddiogelu eich hun.
– DIWEDD –
Daeth Chay, 24, o Stockport, yn ddioddefwr i sgam pan wnaeth gais am swydd trwy safle gwaith ag enw da.
"Cefais wybod am swydd ddelfrydol, gweithio gartref am gwpl o oriau y dydd, ac arian da."
Dywedwyd wrth Chay bod yn rhaid iddi fuddsoddi arian yn y cwmni, ac addawwyd y byddai'n derbyn ei harian yn ôl ynghyd ag elw pe bai'n gwneud hynny. Ar ôl ei diwrnod cyntaf, enillodd £100 ond dim ond hanner y gallai dynnu'n ôl.
Cynyddodd ei buddsoddiadau yn raddol i filoedd o bunnoedd ac yna roedd ei harian wedi’i glymu, gan golli tua £6000 iddi.
"Roeddwn i'n teimlo mor wirion," meddai. "Allwn i ddim credu y gallai rhywun wneud rhywbeth fel hyn. Roeddwn i wedi ffieiddio, roedd y person hwn wedi cymryd fy holl arian."
Yn ffodus, roedd gan Chay bobl o'i chwmpas y gallai droi atynt. Dywedodd wrth ei chariad a ddywedodd wrthi i roi gwybod am y sgam i Action Fraud. Awgrymodd Action Fraud fod Chay yn ffonio HelpwrArian am gymorth pellach.
"Byddai'n well gen i hyn ddigwydd i mi na rhywun sy’n agored i niwed, sydd heb unrhyw un y gallant siarad â hwy. Byddai hynny mor frawychus."
"Roeddwn i'n meddwl y gallaf adnabod sgam, ond roedd hyn mor soffistigedig ac wedi'i gynllunio'n dda. Wrth edrych yn ôl, ddylwn i fod wedi sylwi nad oedd pethau’n iawn, ond rydw i wedi gorfod dysgu'r ffordd galed."
Manylion am yr arolwg:
I roi gwybod am dwyll yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch ag Action Fraud drwy ffonio 0300 123 2040.
Action Fraud yw canolfan adrodd genedlaethol y DU ar sgamiau a seiberdroseddu lle gallwch roi gwybod am sgam os ydych wedi cael eich sgamio, eich twyllo neu brofi seiberdroseddu.
Ar gyfer ymholiadau cyfryngau, cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS 020 8132 5284 | [email protected]
Ein gweledigaeth yw "Gwell dyfodol ariannol i bawb mewn angen."
Rydym yn cynnig cymorth ac arweiniad diduedd am ddim ar arian a phensiynau drwy www.moneyhelper.org.uk a 0800 138 7777. Am wasanaethau yn Gymraeg, ewch i www.helpwrarian.org.uk neu ffoniwch 0800 138 0555. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o declynnau am ddim, ynghyd â'r cyfle i siarad ag arbenigwr drwy WhatsApp, ffôn, e-bost neu sgwrs fyw.
Rydym hefyd yn cydlynu Strategaeth y DU ar Les Ariannol, gan weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i helpu pawb i ddod o hyd i'w ffordd ymlaen ac adeiladu dyfodol ariannol gwell.
Rydym yn gorff hyd braich, a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ac a ariennir gan ardollau ar y diwydiant gwasanaethau ariannol a chynlluniau pensiwn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan neu gynllun corfforaethol a strategaeth flynyddol.
Am ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â: Swyddfa’r Wasg MaPS: