Rydym yn trefnu digwyddiadau lles ariannol ledled y DU. Ar y dudalen hon gallwch ddod o hyd i fanylion am ddigwyddiadau sydd i ddod, gan gynnwys sut i gofrestru a beth fydd yn digwydd ar y diwrnod.
Rydym yn cyd-gynnal ein pumed Gynhadledd Lles Ariannol Personol flynyddol gyda Chanolfan Lles Ariannol Personol Prifysgol Aston.
Os ydych chi'n gweithio ym maes ymchwil, polisi neu werthuso, gallwch ymuno â ni yn Nhŷ John Cadbury Prifysgol Aston yn Birmingham ar gyfer amrywiaeth o sesiynau sy'n archwilio lles ariannol personol. Mae hyn yn cynnwys:
Gallwch gofrestru ar gyfer y Gynhadledd Lles Ariannol Personol ymaYn agor mewn ffenestr newydd.
Mae hwn yn ddigwyddiad Arweinwyr Arian yn Llundain. Bydd yn rhoi ffyrdd ymarferol i Arweinwyr Arian adnabod cam-drin economaidd, ymateb yn sensitif a chyfeirio i gefnogaeth effeithiol.
Bydd siaradwyr o Surviving Economic Abuse a'r Domestic Abuse Alliance yn ymuno â ni. Byddant yn ymdrin â:
Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad Cam-drin Economaidd yn Ymarferol ymaYn agor mewn ffenestr newydd.
Bydd Cynhadledd Cyngor ar Ddyledion MaPS yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Confensiwn Ryngwladol (ICC) yn Birmingham.
Bydd y digwyddiad am ddim hwn yn dod â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o'r sector cyngor ar ddyledion at ei gilydd i ofyn: Sut olwg sydd ar ddyfodol cyngor ar ddyledion?
Bydd y gynhadledd yn cynnwys:
Gallwch:
Mae Wythnos Siarad Arian 2026 yn cael ei chynnal ar 2-6 Tachwedd. Dyma ein hymgyrch flynyddol sy'n annog pobl i gael sgwrs fwy agored am eu cyllid – o arian poced i bensiynau – ac i barhau â'r sgyrsiau hyn drwy gydol y flwyddyn.
Cadwch yn wybodol am ddigwyddiadau MaPS sydd ar ddod trwy: