Hyd yn oed gyda chynnydd mewn newyddion sy’n gysylltiedig â chostau byw, rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad am arian. Bob blwyddyn rydym yn cynnal Wythnos Siarad Arian er mwyn annog pobl i siarad yn agored am eu cyllid.
Darganfyddwch sut i gymryd rhan yn Wythnos Siarad Arian, waeth beth yw sector neu faint eich sefydliad, a dod o hyd i arweiniad ar sut i Siarad Arian gyda’ch ffrindiau, eich teulu neu’ch plant.
Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y DU sy’n helpu pobl i gael mwy o sgyrsiau agored am eu harian – o arian poced i bensiynau – a pharhau â’r sgyrsiau hyn gydol y flwyddyn.
Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r wythnos fel cyfle i siarad am unrhyw agwedd o arian.
Ddim yn siŵr ble i ddechrau? Mae ein pecyn cyfranogiad Wythnos Siarad Arian 2024 yn cynnig ffyrdd i deilwra eich gweithgareddau i’ch sector a chynulleidfaoedd.
Mae ein pecyn cyfathrebu yn cynnwys graffeg cyfryngau cymdeithasol, baneri a phoster. Mae yna hefyd gopi templed ar gyfer eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau mewnrwyd ac e-bost, yn ogystal â ffurflen i chi rannu eich cynlluniau Wythnos Siarad Arian.
Wrth i ni adfer o bandemig Covid-19 a gyda phwysau costau byw presennol, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cael cefnogaeth i bryderon ariannol.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy’n siarad am arian:
Mae meithrin sgyrsiau am arian yn ein bywydau bob dydd hefyd yn ein helpu i fagu hyder ariannol a gwytnwch i wynebu beth bynnag a ddaw ar ein traws yn y dyfodol.
Yr Wythnos Siarad Arian yma, rydym yn gofyn i bobl ‘Gwneud Un Peth’.
Gofynnwch i’r bobl rydych yn eu cefnogi i ‘wneud un peth’ gallai helpu i wella eu lles ariannol, nawr neu yn y dyfodol.
Nid oes rhaid iddo fod yn enfawr. Gallai fod mor syml ag olrhain pensiwn coll, siarad â phlentyn am arian poced neu ddefnyddio un o'r teclynnau neu'r cyfrifianellau am ddim ar wefan HelpwrArian.
Y cyfan sy'n bwysig yw ein bod ni'n cael pobl i siarad am arian, felly gallwn ddod â'r tabŵ i ben gyda’n gilydd.
Am gymorth i ddechrau eich taith Wythnos Siarad Arian, cysylltwch â’r Rheolwr Partneriaethau yn eich rhanbarth neu’ch cenedl. Darganfyddwch sut i gymryd rhan yn Wythnos Siarad Arian, ble bynnag ydych chi neu beth bynnag yw eich sefydliad.
Defnyddiwch ein pecyn cyfranogi i’ch helpu i ddechrau sgwrs mewn unrhyw sefyllfa, gan gynnwys:
Defnyddiwch ein canllawiau canlynol i’ch helpu i ddechrau sgyrsiau am arian gyda’ch partner, plant, ffrindiau, rhieni a neiniau a theidiau:
Os yw eich partner neu’ch teulu’n rheoli eich mynediad i’ch arian, neu’n mynd i ddyled yn eich enw, mae’n gamdrin ariannol. Ond nid oes angen brwydro ymlaen ar eich pen eich hun.
Darllenwch y canllaw hwn ar Gam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogelYn agor mewn ffenestr newydd
Mae HelpwrArian yma i wneud eich arian a'ch dewisiadau pensiwn yn gliriach.
Yma i'ch rhoi mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd sydd ar eich ochr chi ac yn rhydd i'w ddefnyddio.