HelpwrArian yw ein gwasanaeth arweiniad arian a phensiynau sy'n wynebu defnyddwyr. Rydym yn cynnig gwybodaeth ddiduedd am ddim i bobl ledled y DU, gan eu helpu tuag at ddyfodol ariannol gwell.
Gall biliau cynyddol, incwm llai, colli swydd a phryderon arian bob dydd ei gwneud hi'n anodd gwybod ble i droi. Mae HelpwrArian yn cynnig teclynnau ac adnoddau ymarferol i helpu pobl i gymryd rheolaeth a dod o hyd i ffordd ymlaen.
Mae HelpwrArian yn cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys pensiynau, cyllidebu, credyd a dyled.
Rydym hefyd yn helpu pobl sy'n wynebu digwyddiad bywyd sy'n effeithio ar eu harian a'u pensiynau fel prynu neu rentu cartref, gwahanu ac ysgariad, colli swydd, profedigaeth neu gael babi.
Gallwch ddefnyddio ein gwybodaeth a'n canllawiau i'ch helpu i gefnogi'r bobl rydych chi'n eu gwasanaethu p'un a ydych chi'n gyflogwr, yn ddarparwr gwasanaeth ariannol neu'n rhywun sy'n cefnogi eraill yn eich cymuned leol. Mae gennym hefyd ddeunyddiau ymgyrch parod i'w defnyddio.
Gall ein teclynnau a'n cyfrifianellau HelpwrArian sy’n gyflym a hawdd eu defnyddio helpu pobl i ddeall eu sefyllfa a'r camau y gallant eu cymryd i'w gwella. Gallwch weld rhestr lawn o'n teclynnau a'n cyfrifianellau, neu ewch yn syth at rai o'n henghreifftiau mwyaf poblogaidd:
Rydym wedi creu pecynnau cynnwys y gellir ei weithredu gan gynnwys canllawiau ar-lein, teclynnau, fideos, cyhoeddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol ac asedau wedi’u hargraffu, i chi eu defnyddio yn eich sianeli. Bydd y deunyddiau hyn yn helpu'r bobl rydych chi'n eu cefnogi i ddod o hyd i'r cymorth cywir pan fydd ei angen arnynt.
Mae'r meysydd pwnc a drafodir yn cynnwys:
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio ein pecynnau cynnwys, e-bostiwch [email protected] a dywedwch wrthym beth sydd ei angen arnoch.
Gallwch hefyd
Mae Pension Wise yn wasanaeth am ddim gan HelpwrArian sy’n cynnig apwyntiadau i bobl 50 oed neu’n hŷn, waeth pa mor fawr neu fach yw eu cronfa bensiwn. Gellir cynnal yr apwyntiadau ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Mae apwyntiad Pension Wise yn caniatáu i bobl:
Mae'r apwyntiadau yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr pensiwn hyfforddedig.
Os ydych chi'n cefnogi cleientiaid, defnyddwyr gwasanaeth neu weithwyr 50 oed neu'n hŷn, gallwch eu cyfeirio at Pension Wise i'w helpu i ddeall eu pensiynau yn well a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol ariannol.
Gallwch lawrlwytho llythyr cyfeirio Pension Wise (PDF, 189KB).
Os hoffech fwy o ddeunyddiau i hyrwyddo Pension Wise, gallwch gysylltu â [email protected]
Rydym yma i helpu. Os oes gennych gwestiynau pellach neu os hoffech drafod cael adnoddau wedi'u teilwra, cysylltwch â ni ar [email protected].