Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Tîm Arweiniad Gweithredol
    • HelpwrArian
      • Rhannu ymgyrch costau byw HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio , fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci
Mam feichiog yn chwarae gyda merch ifanc

Lles ariannol i breswylwyr tai

Cefnogi preswylwyr wrth iddynt gyllido ar gyfer morgeisi, rhent a biliau, addasu i Gredyd Cynhwysol, neu symud i gynlluniau Hawl i Brynu neu Help i Brynu. Defnyddiwch yr adnoddau hyn ar gyfer cymdeithasau tai, cynghorau, sefydliadau trydydd-sector, cwmnïau cyfleustodau, a sefydliadau rheoli hyd-fraich, am ddim.

  • Beth yw lles ariannol?
  • Help â chyllido a biliau
  • Cyngor ar ddyledion
  • Canllawiau i'ch helpu i gefnogi preswylwyr
  • Datblygu eich sgiliau arweiniad ariannol
  • Ymgorfforwch arweiniad ariannol yn eich cyfathrebiadau

Beth yw lles ariannol?

Mae lles ariannol am deimlo’n ddiogel a bod pethau mewn rheolaeth. Mae’n gwybod eich bod yn gallu talu’r biliau heddiw, gallu delio â’r annisgwyl, ac eich bod ar y trywydd iawn i ddyfodol ariannol iach. Yn fyr: yn wydn, hyderus ac wedi grymuso yn ariannol.

Nol i’r brig

Help â chyllido a biliau

Cyferiwch i’n harweiniad arian ar gyfer preswylwyr sy’n cael trafferth â biliau cyfleustodauYn agor mewn ffenestr newydd ar HelpwrArian

Pecyn cymorth credydwyr

Gall credydwyr o bob sector elwa o gydweithio ag asiantaethau cyngor ar ddyledion. Lawrlwythwch ein canllaw i ymarfer da ar gyfer astudiaethau achos ymarferol a saith ffordd y gall credydwyr gydweithio â chynghorwyr dyledion i sicrhau bod pobl a all ad-dalu eu dyledion yn gwneud hynny, a bod credydwyr yn cael yr arian sy’n ddyledus.

Pecyn Cymorth CredydwrYn agor mewn ffenestr newydd (yn Saesneg) (PDF/A, 2.8MB)

Treth Cyngor

Mae ein canllawiau i gynghorau wedi eu llunio i gynorthwyo canlyniadau tecach, gwella ymgysylltiad rhwng preswylwyr a chynghorau a darparwyr cyfleustodau, a thaliadau cynhaliol o ôl-ddyledion, trwy cydweithio’n fwy ag asiantaethau cyngor ar ddyledion. Mae’r adnodd wedi’i fodelu ar enghreifftiau ymarfer gorau o gynghorau a darparwyr cyfleustodau yng Nghymru a Lloegr.

Canllaw i gynghorau a chwmnïau cyfleustodau: Adennill Treth Gyngor CefnogolYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 11.7MB)

 

Cynlluniwr Cyllideb

Bydd ein cyfrifiannell cyllidebYn agor mewn ffenestr newydd am ddim yn eich helpu i wybod yn union ble mae'ch arian yn cael ei wario, a faint sydd gennych yn dod i mewn. Mae gwybod sut i reoli cyllideb – cadw cofnod o ble mae pob punt yn cael ei wario - yn gam cyntaf gwych i ddechrau eich cynilion, dod allan o ddyled neu baratoi ar gyfer ymddeoliad. Gall ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim helpu.

Credyd Cynhwysol

Mae ein teclyn llywio ariannol Credyd Cynhwysol (UC) ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd yn cefnogi preswylwyr ar daliadau UC. Gall preswylwyr ddefnyddio’r teclyn hygyrch hwn i helpu i wneud penderfyniadau cyllidebu a chynllunio ymlaen llaw i gadw’n gyfredol â thaliadau rhent.

Gall preswylwyr ddefnyddio’r teclyn i:

  • gael gwybodaeth a chyngor yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol
  • gweithio allan y ffyrdd gorau i dalu eu rhent
  • darganfod pa gyfrifon banc sydd orau ar gyfer rheoli eu taliadau
  • cael awgrymiadau arbed arian i gwtogi costau biliau cartref
  • darganfod beth i’w wneud a ble i gael help os ydynt yn cael trafferthion.

Dewis cyfrif banc

Mae ein canllaw i ddewis y cyfrif banc cywirYn agor mewn ffenestr newydd yn cefnogi preswylwyr i ddewis cyfrif sy’n gweddu orau i’w hanghenion, ac yn cynnwys canllaw fideo i agor cyfrif banc.

Cyngor ar ddyledion

Ar gyfer preswylwyr sy’n ei chael hi’n anodd i gadw fyny â rhent a biliau, cyfeiriwch at gymorth cyngor ar ddyled lleol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Dysgwch fwy am ble i gael cyngor ar ddyledion am ddimYn agor mewn ffenestr newydd

Gall ein Blaenoriaethwr Biliau helpu preswylwyr i roi eu biliau a thaliadau yn y drefn gywir. Os ydynt yn cael trafferth i dalu, bydd yn dweud wrthynt mewn dau gam hawdd beth i’w wneud cyn i chi fethu taliad.

Defnyddiwch ein teclyn Blaenoriaethu BilYn agor mewn ffenestr newydd

 

Rhwydwaith Cynghorwyr Arian

Mae’r Rhwydwaith Cynghorwyr Arian yn dwyn ynghyd rhai o ddarparwyr cyngor ar ddyledion mwyaf adnabyddus y wlad at ei gilydd er mwyn i unigolion allu cael cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar ddyledion yn syth neu ar adeg sy’n gyfleus iddynt.

Dysgwch fwy a chymerwch ran yn y RhwydwaithYn agor mewn ffenestr newydd 

Nol i’r brig

Canllawiau i'ch helpu i gefnogi preswylwyr

Hawl i Brynu a chymorth morgeisi

Mae cael ar yr ysgol eiddo yn newid mawr mewn amgylchiadau ariannol. Mae ein canllawiau morgais a phrynu i gynorthwyo’r rheiny sy’n gwneud y newid hwn.

  • Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgaisYn agor mewn ffenestr newydd
  • Canllaw i brynwyr am y tro cyntafYn agor mewn ffenestr newydd
  • Canllaw i wyliau morgeisiYn agor mewn ffenestr newydd

Hawl i Brynu a Help i Brynu

Cefnogi’ch tenantiaid cymwys trwy gynnig atebion i gwestiynau cyffredin am y cynlluniau:

  • Canllaw Hawl i Brynu ar gyfer Cymru, Lloegr, a Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cynllun Hawl i BrynuYn agor mewn ffenestr newydd – Cwestiynau Cyffredin

Canllawiau syml i gredyd

Os yw preswylwyr angen benthyg arian ac yn meddwl am gael cerdyn credyd neu fenthyciad, bydd ein canllawiau yn eu helpu i ystyried eu hopsiynau.

  • Sut i wella’ch sgôr credydYn agor mewn ffenestr newydd
  • Canllaw i gardiau credydYn agor mewn ffenestr newydd
  • Esbonio cardiau siopYn agor mewn ffenestr newydd
  • Esbonio cyfraddau llogYn agor mewn ffenestr newydd
  • Dewisiadau amgen i fenthyciadau diwrnod taluYn agor mewn ffenestr newydd
  • Sut i adnabod siarciau benthygYn agor mewn ffenestr newydd

Dechrau neu gynyddu teulu

Mae dim ond 41% yn chwilio am gyngor ariannol yn ystod digwyddiadau bywyd. Defnyddiwch y teclynnau ar-lein hyn i roi canllawiau i breswylwyr ar gyfnodau allweddol, fel mamolaeth neu dadolaeth:

  • Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd
  • Hawliau mamolaeth a thadolaethYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Datblygu eich sgiliau arweiniad ariannol

Mae Arweinwyr Arian yn rhaglen peilot sy’n rhedeg trwy 2021 ar gyfer gweithwyr rheng flaen mewn ystod o sectorau. Cefnogwch breswylwyr â materion ariannol trwy ddatblygu eich sgiliau cyngor ariannol, ac ymuno â chymuned newydd o dywyswyr ariannol ar draws y DU, i gymryd eich help ymhellach.

Archwilio Arweinwyr Arian

Nol i’r brig

Ymgorfforwch arweiniad ariannol yn eich cyfathrebiadau

Rydym yn cynnig ystod eang o gyngor a ffyrdd i’w rannu â’ch cwsmeriaid.

Cewch gefnogaeth wedi’i theilwra, am ddim, i adeiladu lles ariannol trwy gysylltu â’n tîm partneriaethau rhanbarthol. Byddant yn eich helpu i ddod o hyd i’r arweiniad sydd fwyaf addas ar gyfer eich preswylwyr a’ch gweithwyr, a’n cynnig opsiynau ar sut i gyfathrebu â nhw.

Cysylltwch â'n tîm partneriaethau

Nol i’r brig
  • Lles ariannol yn y gweithle
  • Lles ariannol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • Lles ariannol yn eich awdurdod lleol
  • Lles ariannol i breswylwyr tai
  • Addysg ariannol mewn ysgolion
  • Lles ariannol yn eich lleoliad

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Gwybodaeth gyhoeddus
  • Ceisiadau mynediad pwnc
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2025 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.