Gan fod nifer yn wynebu cyfyngiad digynsail ar eu cyllidebau, mae MaPS wedi datblygu cynnwys, teclynnau a chanllawiau i roi’r wybodaeth gywir i bobl yn gyflym, eu cyfarwyddo i wybodaeth a phartneriaid gallwch ymddiried ynddynt.
Rydym yn profi’r cyfyngiad fwyaf ar incwm ers dros 50 mlynedd gan adael miliynau mewn angen help ariannol. Oherwydd prisiau ynni uchel, chwyddiant a chyfraddau llog cynyddol disgwylir i’r DU bod mewn dirwasgiad trwy 2023.
Mae’n bwysig i bobl cael mynediad i’r arweiniad sydd ar gael i sicrhau bod yr effeithiau gwaethaf yn cael ei leihau.
Mae ein hymgyrch Costau Byw gyda brand HelpwrArian yn gwneud pobl yn ymwybodol o beth allwn ei gynnig a’n cyfarwyddo pobl i’r arweiniad arian diduedd ac am ddim sydd ar gael i bobl ledled y DU.
Rydym nawr angen eich cefnogaeth i sicrhau bod yr ymgyrch mor effeithiol â phosibl trwy ei integreiddio a helaethu trwy eich sianeli.
Rydym yn cynnig arweiniad clir a diduedd, am ddim yn uniongyrchol i bobl trwy ein sianeli digidol, canllawiau printiedig a llinellau cymorth defnyddwyr. Gallwch fod yn hyderus bod unrhyw gynnwys rydych yn ei rannu gennym yn galluogi’r bobl rydych yn eu cefnogi cael yr help cywir pan maent ei angen.
Rydym hefyd yn gwybod y gallai llawer ohonynt fod yn teimlo eu bod yn cael eu cyfyngu’n ariannol ar hyn o bryd ac yn wynebu heriau ariannol newydd mewn amseroedd ansicr. Gall frwydro i gadw ar ben biliau, delio gyda llai o incwm , costau byw cynyddol neu golled gadael pobl yn teimlo fel nad ydynt yn gwybod ble i droi.
Dyna pam rydym wedi creu pecynnau cynnwys gweithredol, gan gynnwys cynnwys cylchlythyr a mewnrwyd ac asedau printiedig er mwyn i chi eu defnyddio yn eich sianeli.
Ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg trwy’r botymau isod, bydd yr asedau hyn yn eich helpu i godi ymwybyddiaeth a darparu arweiniad arian y gallwch ymddiried ynddo i’ch gweithwyr, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth yn y ffordd maent am gael mynediad iddo.
Gallwch hefyd defnyddio dolenni i neu ymwreiddio ein fideos o’n sianel YouTubeYn agor mewn ffenestr newydd
Gwelwch a lawrlwythwch ein asedau:
Am wybodaeth ddyfnach ar ddelio gyda chostau byw cynyddol, mae gennym lyfryn 28 tudalen a all gael ei lawrlwytho o HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd
Rydym yma i helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach rydych yn teimlo nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adnoddau ar y dudalen hon, cysylltwch â ni ar [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd.
Mae HelpwrArian yn dod â gwasanaethau a chynnwys arweiniad arian ynghyd, gan ei wneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i’r wybodaeth maent yn chwilio amdani.
Mae HelpwrArian yma i’ch helpu i symud ymlaen gyda bywyd. Yma i dorri trwy’r jargon a chymhlethdod, esbonio beth sydd angen i chi ei wneud a sut gallwch ei wneud. Yma i’ch rhoi chi mewn rheolaeth, gyda chyngor diduedd, am ddim, sy’n gyflym i ddod o hyd iddo, hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.
Beth bynnag yw’ch amgylchiadau, mae HelpwrArian ar eich ochr chi. Ar-lein a dros y ffôn, byddwch yn cael cyngor arian a phensiwn clir. Gallwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau y gellir ymddiried ynddynt, os ydych angen cyngor pellach.
Arweiniad pensiynau: 0800 011 3797
Arweiniad ariannol: 0800 138 7777