Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn (yr “Hysbysiad Preifatrwydd”) yn berthnasol i’r holl weithgareddau prosesu gwybodaeth bersonol a gyflawnir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).
1.1. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn (yr “Hysbysiad Preifatrwydd”) yn berthnasol i’r holl weithgareddau prosesu gwybodaeth bersonol a gyflawnir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS). Sefydlwyd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau fel corff annibynnol gyda chyfrifoldeb am wella rheolaeth arian pobl ym mis Mai 2018
1.2. Y ddeddfwriaeth sy’n deddfu hyn yw Deddf Arweiniad a Cheisiadau Ariannol 2018Yn agor mewn ffenestr newydd, sy’n dod â sefydliadau sy’n dod o dan y polisi preifatrwydd hwn ynghyd i ddarparu cyngor ar ddyledion, arweiniad ariannol ac arweiniad pensiwn am y tro cyntaf:
1.3. Bydd y corff newydd yn darparu canllawiau ariannol diduedd am ddim a gwasanaeth symlach i aelodau'r cyhoedd gan roi mynediad haws i'r wybodaeth a'r arweiniad. Daeth MaPS yn endid cyfreithiol ar 1 Hydref 2018 a bydd yn ymgymryd â’i swyddogaethau cyflawni o fis Ionawr 2019.
1.4. Amcanion y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yw;
1.5. Rhaid i’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau roi sylw i’w amcanion wrth arfer ei swyddogaethau.
1.6. Yn yr adran hon, ystyr “gwybodaeth, arweiniad a chyngor” yw;
1.7. Er mwyn cyflawni'r swyddogaeth hon, rydym yn casglu, prosesu a storio data personol a sensitif yn barhaus. Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol yw cyflawni ein tasg gyhoeddus a nodir uchod. Bydd eithriadau i hyn ar sail gyfreithlon caniatâd ein cwsmeriaid. Mae gennym gyfrifoldeb i ddiogelu'r wybodaeth hon a sicrhau ei chyfrinachedd, ei chywirdeb a'i hargaeledd.
1.8. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn disgrifio pam a sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data personol. Gallwn ddefnyddio data personol a ddarperir i ni at unrhyw un o’r dibenion a ddisgrifir yn y datganiad preifatrwydd hwn neu fel y nodir yn wahanol ar y pwynt casglu.
1.9. Ar hyn o bryd, bydd gan Pension Wise ei bolisïau preifatrwydd ei huna bydd hyn yn berthnasol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
1.10. Mae MaPS yn rheolydd data mewn perthynas â gwybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu mewn cysylltiad â’n busnes. Yn yr hysbysiad hwn, mae cyfeiriadau at “ni” neu “ein” yn gyfeiriadau at MaPS.
1.11. Ein prif gyfeiriad yw Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB a cheir manylion cyswllt pellach yn https://www.moneyandpensionsservice.org.uk/contact-us. Ceir rhagor o wybodaeth am MaPS ar ein gwefan www.moneyandpensionsservice.org.uk.
1.12. Rydym yn parchu hawliau unigolion i breifatrwydd ac i ddiogelu gwybodaeth bersonol. Pwrpas yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â’n busnes. Mae “gwybodaeth bersonol” yn golygu gwybodaeth am unigolyn byw y gellir ei adnabod o’r wybodaeth honno (naill ai ar ei ben ei hun neu pan gaiff ei gyfuno â gwybodaeth arall).
1.13. Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru ein Hysbysiad Preifatrwydd o bryd i’w gilydd. Pan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau ac yn cyhoeddi'r Hysbysiad Preifatrwydd a fydd wedi'i ddiweddaru ar ein gwefan. Byddem yn eich annog i ymweld â’n gwefan yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y dibenion yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth ar eu cyfer a’ch hawliau i reoli sut rydym yn ei phrosesu.
2.1. Data personol – mae hyn yn golygu unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson byw adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn benodol drwy gyfeirio at ddynodwr. Mae’r diffiniad hwn yn galluogi amrywiaeth eang o ddynodwyr personol i fod yn ddata personol, gan gynnwys enw, rhif adnabod, data lleoliad neu ddynodwr ar-lein, gan adlewyrchu newidiadau mewn technoleg a’r ffordd y mae sefydliadau’n casglu gwybodaeth am bobl.
2.2. Mae eich gwybodaeth yn cynnwys yr holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Mae'n cynnwys;
2.3. Gwybodaeth a gasglwn o’r dechnoleg rydych yn ei defnyddio i gael mynediad at ein gwasanaethau, er enghraifft;
2.4. Gwybodaeth bersonol “sensitif” a “chategorïau arbennig”
3.1. Rydym am sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydym yn ei phrosesu. Rydym wedi disgrifio’r hawliau hynny a’r amgylchiadau y maent yn berthnasol iddynt isod. Os dymunwch arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol nad ydynt yn cael eu hateb yma, neu os hoffech gwyno i’n Swyddog Diogelu Data, anfonwch e-bost atom yn [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 020 7943 0500Yn agor mewn ffenestr newydd.
3.2. Mynediad – Mae gennych hawl i gael mynediad at y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch. Os hoffech gopi o’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, ysgrifennwch at: Swyddog Diogelu Data, Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB neu ffoniwch 020 7943 0500Yn agor mewn ffenestr newydd.
3.3. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad at eich gwybodaeth a’r dogfennau y mae angen i chi eu cyflwyno, cwblhewch ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth (SAR)Yn agor mewn ffenestr newydd (PDF, 290KB) a’i chyflwyno naill ai drwy e-bost: [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd neu drwy'r post i: Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.
3.4. Cywiro – Mae gennych hawl i gywiro gwybodaeth bersonol anghywir ac i ddiweddaru gwybodaeth bersonol anghyflawn. Os ydych yn credu bod unrhyw ran o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu’r wybodaeth honno ac i gywiro’r wybodaeth bersonol anghywir.
3.5. Dileu – Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol. Gallwch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol os ydych yn credu:
3.6. Cyfyngiad – Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. Gallwch ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol os ydych yn credu;
3.7. Gwrthwynebiad – Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae gennych hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol (a gofyn i ni gyfyngu ar brosesu) at y dibenion a ddisgrifir yn Atodlen A – Dibenion Prosesu (isod), oni bai y gallwn ddangos seiliau cymhellol a chyfreithlon dros y prosesu, a allai diystyru eich buddiannau eich hun neu lle mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth i ymchwilio ac i’n amddiffyn ni neu eraill rhag hawliadau cyfreithiol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd angen i ni gyfyngu neu roi’r gorau i brosesu eich gwybodaeth bersonol yn gyfan gwbl, neu lle gofynnir am hynny, dileu eich gwybodaeth.
3.8. Tynnu caniatâd – Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl. Lle rydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu eich gwybodaeth bersonol, mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Byddwn bob amser yn ei gwneud yn glir ble rydym angen eich caniatâd i ymgymryd â gweithgareddau prosesu penodol.
3.9. Cyflwyno cwynion – Mae gennych hawl i gyflwyno cwyn. Os dymunwch wneud cwyn am y modd yr ydym wedi trin eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i’r mater ac yn adrodd yn ôl i chi.
E-bost: [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd
Post: Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.
Ffôn: 020 7943 0500Yn agor mewn ffenestr newydd
Gobeithiwn y gallwn fynd i’r afael ag unrhyw bryderon sydd gennych, ond gallwch bob amser gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ico.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd
4.1. Efallai y byddwn yn newid yr hysbysiad hwn o bryd i'w gilydd, yn gyfan neu'n rhannol, yn ôl ein disgresiwn llwyr neu i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol. Rydym yn eich annog i wirio ein gwefan i weld fersiwn ddiweddaraf yr hysbysiad hwn. Gallwch hefyd ofyn am gopi o'r fersiwn ddiweddaraf trwy gysylltu â ni.
5.1. Dim ond lle mae'n angenrheidiol i ni gyflawni ein gweithgareddau busnes yn gyfreithlon y byddwn yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth. Rydym eisiau sicrhau eich bod yn deall yn iawn sut y gellir defnyddio'ch gwybodaeth. Rydym wedi disgrifio'r dibenion y gellir defnyddio'ch gwybodaeth yn fanwl yn Atodlen A - Dibenion Prosesu.
5.2. Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol â sefydliadau eraill o fewn grŵp MaPS, y mae pob un ohonynt yn darparu'r un lefel uchel o ddiogelwch ac amddiffyniad. Mae gennym bolisïau ar draws y grŵp i sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gwarchod, waeth pa sefydliad yn grŵp MaPS sy'n dal y wybodaeth honno.
5.3. Rydym yn casglu data personol fel y gallwn ddeall eich sefyllfa a darparu gwybodaeth ac arweiniad wedi'i bersonoli i chi. Rydym yn defnyddio'r data yr ydym yn ei storio i'n helpu i sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaeth o ansawdd uchel yn barhaus sy'n gywir ac yn glir ac yn unol â deddfwriaeth gyfredol y DU a/neu'r UE; a darparu mewnwelediad meintiol ac ansoddol ar ein gwasanaeth at ein defnydd a'n trydydd partïon.
5.4. Os ydych am i ni roi'r gorau i ddefnyddio gwybodaeth bersonol rydyn ni wedi'i chasglu trwy gwcis ar ein gwefannau, dylech newid eich gosodiadau cwcis. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn penderfynu cadw gwybodaeth, hyd yn oed os y gofynnwch i ni beidio. Gallai hyn fod am resymau cyfreithiol neu reoleiddio, fel y gallwn barhau i ddarparu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau. Byddwn bob amser yn dweud wrthych pam ein bod yn cadw'r wybodaeth.
6.1. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw un y tu allan i MaPS heblaw am;
6.2. Dim ond ar sail gyfyngedig y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon yn dilyn diwydrwydd dyladwy ac yn unol â'n gweithdrefnau mewnol.
6.3. Ni fydd MaPS yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd partïon at eu dibenion marchnata eu hunain.
7.1. Byddwn yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth sy'n berthnasol i'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau neu raglen Gallu Ariannol (gan gynnwys gwybodaeth wedi'i diweddaru am sut rydym yn prosesu'ch gwybodaeth bersonol), trwy amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys trwy e-bost, post a/neu ffôn. Os byddwch chi'n newid eich manylion cyswllt ar unrhyw adeg yn y dyfodol, dylech ddweud wrthym yn brydlon am y newidiadau hynny.
7.2. Os byddwch chi'n newid eich meddwl ynglŷn â sut yr hoffech i ni gysylltu â chi neu nad ydych chi am dderbyn y wybodaeth hon mwyach, gallwch chi ddweud wrthym ar unrhyw adeg trwy anfon e-bost atom yn [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd.
7.3. Efallai y byddwn yn monitro neu'n cofnodi galwadau, e-byst, negeseuon testun neu gyfathrebiadau eraill yn unol â deddfau cymwys at y dibenion a amlinellir yn Atodlen A - Dibenion Prosesu.
8.1. Wrth gysylltu â'n gwasanaeth ffôn, rydym yn creu cofnodion sy'n cynnwys eich gwybodaeth. Gellir dal cofnodion ar amrywiaeth o gyfryngau (corfforol neu electronig) a fformatau.
8.2. Rydym yn rheoli ein cofnodion i'n helpu i wasanaethu ein cwsmeriaid yn dda (er enghraifft am resymau gweithredol, megis delio ag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â chyngor dyled, arian neu arweiniad pensiynau) ac i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a statudol. Mae cofnodion yn ein helpu i ddangos ein bod yn cwrdd â'n cyfrifoldebau ac i gadw fel tystiolaeth o'n gweithgareddau busnes.
8.3. Mae cyfnodau cadw ar gyfer cofnodion yn cael eu pennu yn seiliedig ar y math o gofnod a natur y gweithgaredd. Fel rheol, rydym yn cadw cofnodion cyfrif cwsmeriaid am hyd at bum mlynedd ar ôl i'ch perthynas â'r gwasanaeth arian a phensiynau ddod i ben, tra bod cofnodion eraill yn cael eu cadw am gyfnodau byrrach, er enghraifft 90 diwrnod ar gyfer cofnodion teledu cylch cyfyng neu 12 mis ar gyfer recordiadau galwadau. Gellir newid cyfnodau cadw o bryd i'w gilydd yn seiliedig ar ofynion busnes neu gyfreithiol a rheoliadol.
8.4. Efallai y byddwn ar eithriad yn cadw'ch gwybodaeth am gyfnodau hirach, yn enwedig pan fo angen i ni atal rhag dinistrio neu waredu gwybodaeth yn seiliedig ar orchymyn gan y llysoedd neu ymchwiliad gan asiantaethau gorfodaeth cyfraith. Bwriad hyn yw sicrhau y bydd y sefydliad yn gallu cynhyrchu cofnodion fel tystiolaeth, os oes eu hangen.
8.5. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am ba hyd yr ydym yn cadw'ch gwybodaeth, cysylltwch â ni ar [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch ar 020 7943 0500Yn agor mewn ffenestr newydd.
9.1. Rydym wedi ymrwymo i gynnal a gwella preifatrwydd a chyfrinachedd eich data personol. Rydym yn cymryd camau amrywiol i amddiffyn y wybodaeth rydych yn ei darparu rhag colled, camddefnydd, a mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig gan; sicrhau mai dim ond pobl awdurdodedig all gael mynediad at eich data a chynnal gweithgareddau prawf sganio a threiddiad gwefan. Mae'r camau hyn yn ystyried sensitifrwydd y wybodaeth yr ydym yn ei chasglu, ei phrosesu a'i storio, a chyflwr cyfredol technoleg.
9.2. Mae eich data yn cael ei storio y tu mewn i Ardal Economaidd Ewrop (AEE) ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo y tu allan i'r AEE.
9.3. Os yw toriad diogelwch yn achosi ymyrraeth anawdurdodedig i'n system sy'n effeithio'n sylweddol arnoch chi neu breifatrwydd eich data, byddwn yn eich hysbysu cyn gynted ag sy’n bosibl. Byddwn hefyd yn hysbysu Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) cyn pen 72 awr ar ôl dod yn ymwybodol o'r toriad.
9.4. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel gyda ni a chyda'r trydydd partïon sy'n gweithredu ar ein rhan. I gael mwy o wybodaeth am y camau yr ydym yn eu cymryd i amddiffyn eich gwybodaeth, cysylltwch â ni ar [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch ar 020 7943 0500Yn agor mewn ffenestr newydd.
10.1. Dim ond pan ei bod yn angenrheidiol i ni gyflawni ein gweithgareddau busnes cyfreithlon y byddwn yn defnyddio ac yn rhannu eich gwybodaeth. Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu a'i phrosesu gan aelodau o'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MAPS):
10.2. Byddwn yn prosesu'ch gwybodaeth lle mai ein rhwymedigaeth statudol yw gwneud hynny (tasg gyhoeddus) a heb ragfarnu eich buddiannau na'ch hawliau a rhyddid sylfaenol. Rydym am sicrhau eich bod yn deall yn iawn sut y gellir defnyddio'ch gwybodaeth. Rydym wedi disgrifio'r dibenion y gellir defnyddio'ch gwybodaeth yn fanwl ar eu cyfer isod:
10.3. Datblygu ein gwasanaeth(au) ac adeiladu dealltwriaeth well o'r hyn y mae ein cwsmeriaid ei eisiau. Mae hyn yn golygu y byddwn yn;