Lady pointing at laptop with a man watching

Lles ariannol yn y gweithle

Mae bron i 8 mewn 10 o gyflogeion yn y DU yn mynd â’u pryderon ariannol i’r gwaith, gan effeithio ar eu perfformiad. Yn ffodus, mae llawer o ffyrdd i hyrwyddo lles ariannol yn y gweithle.

Beth mae lles ariannol yn ei olygu

Mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel a bod pethau mewn rheolaeth. Mae'n golygu eich bod yn gwneud y gorau o'ch arian o ddydd i ddydd, yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trwydydd iawn i ddyfodol ariannol iach. Yn fyr: yn wydn, yn hyderus ac wedi eich grymuso’n ariannol.

Dyna ein diffiniad yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Rydym eisiau gweld pawb yn y DU yn gwneud y gorau o’u harian a’u pensiynau. Rydym yn rhoi cyngor diduedd am ddim sy’n helpu unigolion i wneud dewisiadau ariannol cadarn. Rydym hefyd yn cefnogi cyflogwyr a’u partneriaid i wella lles ariannol yn y gweithle.

Pam mae’n bwysig yn y gweithle

Pryderon ariannol yw achos mwyaf straen i gyflogeion yn y DU (1). Maent yn niweidiol i’r busnes hefyd, ac yn aml yn arwain at salwch staff. Mae’r ddadl dros les ariannol yn y gwaith yn gymhellol.

Collir 4.2 miliwn o ddiwrnodau gweithwyr bob blwyddyn mewn absenoldebau oherwydd diffyg lles ariannol. Mae hynny’n gyfwerth â £626 miliwn mewn allbwn colledig (2).

Mae bron i 7 mewn 10 o gyflogwyr yn y DU yn credu bod perfformiad staff yn cael ei effeithio’n negyddol pan fydd cyflogeion dan bwysau ariannol (3).

Eisiau gwybod mwy?

Mae gennym gyfoeth o dystiolaeth i'w rannu gyda chi ar yr hyn sy'n gweithio i adeiladu lles ariannol yn y gweithle.

Mae'r dolenni ar ochr y dudalen hon yn gwneud dadansoddiadau mwy manwl ar sut y gellir gwella lles ariannol mewn gwahanol ffyrdd ar draws eich busnes neu'ch sefydliad.

Sut gallwn ni eich cefnogi

Mae’r mentrau a rennir ar y tudalennau hyn yn tynnu ar ein harbenigedd, cymorth, ac adnoddau. Byddant yn eich helpu i wella lles ariannol yn eich gweithle.

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth am ddim i fusnesau gan gynnwys:

  • rheolwr partneriaeth ymroddedig wedi'i leoli yn eich lleoliad, gyda rheolwyr yng Nghymru. Gogledd Iwerddon a'r Alban a rhanbarthau ledled Lloegr.
  • cefnogaeth bwrpasol i'ch helpu chi i adeiladu a gweithredu eich strategaeth lles ariannol.
  • detholiad o ganllawiau sydd ar gael yn Saesneg a Chymraeg, ac mewn fformat print, braille neu sain, am ddim.
  • cymorth gyda Hwb Costau Byw sy'n cynnwys erthyglau, teclynnau, cyfrifianellau a chanllaw printiedig i gefnogi'ch cydweithwyr a'ch cwsmeriaid.
  • ein hymgyrch blynyddol i godi ymwybyddiaeth, Wythnos Siarad Arian, sy'n darparu llwyfan ar gyfer sgyrsiau am arian ym mhob cefndir.

Mae HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig gwasanaeth dwyieithog trwy amrywiaeth o sianeli, gyda theclynnau a llinellau cymorth yn Saesneg a Chymraeg:

  • arweiniad ar ddigwyddiadau bywyd a sut mae'r rhain yn effeithio ar bensiynau.
  • cymorth i weithwyr gynllunio ar gyfer bywyd diweddarach, gydag adran wedi'i chysegru i bensiynau ac arweiniad ymddeol.
  • teclynnau a chyfrifianellau amrywiol yn cynnig arweiniad wedi'i bersonoli ar gyfer pynciau gan gynnwys cyngor ar ddyled.

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau rhanbarthol am gyngor am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.

Wedi’i lleoli’n agos atoch, gall ein timau partneriaethau eich helpu i ddod â dealltwriaeth o rai o’r heriau lles ariannol lleol i chi.

Os oes gan eich sefydliad sawl safle, cysylltwch â rheolwr rhanbarthol sydd agosaf at eich prif swyddfa.

Fel arall, gallwch gysylltu â’ tîm partneriaethau yn partners@maps.org.uk.

Ffynonellau

(1) Mae 94% o gyflogeion yn y DU yn cyfaddef i boeni am arian ac, o’r rheiny, mae 77% yn dweud bod pryderon ariannol yn effeithio arnynt yn y gweithle.
Close Brothers, The Financial Wellbeing Index (2019).

(2) Centre for Economics and Business Research, Financial wellbeing and productivity: A study into the financial wellbeing of UK employees and its impact on productivity, 2018

(3) 69% o gyflogwyr y DU. Neyber (2018), The DNA of Financial Wellbeing 2018.