Helpwch eich gweithlu i gynilo arian ac adeiladu gwytnwch ariannol ar gyfer y dyfodol, ac i weithio tuag at nod a gwella tawelwch meddwl.
Mae lles ariannol yn golygu teimlo’n ddiogel a mewn rheolaeth o’ch arian. I fod yn ymwybodol y gallwch dalu’r biliau heddiw, yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trywydd iawn am ddyfodol ariannol iachus. Yn fyr: yn teimlo’n hyderus ac yn rymus.
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn trawsnewid lles ariannol yn y DU: rydym yma i sicrhau bod pob person yn teimlo mwy o reolaeth dros eu harian trwy gydol eu bywydau: o arian poced hyd at bensiynau. Pam? Oherwydd pam rydynt, mae cymunedau’n fwy iach, busnesau’n fwy ffyniannus, mae’r ecomoni yn elwa ac mae uniogolion yn well eu byd.
Mae ein lles corfforol, meddylion ac ariannol wedi’u cysylltu’n agos. Mae cefnogi lles ariannol gweithwyr fel rhan cyffredinol o strategaetrh lles a buddion gweithwyr yn cael buddion clir i’r cyflogwr a’r gweithiwr, ond mae llawer o gyflogwyr yn ei chael hi’n anodd i lywio’r llu o ymyriadau sydd ar gael.
Gall MaPS eich helpu i archwilio:
Mae cynilo trwy eich cyflogres yn un o nifer o ffyrdd o hybu lles ariannol yn eich gweithle.
Cynilo trwy gyflogres yw cynilo’n rheolaidd yn uniongyrchol o gyflog gweithiwr. Mae’r cyflogwr yn didynnu’r swm y mae’r gweithiwr yn dymuno cynilo yn uniongyrchol o’u cyflog trwy’r cyflogres.
Yn debyg i gynilion pensiwn, mae natur ‘penu ac anghofio’ y broses hon yn ei wneud hi’n hawdd i bobl cynilo trwy ei wneud yn gyson ac yn ddiymdrech.
Mae cynlluniau cynilo trwy gyflogres yn anelu at gronni byffer cynilion neu gefnogi cynilo ar sail nod trwy ddargyfeirio cyfran o gyflog i mewn i gyfrwng cynilo bob mis.
Mae tystiolaeth addawol yn dod i’r amlwg ar effaith ac apêl cynilion cyflogres. Yn 2015 dangosodd Sefydliad Siartredig Gweithwyr Proffesiynol y Gyflogres yr hoffai 55% o weithwyr 16-65 oed i’w cyflogwr gynnig cynllun cynilo cyflogres.
Mae dau arolwg Cushon 2020 yn dangos bod 72% o’r gweithwyr a arolygwyd eisiau mynediad at gynllun cynilo yn y gweithle ac y byddai 92% o’r cyflogwyr yn gweithredu cynllun cynilion gweithle.
Mae ymchwil yn dangos bod 8 o bob 10 gweithiwr y DU yn cymryd eu pryderon ariannol i’r gwaith, gan effeithio ar eu perfformiad (1). Lleihau straen ariannol a gwella cynhyrchiant trwy ddarparu’r gwasanaeth awtomatig hwn.
Mae darparwyr cynnyrch ariannol sy’n gweithio gyda chyflogwyr i gynnig cynilion a didynnir o gyflogres, benthyciadau a chynlluniau taliad cyflog ymlaen llaw yn amrywio o undebau credyd i ddarparwyr fintech.
Er na all y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ddewis darparwr i chi, gallwn nodi’r dewisiadau cynnyrch sydd ar gael i chi.
Mae addysg ariannol ac arweiniad ar reoli arian yn bwysig i helpu’ch pobl i benderfynu a yw cynilion a ddidynnir trwy’r gyflogres yn diwallu eu hanghenion – ni ddylid ei gyflwyno yn lle cyfraniadau at bensiwn gweithle, ac ni ddylai pobl sefydlu cynllun cynilo cyflogres heb ystyried yn gyntaf os ydynt ar ben unrhyw ymrwymiadau dyled.
Mae MaPS, a sefydlwyd gan y llywodraeth, yn ddarparwr diduedd o ganllawiau arian a phensiynau ar arian a’r cyllidwr mwyaf o gyngor ar ddyledion yn y DU.
Cysylltwch â’n tîm partneriaeth isod i gael cefnogaeth bwrpasol am ddim.
Cyn penderfynu a ddylid cynnig cynllun cyflogres a pha ddarparwr i fynd gydag ef, dylai cyflogwyr bob amser ystyried anghenion lles ariannol eu gweithlu, er enghraifft trwy arolwg, i helpu i adeiladu achos busnes.
Tystiolaethwch eich dull gweithredu ymhellach gyda’n mewnwelediadau a’n hymchwil a ariennir gan MaPS ar gynilo o gyflogres.
Mae BT, StepChange, Prifysgol Glasgow a Timpson yn cymryd rhan mewn treial ymchwil o gynilion cyfunol, lle gall staff ddewis didyniadau awtomatig o’u cyflog i mewn i bot cynilo hylifol, ochr yn ochr â chyfraniadau i bensiwn gweithle. Mae dysgu cynnar yn dangos bod cefnogaeth gan gyflogwr i’r syniad a dyluniad y cynnyrch yn uchel, ac mae ymdeimlad cryf y gallai’r mecanwaith didynnu cyflog fod yn ffordd effeithiol iawn i ddechrau’r arfer o gynilo.
Mae cyflogwyr yn dweud y gall arbedion cyflogres leihau’r angen iddynt gynnig mathau ychwanegol o gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau a blaensymiau cyflog, a all ofyn am weinyddiaeth ddwysach.
Mae’r treial parhaus yn sicrhau bod yr teclyn cynilo hwn ar gael i ystod eang o weithwyr, gan gynnwys pobl sydd ar incwm isel, rhan-amser a gweithwyr tymhorol.
Dysgwch fwy am dreial cynilion cyfunolYn agor mewn ffenestr newydd
Gweithiodd Cyngor Dinas Leeds a GIG Efrog gydag Undeb Credyd Leeds i redeg cynllun cynilo cyflogres, a phrofi cymell cynilion a defnyddio hyrwyddwyr staff fel modelau rôl. Roedd 70% o’r gweithwyr a gofrestrodd yn y cynllun yn cynilo bob mis ac roeddent 18% yn fwy tebygol o wneud hynny na’r rhai nad oeddent yn aelodau.
Bu MaPS yn cydweithio â’r Behavioural Insights Team (BIT) i werthuso’r broses o gyflwyno cynlluniau cynilion trwy’r gyflogres mewn dau fusnes bach a chanolig yng Ngogledd Iwerddon. Roedd y nifer sy’n derbyn cynilion trwy’r gyflogres yn y ddau gwmni tua 5–10%. Mae hynny’n gymharol uchel o’i gymharu â thystiolaeth o gyfraddau derbyn mewn cynlluniau eraill yn y DU.
Dewch o hyd i’ch undeb credyd agosafYn agor mewn ffenestr newydd
Archwiliodd prosiect gyda Capita a Level Financial Technology y ffordd orau o annog pobl i fanteisio ar gynilion y gyflogres drwy gymhwyso gwyddor ymddygiad i wella ymgysylltiad gweithwyr. Bu’r prosiect hefyd yn ymchwilio i wahanol ddulliau o annog cynilwyr trwy’r gyflogres i gynyddu lefelau cynilion.
Yn 2022, lansiwyd treial newydd yn y gweithle i brofi a allai mecanwaith optio allan alluogi llawer mwy o bobl sydd am gynilo drwy’r gyflogres ar gyfer y tymor byrrach i ddechrau arni.
Dysgwch fwy am ddulliau ymuno optio allanYn agor mewn ffenestr newydd
Cysylltwch â’n tîm partneriaethau rhanbarthol am gyngor am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.
Wedi’i lleoli’n agos atoch, gall ein timau partneriaethau eich helpu i ddod â dealltwriaeth o rai o’r heriau lles ariannol lleol i chi.
Os oes gan eich sefydliad sawl safle, cysylltwch â rheolwr rhanbarthol sydd agosaf at eich prif swyddfa.
Fel arall, gallwch gysylltu â’ tîm partneriaethau yn [email protected].
(1) Mae 94% o weithwyr y DU yn cyfaddef i boeni am arian ac, o’r rhain, mae 77% yn dweud bod pryderon arian yn eu heffeithio yn y gwaith. Close Brothers, The Financial Wellbeing Index (2019).