Pan fydd pobl yn estyn allan am help, rhoddir arweiniad arian yn aml ochr yn ochr â chefnogaeth ehangach. Mae'r rhaglen hunanddatblygiad hon yn helpu sefydliadau neu unigolion i siarad yn hyderus am arian gyda'u cwsmeriaid a rhoi arweiniad diogel, effeithiol. Wedi’i gefnogi gan y llywodraeth, wedi’i brofi i weithio ac ar gael ledled y DU. Mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan.
Byddwch yn rhan o'n cymuned gefnogol. Mae gennych wahoddiad agored i ymuno â'r gymuned ymarferwyr arweiniad arian ar unrhyw adeg. Rhannwch heriau. Dysgwch gyda'ch gilydd. Clywch gan arbenigwyr a mwy.
19 Hydref, 10.00 – 11.30
Arian a’r meddwl: Defnyddio mewnwelediadau seicolegol i wella arweiniad arian
Sesiwn ar-lein i ymarferwyr arweiniad arian. Archwiliwch y seicoleg y tu ôl i benderfyniadau arian a darganfyddwch declynnau ymarferol i ddeall, dangos empathi a chefnogi cleientiaid yn well.
19 Hydref, 10.00 – 11.00
Arweiniad arian i bobl sy’n gadael y carchar
Sesiwn ar-lein i ymarferwyr arweiniad arian. Archwiliwch yr heriau ariannol y mae pobl sy’n gadael y carchar yn eu hwynebu a’r rôl bwysig y gall arweiniad arian ei chwarae wrth gefnogi ailsefydlu llwyddiannus.
21 Hydref, 14.30 – 15.45
Deall cynilo: Canllaw i arweinwyr arian
Sesiwn esiwn ar-lein i ymarferwyr arweiniad arian. Archwiliwch pam fod cynilo’n bwysig, pam fod angen dulliau gwahanol ar gyfer nodau cynilo gwahanol, a’r gwahanol fathau o gynhyrchion cynilo sydd ar gael.
22 Hydref, 11.00 – 13.00
Deall treth etifeddiant: Cynllunio ar gyfer bywyd diweddarach [Wyneb yn wyneb]
Sesiwn wyneb yn wyneb i ymarferwyr arweiniad arian yng Ngogledd Iwerddon. Ymunwch â Rhwydwaith Arweinwyr Arian Gogledd Iwerddon am sesiwn glir, ymarferol a thosturiol ar gynllunio ar gyfer bywyd diweddarach yng Ngogledd Iwerddon.