Mae arweiniad arian yn wahanol i gyngor arian. Mae'n bwysig eich bod yn gwybod y gwahaniaeth wrth gefnogi eich cwsmeriaid.
Rydym yn cydnabod bod gan y gair 'cyngor' wahanol ystyron mewn cyd-destunau gwahanol. Yn y cyd-destun arian, mae rhoi "Cyngor" yn weithgaredd rheoledig. Dim ond cwmnïau sy'n cael eu rheoleiddio gan yr FCA all gynnig hyn.
Mae'r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Ariannol ar gyfer arweiniad arian heb eu rheoleiddio. Mae diffiniad defnyddiol o’r gwahaniaeth rhwng cyngor ac arweiniad isod*
Nid yw ymarferwyr arweiniad yn darparu argymhellion personol am gynhyrchion ariannol nac argymhellion ar gamau gweithredu penodol. Fodd bynnag, mae angen gwybodaeth cyffredinol ac eang ar yr ystod o gynhyrchion a gwasanaethau ariannol sydd ar gael ar y farchnad ar ymarferwyr arweiniad arian.
*Wedi'i addasu o'r diffiniadau a awgrymir gan arweiniad a chyngor a roddir gan y Gweithgor Cyngor Ariannol fel rhan o Adolygiad o'r Farchnad Cynghori Ariannol Trysorlys EF/FCA (FAMR).