Isod, gallwch ddod o hyd i wybodaeth gyswllt ar gyfer ymholiadau cyhoeddus neu gyfryngau cyffredinol, i wneud cwyn neu ofyn am fynediad at wybodaeth bersonol.
Ewch i'n tudalen Swyddfa'r Wasg
Rydym wedi ymrwymo i helpu pobl i ddeall ac ymgysylltu â'u harian. Os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a gawsoch, mae ein Polisi CwynionYn agor mewn ffenestr newydd (PDF, 143KB) yn nodi sut y byddwn yn ymdrin â'ch cwyn.
Ar gyfer unrhyw gwynion eraill, e-bostiwch [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd neu ysgrifennwch atom yn: Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP.
Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch o fewn pum niwrnod gwaith ac yn ymateb i chi o fewn 20 niwrnod gwaith.
Er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu o'r adborth a gawn, mae ein bwrdd yn cael adroddiadau rheolaidd yn crynhoi unrhyw gwynion a sylwadau a gawsom a'r camau a gymerwn.
I gael mynediad at y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi, cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data (DPO) yn uniongyrchol drwy e-bost [email protected] neu drwy'r post at: Swyddog Diogelu Data, Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AP.
Fel arall, cwblhewch Gais Am Fynediad At Wybodaeth (SARYn agor mewn ffenestr newydd) (PDF, 259KB) a'i dychwelyd atom. Hefyd, gallwch ddarganfod mwy yn ein canllaw am Geisiadau am Fynediad at Wybodaeth (SAR) a'ch hawl i gael mynediad at y pwnc.