Mae Lawrence Davies, Rheolwr Partneriaeth Cymru, yn edrych ar yr heriau lles ariannol yn y genedl, a sut y gall y Gwasanaeth Arian a Phensiynau helpu eich sefydliad i gael effaith gadarnhaol ar gyfer eich cydweithwyr a’ch cymuned.
Mae gan Lawrence dros 25 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau ariannol. Mae yma i helpu cwmnïau a sefydliadau ledled Cymru i wella lles ariannol y genedl a chefnogi perfformiad busnes.
Cysylltwch â Lawrence yn Gymraeg neu Saesneg i gael gwybod beth y gall ei wneud ar gyfer eich busnes.
I ni yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth. Mae’n ymwneud â gwneud y gorau o’ch arian o ddydd i ddydd, delio â’r annisgwyl, a bod ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach. Yn fyr: yn wydn yn ariannol, yn hyderus ac yn rymus.
Mae nifer fawr o bobl yng Nghymru gyda chanfyddiad negyddol o’u cyllid. Dyna beth mae lles ariannol yn ceisio newid. Yn lle edrych ar arian fel baich neu bryder, dylid ei weld o le o hyder a rheolaeth.
Bob tair blynedd, rydym yn cynnal Arolwg Lles Ariannol Oedolion y DU. Mae canlyniadau ein harolwg diweddaraf yn dangos yng Nghymru:
Mae’n werth nodi bod y ffigurau hyn cyn y cynnydd mewn costau byw ac yn cynnig golwg sobreiddiol ar gyflwr lles ariannol yng Nghymru. Y newyddion da yw y gellir gwella'r problemau hyn trwy addysg ariannol effeithiol a thrwy godi ymwybyddiaeth o'r arweiniad ariannol sydd ar gael.
Nid yw straen ariannol yn effeithio ar y rhai ar incwm isel yn unig - byddai eich sylfaen gweithwyr cyfan yn elwa o agwedd gefnogol at les ariannol, a allai arwain at:
Mae ymchwil hefyd yn dangos cysylltiad rhwng trafferthion gydag arian ac iechyd meddwl gwael. Gall teimlo’n isel yn ei dro ei gwneud hi’n anodd rheoli arian, gan achosi cylch o les meddyliol ac ariannol isel.
Rydym yn cynnig ystod eang o gymorth am ddim i fusnesau gan gynnwys:
Yn haf 2022, sefydlwyd grŵp gorchwyl Lles Ariannol a Chostau Byw gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gyda mewnbwn gan MaPS. Roedd materion costau byw yn effeithio’n sylweddol ar weithwyr ac felly lluniwyd cynllun i gefnogi staff, a oedd yn cynnwys:
Dywedodd Karen Vaughan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“Mae MaPS wedi chwarae rhan allweddol wrth arwain a chefnogi ein sefydliad wrth iddo ddatblygu cynllun gweithredu ‘Lles Ariannol’, gan sicrhau bod staff yn cael eu cyfeirio at gyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn ddiduedd ac yn foesegol.”
Os hoffech wybod mwy am sut i sefydlu lles ariannol yn eich sefydliad, cysylltwch â Lawrence trwy’r ffurflen honYn agor mewn ffenestr newydd.
Dros y degawd, mae Strategaeth y DU am Les Ariannol yn anelu at helpu pobl i fagu mwy o hyder i reoli eu harian. Y weledigaeth yw i bawb i wneud y mwyaf o’u harian a phensiynau yn y tymor byr, canolig a’n hir.
Darllenwch ein Strategaeth y DU am Les Ariannol 2020 – 2030Yn agor mewn ffenestr newydd (PDF, 11MB)