Ffordd gyflym o ddechrau adeiladu lles ariannol yn eich gweithle yw ychwanegu dolenni at ein harweiniad arian a phensiynau ar eich mewnrwyd a chyfathrebiadau mewnol, neu rannu ein canllawiau wedi’u hargraffu gyda'r bobl yr ydych yn eu cefnogi.
Mae ein gwasanaeth HelpwrArian yn cynnig arweiniad syml a diduedd am ddim, a gefnogir gan y llywodraeth, ar arian a phensiynau. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o ganllawiau arian, teclynnau a chyfrifianellau ar-lein yn y Gymraeg a’r Saesneg i helpu i wella’ch cyllid. Mae hyn yn cynnwys:
Gallwch hefyd gael mynediad i HelpwrArian drwy:
Beth bynnag fo'ch amgylchiadau, gallwn eich cyfeirio at wasanaethau dibynadwy os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch.
I gael arweiniad ariannol, ffoniwch 0800 138 7777.
I gael arweiniad ar bensiynau, ffoniwch 0800 011 3797.
Mae’n rhwydwaith yn dwyn ynghyd rai o ddarparwyr cyngor dyledion mwyaf adnabyddus y wlad fel y gallwch gyrchu cyngor ar ddyledion am ddim, cyfrinachol ac annibynnol ar unwaith. Nid oes angen i chi dalu am y cyngor rydych yn ei dderbyn, ac nid yw siarad â ni yn effeithio ar eich statws credyd.
Ewch i’r Rhwydwaith Arweinwyr ArianYn agor mewn ffenestr newydd
Os nad ydych yn byw yn Lloegr, gallwch dal i fuddio o gyngor ar ddyledion trwy’r Teclyn Lleolwr Cyngor ar DdyledionYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch hefyd rannu arweiniad HelpwrArian gyda'ch gweithwyr trwy ddosbarthu ein canllawiau wedi’u hargraffu am ddim.
Gall sefydliadau dielw archebu cymaint ag sydd ei angen arnynt. Gall sefydliadau masnachol drefnu eu rhediad argraffu eu hunain trwy ein cyflenwr argraffu, APS, neu eu hargraffwyr eu hunain. Mae'r canllawiau hefyd ar gael yn ddigidol.
Mae’r canllawiau’n ymdrin â phynciau fel:
Mae canllawiau ar gael mewn fformatau Saesneg, Cymraeg, Braille, print bras a sain.
Archebwch eich canllawiauYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan HelpwrArian.
Dysgwch fwy am gyfeirio atom a defnyddio ein logosYn agor mewn ffenestr newydd
Byddwn yn darparu dolen personol i chi a fydd yn caniatáu inni fonitro faint o'ch gweithwyr sy'n ymweld â ni o'ch cyfathrebiadau mewnol. Byddwn yn hapus i rannu'r wybodaeth hon â'ch sefydliad.
Methu dod o hyd i'r canllawiau rydych chi am gysylltu gyfeirio iddynt? Cysylltwch â'n tîm partneriaethau