Gallwch wella lles ariannol gweithwyr drwy sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi a’u hannog i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad a chronni eu pensiwn. Mae’n bwysig bod gweithwyr yn deall eu hopsiynau pensiwn ac yn gwybod ble i gael arweiniad os oes ei angen arnynt.
Fel cyflogwr, rhaid i chi gynnig cynllun pensiwn gweithle trwy ymrestru awtomatig.
Mae hyn yn berthnasol i unrhyw weithwyr sy’n byw yn y DU ac:
Mae hyn yn cynnwys gweithwyr ar gontractau tymor byr neu ddim oriau, i ffwrdd ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir, mabwysiadu neu ofalwr, neu’r rhai a delir gan asiantaeth.
Dysgwch sut mae ymrestru awtomatig yn gweithioYn agor mewn ffenestr newydd
Er mwyn cefnogi'ch gweithwyr yn well, anogwch nhw i adolygu eu cynlluniau ymddeol yn ystod digwyddiadau bywyd pwysig. Gallai hyn gynnwys dechrau swydd newydd, mynd ar absenoldeb mamolaeth neu nesáu at ymddeoliad
Os yw gweithwyr yn ystyried gadael cynllun pensiwn y gweithle, rhowch wybodaeth iddynt am y ffactorau allweddol i'w hystyried cyn gwneud y penderfyniad hwn.
Dysgwch fwy am beth i'w ystyried cyn optio allanYn agor mewn ffenestr newydd
Trwy ein cynnwys pensiynau HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd, gall pobl o bob oed gael mynediad at wybodaeth ac arweiniad am bob agwedd ar bensiynau, gan gynnwys:
Mae HelpwrArian hefyd yn darparu detholiad o declynnau a all helpu pobl i wneud dewisiadau pensiwn cadarnhaol:
Mae arbenigwyr hyfforddedig hefyd yn darparu arweiniad diduedd am ddim trwy linell gymorth pensiynau HelpwrArian, a gallant drafod pynciau gan gynnwys pensiynau ac ysgariad, diogelu pensiynau a phensiynau hunangyflogedig.
Mae ein gwasanaeth Pension Wise, a ddarperir gan HelpwrArian, yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad diduedd am ddim i bobl dros 50 oed sydd â chronfeydd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yn y DU.
Mae cynghorwyr pensiynau arbenigol yn helpu pobl i ddeall eu hopsiynau ac yn esbonio sut mae’r opsiynau hyn yn gweithio, pa dreth all fod yn daladwy a sut i gadw llygad am sgamiau. Gellir ei gyrchu dros y ffôn, drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb, neu drwy ein gwasanaeth digidol.
Fe'i cynlluniwyd i fod yn fan cyswllt cyntaf i unigolion sydd â chronfeydd pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio sy'n nesáu at ymddeoliad.