Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Tîm Arweiniad Gweithredol
    • HelpwrArian
      • Rhannu ymgyrch costau byw HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio , fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci
Grŵp o bobl ifanc yn chwerthin

Meithrin lles ariannol i gyflogeion a phrentisiaethau ifanc

Wrth i lawer o bobl ifanc wynebu heriau ariannol costau byw cynyddol, mae’n bwysig sicrhau bod ganddynt y sgiliau i reoli eu harian yn dda. P’un a ydych yn cyflogi prentisiaid neu’n awyddus i gryfhau cadernid ariannol eich gweithlu ifanc, rydym yma i’ch cefnogi.

Helpu gweithwyr ifanc i feithrin sgiliau ariannol

Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o ddatblygu sgiliau rheoli arian pwysig pan allant gymhwyso’r hyn y maent yn ei ddysgu, megis pan fyddant yn dechrau swydd newydd ac yn derbyn eu slip cyflog cyntaf.

Gall cyflogwyr chwarae rhan allweddol mewn hyn trwy gefnogi eu gweithwyr ifanc, hyfforddeion, a phrentisiaid gyda mynediad i raglenni neu adnoddau rheoli arian.

Mae gwneud hynny nid yn unig yn rhoi hwb i les ariannol eich gweithwyr ond hefyd yn helpu i greu gweithlu gwydn ac yn lleihau effaith straen sy’n ymwneud ag arian ar eich busnes.

Cefnogaeth i'ch gweithwyr ifanc a'ch busnes

Rydym wedi casglu ystod o raglenni ac adnoddau gyda'r nod o gefnogi pobl ifanc wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd.

P’un a yw’n well ganddynt ddysgu ar gyflymder eu hunain neu sesiynau dan arweiniad, deunyddiau am ddim neu raglenni mwy cynhwysfawr, mae rhywbeth yma i helpu eich gweithwyr ifanc i adeiladu sylfaen gref ar gyfer eu dyfodol ariannol.

Darperir yr holl opsiynau hyn gan sefydliadau achrededig neu maent wedi'u gwerthuso o ran ansawdd.

Ymyriad a sefydliad

Dull Cyflenwi

Lleoliad

Ffi

Academi AriannolYn agor mewn ffenestr newydd (Open University / Money Saving Expert)

Dysgu ar-lein hunanarweiniedig ar gyfer pob oedran

Digidol

Ar draws y DU

Am ddim

Gwersi mewn addysg ariannol (LiFE) Gwobr/TystysgrifYn agor mewn ffenestr newydd (London Institute of Banking and Finance)

 

Gwybodaeth rheoli ariannol ar gyfer pobl ifanc

Digidol

Yr Alban

Am ddim

Arian DoethYn agor mewn ffenestr newydd (Youth Cymru)

Canllawiau ymarferol ar ddatblygu sgiliau ariannol oedolion ifanc’, ar gael yn Gymraeg a Saesneg

Canllaw

Cymru

Am ddim

Gwaith ArianYn agor mewn ffenestr newydd (MyBnk)

Sesiynau cynorthwyedig i bobl 16-25 oed sy’n symud i fyw’n annibynnol

Wyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwir

Ar draws y DU

Ffioedd a godir

Modiwlau ar-lein Money WorksYn agor mewn ffenestr newydd (MyBnk and the Mix)

Modiwlau dysgu hunanarweiniedig i bobl 16-25 oed, gan ganolbwyntio ar y rheiny sy’n symud i fyw’n annibynnol

Digidol

Ar draws y DU

Am ddim

Sesiynau ariannol i bobl ifancYn agor mewn ffenestr newydd (The Money Charity)

Sesiynau cynorthwyedig i bobl 16-19 oed

Wyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwir

Ar draws y DU(wyneb yn wyned yng Nghymru a Lloegr yn unig)

Ffioedd a godir

Personal Finance AwardYn agor mewn ffenestr newydd  (SQA)

Cymhwyster cyllid personol sy'n addas ar gyfer ymadawyr ysgol ac oedolion ifanc, wedi'i achredu gan SQA ac wedi’i gyflwyno gan ddarparwyr hyfforddiant lleol

Wyneb yn wyneb

Yr Alban

Ffioedd a godir

Arian GwaithYn agor mewn ffenestr newydd (MyBnk)

Sesiynau cynorthwyedig i bobl 18-30 oed prentisiaethau, graddedigion a chyflogeion yng nghyfnodau cynnar ey gyrfaoedd

Wyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwir

Ar draws y DU

Ffioedd a godir

Sesiynau Ariannol yn y Gweithle a WeminarauYn agor mewn ffenestr newydd  (The Money Charity)

Sesiynau cynorthwyedig i brentisiaid a chyflogeion ifanc

Wyneb yn wyneb ag opsiwn rhithwir

Ar draws y DU (cynflenwi wyneb yn wyneb yn Lloegr yn unig)

Ffioedd a godir

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau rhanbarthol i ddarganfod mwy am ein gwaith i wella lles ariannol pobl ifanc ac i drafod sut all MaPS eich cefnogi i wella lles ariannol eich gweithwyr.

Wedi’i lleoli’n agos atoch, gall ein timau partneriaethau eich helpu i ddod â dealltwriaeth o rai o’r heriau lles ariannol lleol i chi.

Os oes gan eich sefydliad sawl safle, cysylltwch â rheolwr rhanbarthol sydd agosaf at eich prif swyddfa.

Fel arall, gallwch gysylltu â’ tîm partneriaethau yn [email protected]. 

Nol i’r brig
  • Cyfeirio at ein canllaw diduedd am ddim
  • Helpu gweithwyr i adeiladu eu pensiwn
  • Cynlluniau cynilo a ddidynnwyd trwy'r cyflogres
  • Pwysau costau byw: yr hyn y mae angen i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig ei wybod
  • Meithrin lles ariannol i gyflogeion a phrentisiaethau ifanc
  • Cynnal a mynychu digwyddiadau a darganfyddwch am gefnogaeth a mewnwelediad wedi'i deilwra
  • Gwneud y mwyaf o’ch arian
  • Rhannu arfer da
  • Rhagor o ffyrdd i helpu’ch gweithwyr

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Gwybodaeth gyhoeddus
  • Ceisiadau mynediad pwnc
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2025 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.