Grŵp yn cael ei weini mewn caffi

Cynnal a mynychu digwyddiadau a darganfyddwch am gefnogaeth a mewnwelediad wedi'i deilwra

Ffordd arall o feithrin lles ariannol a chyfathrebu ein hadnoddau i’ch gweithlu yw llywyddu digwyddiad neu weminar ar gyfer eich cyflogeion.

Cynnal digwyddiad lles ariannol

I drafod sut gallwn eich cefnogi gyda hwn, cysylltwch â’n tîm partneriaethau.

Wythnos Siarad Arian

Bob mis Tachwedd, rydym yn annog y DU i gael sgyrsiau am arian.

Ymunwch ag Wythnos Siarad Arian gan ddefnyddio ein canllawiau ac adnoddau am ddim ar sut i ddechrau sgyrsiau am arian personol, gan gynnwys trwy ddigwyddiadau.

Cefnogaeth a mewnwelediad wedi’i deilwra

Dylunio a datblygu’ch arferion da eich hun y gallwch eu rhannu â’r cymuned busnes ehangach gan ddefnyddio’n hymchwil. Mae hyn yn cynnwys egwyddorion dylunio i greu rhaglen neilltuol o fentrau a gweithgareddau a sut i asesu eu effeithlonrwydd.

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau i drafod yr opsiynau cymorth a mewnwelediad penodol.

Sefydlu strategaeth lles ariannol

Byddwn yn eich helpu i wneud yr achos busnes i les ariannol yn y gwaith, datblygu dull strategol o ymdrin â lles ariannol, a gwerthuso eich strategaeth.

Gwelwch ein pecyn cymorth gwerthusoYn agor mewn ffenestr newydd

Holi eich staff

Defnyddiwch ein banciau cwestiynau i ddatblygu holiaduron i staff ar faterion ariannol, ac i fesur newidiadau mewn canlyniadau lles ariannol.

Gwelwch ein banciau cwestiynau ar gyfer oedolionYn agor mewn ffenestr newydd neu oedolion ifanc (oed 16-25)Yn agor mewn ffenestr newydd

Ceisio cynllun peilot â ni

Arloeswch ffyrdd newydd o gynorthwyo lles ariannol trwy geisio cynllun peilot â ni. Rydym wedi ymrwymo i arbrofi â mentrau, casglu tystiolaeth, a dysgu o’r gweithgareddau hyn fel rhan o Rwydwaith Beth sy’n Gweithio Llywodraeth y DU.

Ar gyfer cyfleoedd i geisio cynllun peilot a clywed am gynlluniau peilot presennol, cadwch mewn cysylltiad trwy ein cylchlythyr misol, cyfryngau cymdeithasol, neu cysylltwch â’n tîm partneriaethau.

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau rhanbarthol am gyngor am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.

Wedi’i lleoli’n agos atoch, gall ein timau partneriaethau eich helpu i ddod â dealltwriaeth o rai o’r heriau lles ariannol lleol i chi.

Os oes gan eich sefydliad sawl safle, cysylltwch â rheolwr rhanbarthol sydd agosaf at eich prif swyddfa.

Fel arall, gallwch gysylltu â’ tîm partneriaethau yn partners@maps.org.uk