Fel cyflogwr, rydych chi mewn sefyllfa unigryw i gynnig ffyrdd a all helpu’ch gweithwyr i reoli eu harian yn well. Mae rhai cymhellion hefyd yn darparu gostyngiadau treth i chi fel cyflogwr.
A oes angen i chi gofrestru’ch gweithwyr yn awtomatig i bensiwn y gweithleYn agor mewn ffenestr newydd? Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud heddiw.
Gwahoddwch arbenigwyr fel eich darparwr pensiwn, arbenigwr morgeisi eich banc lleol i drafod materion arian gyda’ch gweithwyr.
Darganfyddwch a yw busnesau lleol, fel campfeydd a bwytai, yn cynnig cynlluniau disgownt gweithwyr.
Lleddfwch faich costau cymudo ar gyfer eich gweithwyr – helpwch gyda thocynnau tymor teithioYn agor mewn ffenestr newydd neu ddarparu cynllun beicio i’r gwaithYn agor mewn ffenestr newydd
Partnerwch gyda chwmnïau, er enghraifft, NeyberYn agor mewn ffenestr newydd Salary FinanceYn agor mewn ffenestr newydd neu eich undeb credydYn agor mewn ffenestr newydd lleol sy’n darparu benthyciadau gweithwyr ac yn cymryd ad-daliadau yn uniongyrchol o’r gyflogres.
Chwiliwch am ffyrdd i helpu gweithwyr i reoli treuliau sy’n gysylltiedig â gwaith, fel darparu cerdyn credyd corfforaethol.
Ystyriwch drafod yswiriant bywyd grŵp ar gyfer eich gweithwyr. Gall hyn ddarparu polisi cost is y gall eich gweithwyr dalu amdano. Bydd hyn yn darparu diogelwch ariannol i’w hanwyliaid os byddent yn marw wrth iddynt weithio i chi.
Rhowch yswiriant amddiffyn incwm grŵp i’ch gweithwyr sy’n eu helpu os na allant weithio oherwydd anaf neu salwch hirdymor.
Gall yswiriant iechyd trwy’r gweithle roi buddion meddygol ychwanegol i’ch gweithwyr ar eu cyfer nhw a’u hanwyliaid.
Gall rhaglen cymorth gweithwyr ddarparu gwasanaethau cwnsela cyfrinachol i helpu’ch gweithiwr i drafod materion a allai fod yn effeithio ar eu bywydau.
Cynnig mynediad i weithwyr at gynghorydd ariannol rheoledigYn agor mewn ffenestr newydd. Gallwch gynnig hyd at £500 o gyngor pensiwn y flwyddyn a derbyn rhyddhad treth a chyfraniadau yswiriant gwladol.