Caffael

Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn dilyn dull moesegol o brynu'r ystod o nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen i fodloni gofynion ein cwsmeriaid.

Rydym wedi ymrwymo i arfer gorau'r sector cyhoeddus. Ym mhob gweithgaredd masnachol, rydym yn dilyn y safonau uchaf o broffesiynoldeb, ymddygiad moesegol a didueddrwydd. Mae prosesau cystadleuol yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth y DU ac yn cael eu cynnal yn unol â pholisi caffael y llywodraeth.

Cyfleoedd contract

Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn defnyddio cyflenwyr allanol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Dyfernir ein contractau drwy gystadleuaeth rhwng cyflenwyr posibl, oni bai bod rhesymau cymhellol pam na ellir defnyddio cystadleuaeth. 

Defnyddiwch Contracts FinderYn agor mewn ffenestr newydd neu Find a TenderYn agor mewn ffenestr newydd  i ddod o hyd i gyfleoedd contract MaPS, gan gynnwys dogfennau tendro. Contracts Finder yw prif ffynhonnell contractio'r llywodraeth ar gyfer cyfleoedd sy'n werth mwy na £10,000. Mae Find a Tender ar gyfer pob cyfle dros werth trothwy.

eGaffael

Gallwch ddod o hyd i rai o'n cyfleoedd presennol ar ein eTendering systemYn agor mewn ffenestr newydd, a ddefnyddiwn i hysbysebu cyfleoedd tendro a gwybodaeth am brosiectau caffael. Mae'n darparu dull syml, diogel ac effeithlon ar gyfer rheoli gweithgareddau tendro a dyfynbris.

Defnyddiwch ein canllaw i'ch helpu i gofrestru ar y system eTendering.

Cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm masnachol.