Dyn yn defnyddio ei liniadur

Ein gwaith dyled

Mae'n hanfodol bod pobl yn cael mynediad at gyngor ar ddyledion pan fydd ei angen arnynt. Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yw'r cyllidwr unigol mwyaf sy'n rhoi cyngor ar ddyledion am ddim yn Lloegr. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid ar draws y DU i wneud cyngor ar ddyledion yn haws ac yn gynt i gael mynediad iddo, ac i wella safonau ac ansawdd ar draws y sector.

Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol

Mae Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol yn nodi nod o ddwy filiwn yn rhagor o bobl yn derbyn cyngor ar ddyledion erbyn 2030.

Mae MaPS yn helpu i gyflawni hyn drwy gomisiynu cyngor dyled o ansawdd uchel drwy ein partneriaid a ariennir yn Lloegr a thrwy weithio mewn partneriaeth strategol ag eraill i ddarparu colofn Cyngor Dyled Well y Strategaeth.

Dysgu mwy am Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol.

 

 

Comisiynu cyngor ar ddyledion

Rydym wrthi'n adolygu ein strategaeth ar gyfer comisiynu gwasanaethau.

Ansawdd a gwelliant parhaus

Credwn ei bod yn bwysig i bobl sy’n gofyn am gyngor ar ddyledion gael y sicrwydd bod y sefydliad y maent yn ei ddefnyddio, a’r cynghorydd y maent yn ymgysylltu ag ef, yn gweithredu i’r safonau uchaf.

Ein canolbwynt ar hyn o bryd yw gweithio gyda phartneriaid i wneud cyngor ar ddyledion yn haws ac yn gynt i gael mynediad ato, ac i wella safonau ac ansawdd ar draws y sector. Rydym yn cynnig:

  • adnoddau ac Arweiniad Cyngor ar Ddyledion
  • manylion ar ein gwaith gwella parhaus yn y sector cyngor ar ddyledion, a
  • mynediad at gais adnoddau MaPS am weithgareddau gwella parhaus.

Dysgu mwy am MaPS yn Codi safonau cyngor ar ddyledionYn agor mewn ffenestr newydd

 

Ymgysylltu a chydlynu'r sector

Ein nod yw gwella profiad cwsmeriaid pobl sydd mewn dyled tra'n creu effeithlonrwydd i'r sector cyngor ar ddyledion a'r sefydliadau y mae ganddynt arian yn ddyledus iddynt. Rydym yn ymgysylltu'n rheolaidd ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys credydwyr, cyrff masnach, rheoleiddwyr, adrannau'r llywodraeth a sefydliadau dyled i  rannu gwybodaeth a mewnwelediad, i helpu i lunio cyngor ar ddyledion.

Dyma rai meysydd allweddol ein gwaith:

 

Arloesi mewn gwasanaeth

Gan weithio gyda'r sector cyngor ar ddyledion, rydym yn cymhwyso technegau o newid ymddygiad,  arloesedd dylunio a gwyddor ymddygiadol i ddatblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn effeithiol. Rydym yn sicrhau sylfaen dystiolaeth briodol ar gyfer ein holl waith cyngor ar ddyledion ac yn datblygu safbwyntiau newydd i'n helpu i werthuso ei effaith.

Dyma enghreifftiau o waith:

 

Ymchwil

Mwy am ein gwaith