Menyw yn sefyll gartref wrth y ffenestr yn dal diod

Cynllun Iaith Gymraeg

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd. Gofyniad arall o’r ddeddf yw bod pob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru yn paratoi Cynllun Iaith Gymraeg.

 Rydym yn cydnabod bod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru fel y corfforwyd gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd Cynllun Iaith Gymraeg MaPS ei gymeradwyo gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg ar Fawrth 17eg 2022. Mae’r cynllun yn gosod sut y bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu yn y Gymraeg. Mae dwy egwyddor sy’n sylfaen i’n gwaith:

  • Yng Nghymru, ni ddylai’r iaith Gymraeg cael ei thrin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg.
  • Dylai pobl yng Nghymru gallu byw eu bywydau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg os ydynt yn dymuno.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd MaPS yn gweithredu yr egwyddorion sydd wedi’u sefydlu gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg sef y bydd, lle bynnag y bo’n briodol ac yn ymarferol, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Mae’r cynllun yn cwmpasu’r holl wasanaethau a gweithrediadau yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau uniongyrchol a gwasanaethau a gomisiynir, partneriaethau, cyhoeddiadau, recriwtio a phrosesau adnoddau dynol.

Cynllun Iaith Gymraeg yn SaesnegYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 704KB)

Cynllun Iaith Gymraeg yn GymraegYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 533KB)

Adroddiad Cynllun Iaith Gymraeg Blynyddol

Bob blwyddyn byddwn yn cyhoeddi’r cynnydd mae MaPS wedi’i wneud wrth ddarparu ein Cynllun Iaith Gymraeg. Bydd yr adroddiad blynyddol hwn ar gael yma ar ein gwefan a hefyd yn cael ei anfon at Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.

Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022/23 

HelpwrArian

Trwy HelpwrArianYn agor mewn ffenestr newydd gall ein cwsmeriaid yng Nghymru gael mynediad at gymorth am eu materion ariannol ar-lein, dros y ffôn, neu drwy WhatsApp a gwe-sgwrs.