Mae’r rôl y mae rhieni a gofalwyr yn chwarae wrth siarad â’u plant am arian yn allweddol. Ymyrraeth galluogrwydd ariannol yw Siarad Dysgu Gwneud a gafodd ei dreialu’n wreiddiol ledled Cymru yn 2016-17 a gyflwynwyd fel rhan o ddau gwrs rhianta sy’n bodoli eisoes, y Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol a’r Blynyddoedd Rhyfeddol.
Nod y sesiwn dwy awr oedd annog rhieni plant 3–11 oed i siarad â’u plant am arian a chreu cyfleoedd i’w plant gael profiad o’i reoli.
Mae’r weminar fideo hon ar gyfer llunwyr polisi yng Nghymru, sy’n cael ei rhedeg gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) a’r Campaign for Learning, yn rhannu mwy am Siarad Dysgu Gwneud, a sut y gall helpu’r teuluoedd rydych yn gweithio gyda nhw.
Bydd teclyn newydd a lansiwyd gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn helpu rhieni a gofalwyr i ddysgu plant am arian ac yn trawsnewid eu perthynas ag arian yn y dyfodol.
Mae Siarad, Dysgu, GwneudYn agor mewn ffenestr newydd yn declyn digidol sy'n rhoi'r sgiliau a'r hyder i rieni a gofalwyr siarad â'u plant am arian. Mae hefyd yn dangos pam ei bod yn bwysig dysgu arferion ariannol da o oedran cynnar.
Ar gyfer ymarferwyr sy’n darparu’r Siarad, Dysgu, Gwneud wyneb yn wyneb gwreiddiol, mae’r pecyn hwylusydd wedi’i ddiweddaru.
Mae yna hefyd asedau cysylltiedig.
Archwiliwch adnoddau pellach i helpu rhieni i siarad â’u plant o wahanol oedrannau am arianYn agor mewn ffenestr newydd ar ein gwefan defnyddwyr, HelpwrArian.
Mae gwerthusiad terfynol y prosiect, a gafodd ei ariannu ar y cyd gan Loteri Fawr Gymru, yn datgelu bod Siarad Dysgu Gwneud wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth gyflawni ei amcanion ac wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer o fesurau. Mae’r rhain yn cynnwys: gwybodaeth rhieni am sut i siarad â’u plant am arian; gallu plant i drin a rheoli arian; a gorddyled y rhieni eu hunain.
Gwerthusiad Gwneud: ymyrraeth gallu ariannol ar gyfer rhieniOpens in a new window (updated) (PDF/A, 23.2MB)
Gwerthusiad Gwneud adroddiad astudiaeth achos ansoddolOpens in a new window (PDF/A, 1.7MB)
Argymhellion Gwneud polisi a dysguOpens in a new window (PDF/A, 406KB)
Digwyddiad lansio yng Nghaerdyddd: canlyniadau gwerthuso terfynolOpens in a new window (PDF/A, 3.4MB)
Os ydych wedi ymrwymo i ddarparu neu ddylunio mentrau cefnogaeth addysg ariannol ar gyfer rhieni a theuluoedd, bydd yr adroddiadau hyn - sy’n adeiladu ar ddysgu o’r peilot - yn eich helpu i lywio eich datblygiad polisi a datrysiadau ymarferol.
Ar y cyfan, mae adroddiadau gwerthuso diweddar yn dangos barn hynod gadarnhaol am y rhaglen Siarad Dysgu Gwneud gan ymarferwyr a rhieni ledled y DU. Maent yn amlygu beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod darpariaeth yn parhau i fod yn effeithiol, gan gynnwys symud i ddarpariaeth ddigidol.
Os hoffech drafod y darganfyddiadau hyn, cysylltwch â: [email protected]