Gweledigaeth y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yw "Pawb yn gwneud y gorau o'u harian a'u pensiynau".
Rydym yn gorff hyd braich, wedi ei noddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, gydag ymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod gan bobl ledled y DU ganllawiau a mynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau ariannol effeithiol dros eu hoes. Rydym yn darparu hyn ar draws pum swyddogaeth graidd.
Rydym yn cael ein hariannu gan ardollau ar y diwydiant gwasanaethau ariannol a chynlluniau pensiwn.
I ddarganfod mwy am ein blaenoriaethau, darllenwch ein cynllun a'n strategaeth gorfforaethol flynyddol.
I gael gwybod mwy am ein strwythurau llywodraethu, ein polisïau a'n enillion, darllenwch ein gwybodaeth gyhoeddus.
Mae HelpwrArian yma i'ch helpu i symud ymlaen gyda bywyd. Yma i dorri trwy'r jargon a'r cymhlethdod, esbonio beth sydd angen i chi ei wneud a sut y gallwch chi ei wneud. Yma i'ch rhoi mewn rheolaeth, gyda chymorth di-duedd am ddim sy'n gyflym i ddod o hyd iddo, yn hawdd i'w ddefnyddio ac sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.
Beth bynnag yw eich amgylchiadau, mae HelpwrArian ar eich ochr. Ar-lein a dros y ffôn, fe gewch chi arweiniad arian a phensiwn clir. Gallwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau y gellir ymddiried ynddynt, os oes angen mwy o gymorth arnoch.
Arweiniad pensiynau: 0800 011 3797
Arweiniad arian: 0800 138 7777
Rydym yn darparu gwybodaeth i bobl am bensiynau gweithle a phersonol. Mae ein harbenigwyr pensiynau hyfforddedig yn helpu pobl gyda’u hymholiadau pensiwn yn unol â help arbenigol ar ein gwefannau defnyddwyr.
Rydym hefyd yn cefnogi pobl sydd 50+ oed i wneud penderfyniadau ar eu cronfeydd pensiwn wedi’u diffinio trwy ein gwasnaeth Pension WiseYn agor mewn ffenestr newydd
Rydym yn darparu pobl yn Lloegr gyda gwybodaeth a chyngor ar ddyled a ni yw’r cyllidwr mwyaf ar gyfer cyngor ar ddyledion.
Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid cyflenwi i gefnogi cwsmeriaid i gael cyngor effeithiol am ddim wrth wella ansawdd cyngor ar ddyledion a darparu hyfforddiant a chefnogaeth i ymgynghorwyr rheng flaen.
Rydym yn darparu gwybodaeth sydd wedi’i dylunio i wella dealltwriaeth a gwybodaeth pobl ar faterion ariannol a sgiliau rheoli arian bob dydd.
Rydym yn darparu arweiniad arian diduedd, am ddim i filiynau o bobl drwy ein gwefan defnyddwyr, ein canolfan alwadau a’n gwasanaeth gwesgwrs.
Rydym yn gweithio gyda’r llywodraeth a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) mewn cylch gwaith newydd i amddiffyn defnyddwyr yn erbyn twyll ariannol.
Rydym yn cefnogi ymdrechion y diwydiant gwasanaethau ariannol ehangach i amddiffyn defnyddwyr a dechrau casglu a rhannu mewnwelediadau gweithredol i helpu’r sector i benderfynu ble orau i flaenoriaethu ymdrechion.
Rydym yn canolbwyntio ymdrechion pawb sy’n gweithio ar les ariannol gyda phlant a phobl ifanc a’n darparu cyngor ar ddyledion.
Gwnaethom gyhoeddi Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol gyda'r nod o ysgogi newid sylweddol, newid cydgysylltiedig dros yr hirdymor, gan adeiladu ar waith y Strategaeth ar gyfer Gallu Ariannol y DU.
Cadeirydd
"Mae gan MaPS rôl allweddol wrth wneud arweiniad arian diduedd yn hygyrch i bawb, yn enwedig gan ystyried yr heriau economaidd presennol, ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda’n partneriaid niferus, i helpu pobl ledled y wlad i deimlo’n fwy parod i reoli eu harian."