Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Tîm Arweiniad Gweithredol
    • HelpwrArian
      • Rhannu ymgyrch costau byw HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio , fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci
Menyw yn dal ymbarél wrth groesi’r heol

Beth yw lles ariannol?

Mae lles ariannol yn cael ei adnabod gan llawer o enwau – fel llythrennedd ariannol, lles, hyder neu wytnwch – ond yn syml, mae’n ymwneud â chael perthynas dda â’ch arian.

  • Sut rydym yn diffinio lles ariannol
  • Sut i wella lles ariannol
  • Pam mae lles ariannol yn bwysig
  • Sut mae lles ariannol o fudd i fusnesau a chyflogwyr
  • Dywedwch eich stori lles ariannol
  • Sut y gall MaPS helpu’ch sefydliad i wella lles ariannol
  • Sut all MaPS helpu eich sefydliad

Sut rydym yn diffinio lles ariannol

I ni yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS), mae lles ariannol yn ymwneud â theimlo’n ddiogel a mewn rheolaeth o‘ch cyllid, nawr ac yn y dyfodol. Gwybod eich bod yn gallu talu’r biliau heddiw, eich bod yn gallu delio â’r annisgwyl, ac ar y trywydd iawn ar gyfer dyfodol ariannol iach.

Mae pobl sy’n profi lles ariannol dan lai o straen am arian. Mae hyn, yn ei dro, yn cael effeithiau cadarnhaol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol cyffredinol, ac ar eu perthnasoedd.

Mae’n bwysicach nawr nag erioed helpu’ch cydweithwyr, eich cwsmeriaid a’ch cymuned i adeiladu lles ariannol. Gall MaPS helpu’ch sefydliad i ddechrau neu barhau i ddatblygu ffyrdd o wneud hyn.

Nol i'r brig

Sut i wella lles ariannol

Mae sawl agwedd ar les ariannol. Rydym yn rhannu lles ariannol cyffredinol y DU yn bum maes allweddol:

  • derbyn addysg ariannol ystyrlon
  • cynilo’n rheolaidd
  • defnyddio credyd ar gyfer hanfodion bob dydd
  • cyrchu cyngor ar ddyledion
  • chynllunio am y presennol ac yn ddiweddarach mewn bywyd.

A dyma pam mae’r agweddau hyn ar les ariannol mor bwysig. Cyn y pandemig:

  • roedd gan 11.5 miliwn o bobl lai na £100 mewn cynilion i ddisgyn yn ôl arnynt
  • roedd 9 miliwn o bobl yn aml yn benthyca i brynu bwyd neu dalu am filiau
  • dywedodd 22 miliwn o bobl nad ydynt yn gwybod digon i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad
  • ni chafodd 5.3 miliwn o blant addysg ariannol ystyrlon. (Arolwg Gallu Ariannol 2018).

Mesur lles ariannol

Mae’r ystadegau hyn yn cynnig arwydd cryf o sut mae lles ariannol (ac yn gyffredinol llythrennedd ariannol a gallu ariannol) yn ei wneud yn y DU. Gellir dangos gwelliannau mewn lles ariannol naill ai mewn gostyngiad neu gynnydd yn yr ystadegau allweddol hyn. Rydym yn arolygu’r genedl yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau yn y meysydd cyllid personol hyn.

Nol i'r brig

Pam mae lles ariannol yn bwysig

Mae cenedl sy’n iach yn ariannol o fudd i unigolion, cymunedau, busnesau a’r economi.

Gall straen ariannol – a’i effeithiau canlyniadol ar iechyd meddwl, chwalu perthynas ac iechyd corfforol – arwain at ganlyniadau difrifol i unigolion, anwyliaid a’n cymunedau. Mae effaith economaidd Covid-19 wedi effeithio ar iechyd meddwl rhai unigolion, gan waethygu problem ledled y wlad.

"Dros y cyfnod 2020–2030, rôl allweddol i MaPS fydd ehangu’r ystod o arweinwyr sydd wedi ymrwymo i wella lles ariannol mewn sefydliadau sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol."

Nol i'r brig

Sut mae lles ariannol o fudd i fusnesau a chyflogwyr

Mae cyflogwyr hefyd yn elwa o les ariannol

Mae pobl sy’n mwynhau lles ariannol da yn fwy cynhyrchiol yn y gwaith. Os nad ydynt, mae cyflogwyr yn dioddef hefyd. Yn 2018, nododd 11% o weithwyr y DU eu bod wedi profi cwymp mewn cynhyrchiant ar ryw adeg dros y tair blynedd flaenorol o ganlyniad i’w sefyllfa ariannol.

Mae busnesau hefyd yn elwa

Os nad yw pobl ar ei hôl hi gyda biliau a thaliadau, mae gan fusnesau elw a llif arian iachach ac nid oes angen iddynt ddileu dyledion. Bydd pobl sydd â lles ariannol yn gwario’n gynaliadwy.

Mae’r economi hefyd yn elwa o ffocws dyfodol y bobl sy’n mwynhau lles ariannol

Pan all pobl neilltuo arian ar gyfer eu dyfodol mewn cyfrif arian parod, gellir ei fuddsoddi mewn busnesau ac o bosibl hybu rhannau cynhyrchiol yr economi.

Nol i'r brig

Dywedwch eich stori lles ariannol

Dywedwch eich stori lles ariannolEfallai bod eich sefydliad eisoes yn helpu pobl gyda’u harian ac yn adeiladu lles ariannol. Er enghraifft:

  • A yw’ch sefydliad yn cynnig pensiynau gweithle neu arwyddbost i’ch cydweithwyr i ostyngiadau a chyngor ar ddyledion yn eich strategaeth lles gweithwyr?
  • A yw’ch cwsmeriaid / defnyddwyr gwasanaeth yn gofyn am help gyda biliau, llenwi ffurflenni budd-daliadau neu agor llythyrau?
  • A yw’ch sefydliad yn cyfeirio i helpu gydag arian, fel undebau credyd lleol, awgrymiadau cyllidebu, gwybodaeth pensiynau neu wasanaethau cynghori ar ddyledion?
  • A ydych yn helpu pobl â straen neu faterion iechyd a achosir gan gyllid?

Os ydych yn helpu pobl i reoli eu harian a’u pensiynau, rydych eisoes yn helpu i adeiladu lles ariannol. Efallai mai dim ond rhan fach o’ch rôl neu genhadaeth eich sefydliad ydyw, ond mae mor bwysig i’r bobl rydych yn eu helpu eu bod yn gwybod y gallant ddod atoch am help.

Nol i'r brig

Sut y gall MaPS helpu’ch sefydliad i wella lles ariannol

Cymorth arian diduedd

Mae HelpwrArian yma i wneud eich arian a’ch dewisiadau pensiwn yn gliriach. Yma i’ch rhoi mewn rheolaeth gyda chymorth diduedd sydd ar eich ochr chi ac yn rhydd i’w ddefnyddio.

www.helpwrarian.org.uk/Yn agor mewn ffenestr newydd

Llinell gymorth HelpwrArian: 0800 765 1012

Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol

Ni all unrhyw un sefydliad newid yr holl bethau hyn ar ei ben ei hun. Mae’n mynd i gymryd ymdrech gydgysylltiedig gan sefydliadau ledled y DU. Dyna pam ym mis Ionawr 2020 lansiwyd Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol i osod nodau ar gyfer 2030 a dod â sefydliadau o ystod amrywiol o sectorau ynghyd – o dai i iechyd ac AD – i weithio gyda’i gilydd i’w gwireddu.

Partneriaeth bwrpasol am ddim

Cewch gefnogaeth am ddim i adeiladu lles ariannol lleol: Mae ein tîm partneriaethau wedi’i seilio yn agos atoch, a gallant helpu eich sefydliad i ddeall rhai o’r heriau llesiant ariannol lleol.

Cysylltwch â ni i wneud newid cadarnhaol ar gyfer eich gweithwyr, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth.

Rydym yma i helpu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach rydych yn teimlo nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adnoddau ar y dudalen hon, cysylltwch â ni ar [email protected]

Ymchwil a gwerthuso

Mae ein tîm mewnwelediadau yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar yr hyn sy’n newid mewn lles ariannol y DU, a’r hyn sy’n gweithio i’w wella.

Archwiliwch ein hymchwil lles ariannol.

Nol i'r brig

Sut all MaPS helpu eich sefydliad

Rydym yn cynnig ystod eang o gymorth am ddim i fusnesau gan gynnwys:

  • Rheolwr partneriaeth benodedig wedi’i seilio yn eich lleoliad, gyda rheolwyr yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru a rhanbarthau ledled Lloegr
  • Cymorth pwrpasol i’ch helpu i adeiladu a gweithredu eich strategaeth lles ariannol
  • Mae dewis o ganllawiauYn agor mewn ffenestr newydd ar gael yn Saesneg a Chymraeg, ac mewn print, braille neu fformat sain, am ddim
  • Adnoddau arweiniad arian a all gael eu mewnblannu ar eich gwefan
  • Hwb help gyda chostau bywYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnwys erthyglau, teclynnau, cyfrifianellau a chanllaw printiedig i helpu’ch cydweithwyr a chwsmeriaid
  • Ein hymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol Wythnos Siarad Arian, sy’n rhoi platfform i sgyrsiau am arian mewn pob agwedd o fywyd.
  • Mae HelpwrArian yn cynnig gwasanaeth dwyieithog trwy amryw o sianeli, gyda theclynnau a llinellau gymorth yn SaesnegYn agor mewn ffenestr newydd a ChymraegYn agor mewn ffenestr newydd
  • Arweiniad ar ddigwyddiadau bywyd, fel adran ar golli eich swyddYn agor mewn ffenestr newydd neu am ysgariad a sut mae hwn yn effeithio ar bensiynau
  • Helpwch weithwyr i gynllunio am fywyd diweddarach gydag adran benodedig ar  arweiniad pensiynau ac ymddeoliadYn agor mewn ffenestr newydd
  • Mae amryw o declynnau a chyfrifianellauYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig arweiniad wedi’i bersonoli am bynciau gan gynnwys cyngor ar ddyledion
Nol i'r brig

Gweler Hefyd

  • Beth yw lles ariannol?
  • Strategaeth y DU am Les Ariannol
  • HelpwrArian

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
  • Gwybodaeth gyhoeddus
  • Ceisiadau mynediad pwnc
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2025 Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.