Menyw yn pwyntio clipfwrdd yn gwenu

Pensiynau

Ein gweledigaeth yw pawb yn gwneud y mwyaf o’u harian a’u pensiynau. Rhan o hyn yw gwybod pa bensiynau sydd gennych a faint sydd gennych wedi’i gynilo ynddynt.

Beth yw dangosfwrdd pensiynau?

Bydd dangosfwrdd pensiynau yn galluogi unigolion i gael mynediad i’w gwybodaeth pensiynau ar-lein, yn ddiogel ac mewn un lle, gan gefnogi cynllunio gwell ar gyfer ymddeoliad. Bydd dangosfyrddau’n darparu gwybodaeth glir a syml am gynilion pensiwn lluosog unigolyn, gan gynnwys ei Bensiwn y Wladwriaeth. Byddant hefyd yn ei helpu i ailgysylltu ag unrhyw gronfeydd pensiwn coll.

Dangosfyrddau pensiwn: adroddiad dichonoldeb ac ymgynghoriadYn agor mewn ffenestr newydd ac ymateb y llywodraeth.

Ein rôl mewn darparu dangosfyrddau pensiynau

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i hwyluso’r diwydiant pensiynau i ddatblygu’r ymgyrch hwn ac wedi rhoi cyfrifoldebau penodol i ni gan gynnwys:

  • Dod â thîm rhaglen ynghyd i arwain y gwaith o weithredu dangosfyrddau pensiynau
  • Penodi grŵp llywio diwydiant i osod cyfeiriad strategol y rhaglen
  • Dechrau gwaith i greu a chynnal dangosfwrdd pensiynau anfasnachol - Dangosfwrdd MaPS

Mae MaPS wedi dod â thîm Rhaglen Dangosfyrddau Pensiynau ynghyd dan arweiniad y Pennaeth Chris Curry.

Dysgwch fwy am eu gwaith a sut y gallwch chi gymryd rhan yn y rhaglenYn agor mewn ffenestr newydd