Defnyddiwch ein canllaw dechrau cyflym i helpu gweithwyr i ddechrau cymryd rheolaeth o’u cyllid ar unrhyw adeg.
Gall cymryd yr amser i reoli’ch arian wneud gwahaniaeth go iawn. Pa bynnag gam o fywyd rydych chi ynddo - p’un a ydych chi’n cynilo i bensiwn am y tro cyntaf, yn prynu neu rentu cartref, cychwyn teulu neu’n bwriadu ymddeol – mae yna wastad ffyrdd o wneud i’ch arian fynd ymhellach. Ni allwn gwmpasu popeth yn y canllaw hwn ond byddwn yn rhoi rhai awgrymiadau i’ch helpu ar hyd y ffordd.
Edrychwch ar ein Cynlluniwr Cyllideb am ddimYn agor mewn ffenestr newydd sy’n eich helpu i ddadansoddi gwariant eich cartref a chymryd rheolaeth o’ch arian.
Bod yn rheolwr arian brwd a dewch o hyd i ffyrdd o arbed cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn ar eich biliau ynni a chartrefYn agor mewn ffenestr newydd
Cyfrifwch ba ddyledion i’w had-dalu’nYn agor mewn ffenestr newydd gyntaf. Bydd hyn yn eich helpu i glirio'ch dyledion yn gyflymach.
Sicrhewch help os ydych chi’n cael trafferth gyda dyled. Darganfyddwch ble i gael cyngor ar ddyledion am ddimYn agor mewn ffenestr newydd
Sicrhewch eich bod yn cael y swm cywir. Gwiriwch eich slip cyflog a’ch cod trethYn agor mewn ffenestr newydd
Peidiwch â cholli allan ar help pan fydd ar gael – gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddyntYn agor mewn ffenestr newydd
Cael babi neu fabwysiadu? Darganfyddwch pa help sydd ar gaelYn agor mewn ffenestr newydd
Gall plant fod mor gostus ag y maent yn giwt! Cael help gyda chostau gofal plantYn agor mewn ffenestr newydd
Cewch awgrymiadau defnyddiol ar sut i amddiffyn eich teulu, eich cartref a’ch eiddo gyda’r math cywir o yswiriantYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch pam y dylech chi wneud ewyllysYn agor mewn ffenestr newydd a sut i fynd ati.
Penodwch rywunYn agor mewn ffenestr newydd rydych chi’n ymddiried ynddo a all weithredu ar eich rhan os na fyddwch yn gallu rheoli eich materion eich hun.
Gall dod â pherthynas i ben gael goblygiadau ariannol – gall gwybod eich opsiynauYn agor mewn ffenestr newydd leddfu’r broses a gostwng y gost.
Mae sgamiau’nYn agor mewn ffenestr newydd dod o bob lliw a llun. Dysgwch sut i weld yr arwyddion ac osgoi colli’ch arian.
Meddwl sut i brynu’ch cartref cyntaf neu nesaf? Defnyddiwch y gyfrifiannell fforddiadwyedd morgaisYn agor mewn ffenestr newydd defnyddiol hwn i ddarganfod faint y gallwch chi ei fforddio.
Cyfrifwch faint y gallwch fforddio cynilo a darganfyddwch sut i osod a chyrraedd eich nod cyniloYn agor mewn ffenestr newydd
Os yw buddsoddiYn agor mewn ffenestr newydd yn opsiwn, dyma sut y gallwch chi ddechrau arni.
Sicrhewch eich bod chi mewn pensiwn yn y gweithleYn agor mewn ffenestr newydd, gwiriwch faint rydych chi’n ei gynilo a defnyddiwch ein cyfrifiannell pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd i ddarganfod a yw’n ddigon.
Darganfyddwch beth yw eich opsiynau ymddeolYn agor mewn ffenestr newydd yn ogystal â thrapiau i’w hosgoi. Trefnwch eich apwyntiad Pension WiseYn agor mewn ffenestr newydd
Weithiau mae angen gweithiwr proffesiynol ar bob un ohonom i’n helpu i wneud y dewisiadau cywir – dewch o hyd i gynghorydd ariannol rheoledigYn agor mewn ffenestr newydd i helpu gyda’ch cynllunio.