Grŵp o ddynion yn edrych ar gynlluniau mewn gweithdy

Pwysau costau byw: yr hyn y mae angen i gyflogwyr a phobl hunangyflogedig ei wybod

Mae nifer o bobl yn y DU yn wynebu ansicrwydd pan ddaw at les ariannol, wrth i bwysau costau byw barhau a gydag effaith y pandemig yn cael ei deimlo o hyd. Mae hwn yn gyfle allweddol i gysylltu eich gweithwyr â’r cymorth, yr arweiniad a’r wybodaeth sydd ar gael i’w helpu.

Sut y gallwn helpu

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn gorff hyd fraich i Lywodraeth y DU. Rydym yn helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u pensiynau.

Arweiniad arian am ddim, diduedd am gyflogwyr a phobl hunangyflogedig

Rydym yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad diduedd ac am ddim ar drafferthion pensiynau ac arian, yn ogystal â chefnogi darpariaeth a chyllidebu cyngor ar ddyledion.

Gallwch gysylltu â MaPS ar draws ystod o sianeli gydag unrhyw gwestiynau neu drafferthion sy’n seiliedig ar arian sydd gennych.

Nid ydym yma i ddweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud neu argymell cynnyrch penodol, ond rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen trwy unrhyw bryderon arian neu bensiynau sydd gennych, a, lle bo angen, yn trafod sut y gallwch gael mynediad i gyngor ariannol sydd wedi’i reoleiddio a chadw’n ddiogel yn eich materion ariannol.

Gwasanaethau mynediad rhwydd

Mae ein gwasanaethau’n hygyrch trwy ystod o sianeli pell, fel ar-lein, dros y ffôn am ddim, gwesgwrs, TypeTalk a WhatsApp.

HelpwrArian: arweiniad arian diduedd, am ddim i unigolion

Rydym hefyd yn gweithredu o dan frand defnyddwyr HelpwrArian, y gall cyflogwyr gyfeirio gweithwyr y mae angen arweiniad a chymorth arnynt.

Mae HelpwrArian yma i’ch helpu i symud ymlaen gyda bywyd. Yma i dorri trwy’r jargon a chymhlethdod, esbonio beth sydd angen i chi ei wneud a sut gallwch ei wneud. Yma i’ch rhoi chi mewn rheolaeth, gyda chyngor diduedd, am ddim, sy’n gyflym i ddod o hyd iddo, hawdd i’w ddefnyddio ac wedi’i gefnogi gan y llywodraeth.

Beth bynnag yw’ch amgylchiadau, mae HelpwrArian ar eich ochr chi. Ar-lein a dros y ffôn, byddwch yn cael cyngor arian a phensiwn clir. Gallwn hefyd eich cyfeirio at wasanaethau y gellir ymddiried ynddynt, os ydych angen cyngor pellach.

Arweiniad pensiynau: 0800 011 3797
Arweiniad ariannol: 0800 138 7777

Diogelwch rhag sgamiau

Rydym yn gweithredu o dan nifer o frandiau. Ni fydd ein gwasanaeth byth yn cysylltu â chi ar hap, argymell unrhyw gynnyrch ac mae’n anghyfreithlon i bersonadu MaPS, Pension Wise, y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau neu Gwasanaeth Cynghori Ariannol.  Rydym yn gwybod pan fydd ardaloedd lleol yn cael eu heffeithio gan fusnes mawr yn cau neu newid mewn cynllun pensiwn gall pobl ddod yn darged ar gyfer ymarfer diegwyddor. Ein rôl yw cynnig lle diogel i fynd am unrhyw bryderon arian neu bensiwn efallai sydd gennych.

Canllawiau cyllid busnes a phersonol

Mae ein gwefannau a gwefannau ein partneriaid yn cynnwys canllawiau a theclynnau gall fod yn ddefnyddiol.

Cael help gyda chostau byw

Mae ein canllawiau cam wrth gam yn cynnwys pethau syml y gallwch ei wneud i reoli eich arian ar hyn o bryd, os ydych yn gyflogedig, hunangyflogedig neu’n poeni am golli eich swydd.

Cyngor ar ddyledion

Ni yw’r aey-helper/cy/money-troubles/dealing-with-debt/debt-adriannwr fwyaf o gyngor am ddyled yn Lloegr. Darganfyddwch o ble y gallwch gael cyngor am ddyled am ddim waeth ble yr ydych yn y DU.

Pensiynau a buddsoddiadau

Mae’r canllawiau pensiwn hyn yn helpu eich gweithwyr i osgoi brysio mewn i benderfyniadau am ymddeoliad, ac yn helpu i gadw’ch arian yn ddiogel o sgamiau:

Diswyddo

Help i fusnesau, yr hunangyflogedig ac unig fasnachwyr o ganlyniad i’r coronaferiws

Help i fusnesau, yr hunangyflogedig ac unig fasnachwyr

Help i unigolion

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau

Cysylltwch â’n tîm partneriaethau rhanbarthol am gyngor am ddim a ffyrdd ymarferol i’ch helpu i adeiladu lles ariannol ar draws eich sefydliad.

Wedi’i lleoli’n agos atoch, gall ein timau partneriaethau eich helpu i ddod â dealltwriaeth o rai o’r heriau lles ariannol lleol i chi.

Os oes gan eich sefydliad sawl safle, cysylltwch â rheolwr rhanbarthol sydd agosaf at eich prif swyddfa.

Fel arall, gallwch gysylltu â’ tîm partneriaethau yn partners@maps.org.ukYn agor mewn ffenestr newydd.