Published on:
24 Mawrth 2026
MoneyView 2026 yw ein harolwg cynrychioliadol cenedlaethol o dros 12,000 o oedolion sy'n byw yn y DU, a gynhaliwyd yn ystod Haf 2025. Mae'n cynnig mewnwelediad unigryw fewn i sefyllfa ariannol y boblogaeth a'u teimladau cyfredol tuag at eu harian.
MoneyView yw ein harolwg lles ariannol blaenllaw. Ei nod yw amlinellu sefyllfaoedd ariannol pobl trwy ystod eang o fesurau lles ariannol, gan ein galluogi i ddeall yr heriau sy'n wynebu'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi.
Ymhlith y pynciau a gwmpesir gan MoneyView mae:
Ers ein rhifyn 2025, mae MoneyView wedi dod yn arolwg blynyddol. Mae hyn yn golygu y gallwn ni, yn ogystal â'n partneriaid, fod yn gyson â'r wybodaeth ddiweddaraf am fywydau ariannol pobl.
Mae MoneyView 2026 yn tynnu sylw at ganfyddiadau'r nifer fawr o gyfweliadau rhwng Awst a Hydref 2025.
Cafodd cyfanswm o 12,647 o bobl eu cyfweld. Roedd hyn yn cynnwys o leiaf 1,000 o bobl ym mhob un o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Er mwyn cyflawni sampl gwbl gynrychioliadol yn genedlaethol, fe wnaethom ddefnyddio cymysgedd o gyfweliadau ar-lein ac all-lein wyneb yn wyneb. Yn gyfan gwbl, cafodd tua 15% o'r ymatebwyr eu cyfweld wyneb yn wyneb. Fe wnaethom geisio rhoi hwb i is-grwpiau allweddol sy'n cael eu tangynrychioli mewn paneli ar-lein gan gynnwys defnyddwyr nad ydynt yn defnyddio’r rhyngrwyd, y rhai sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon, y rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a grwpiau oedran hŷn.
Trwy'r ymchwil yma, mae MaPS, llywodraethau a sefydliadau eraill sy'n gweithio ym maes lles ariannol yn gallu nodi pwy sydd fwyaf mewn angen, a dylunio a thargedu ymyriadau yn fwy effeithiol i helpu'r unigolion hyn.
Mae'r ymchwil yma wedi'i gynllunio i rymuso darparwyr sy'n ymdrechu i greu polisïau, cynhyrchion a gwasanaethau sy'n addas i'w cynulleidfaoedd. Mae hefyd yn ategu ymchwil hanfodol sefydliadau eraill, gan gryfhau ein sylfaen dystiolaeth gydweithredol i helpu pobl i reoli eu harian heddiw ac ar gyfer y dyfodol.
Mae'r adroddiad yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio'r data ar draws ein gwaith ein hunain, gan gynnwys yn y Rhaglen Dangosfyrddau Pensiynau, HelpwrArian ac Arweinwyr Arian.
Os hoffech ddefnyddio ein data yn eich gwaith eich hun, gallwch ddysgu mwy am Weithio gyda'n data arolwg.
Yn ein setiau data y gellir eu lawrlwytho, rydym yn dadansoddi amcangyfrifon o'r angen am gyngor ar ddyled a lles ariannol cyffredinol gan wahanol etholaethau seneddol San Steffan ac awdurdodau lleol.
Gallwch hefyd weld fersiynau map gwres rhyngweithiol o'r data hwn yn ôl awdurdod lleolYn agor mewn ffenestr newydd ac yn ôl etholaeth seneddolYn agor mewn ffenestr newydd.
Mae cydberthynas gref rhwng y ddau fetrig ond nid ydynt yn mesur yr un peth. Er bod y ddau yn darparu arwydd o sefyllfa ariannol rhywun, mae rhai gwahaniaethau pwysig:
Gallwch weld fersiynau hŷn o MoneyView yma: