Skip to content
Gwefan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
English
  • Amdanom ni
    • Pwy ydyn ni
    • Bwrdd
      • Grŵp Cynghori i'r Bwrdd
    • Pwyllgor Gweithredol
    • HelpwrArian
    • Cynllun Laith Gymraeg
    • Gyrfaoedd
  • Ein gwaith
    • Strategaeth y DU am Les Ariannol
      • Beth yw lles ariannol
    • Wythnos Siarad Arian
      • Wythnos Siarad Arian ar gyfer ysgolion
    • Cyngor ar ddyledion
      • Lle i Anadlu
      • Rhwydwaith Cynghorwyr Arian
      • Fframwaith Sicrwydd Ansawdd
    • Pensiynau
    • Tywyswyr Arian
    • Siarad Dysgu Gwneud
  • Gweithio gyda ni
    • Lles ariannol yn eich lleoliad
      • Cymru
    • Cyflogwyr
    • Gwasanaethau ariannol
    • Lechyd
    • Tai
    • Awdurdodau lleol
    • Ysgolion
    • Caffael
  • Canolfan y cyfryngau
    • Swyddfa’r Wasg
    • Datganiad i’r wasg
  • Cyhoeddiadau
    • Cynllun Busnes
    • Ymatebion ac ymgynghoriad
    • Ymchwil
    • Dangosfwrdd cymryd pensiwn HelpwrArian
    • MoneyView 2026
  • English

Cwcis ar maps.org.uk


Mae cwcis yn ffeiliau a arbedir ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur pan ymwelwch â gwefan. Rydym yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio MaPS, fel y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw. I gael mwy o wybodaeth, ymwelwch â'n Polisi Cwcis a'n Polisi Preifatrwydd.

Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i'r wefan weithredu'n gywir, fel y rhai sy'n cofio'ch datbliygad trwy ein teclynnau, neu ddefnyddio ein gwasanaeth gwe-sgwrs.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni gasglu data dienw am sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, gan ein helpu i wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.

Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ni ddeall pa ymgyrchoedd sy'n gweithio orau wrth gynyddu ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau ymhlith y rhai sydd eu hangen.


Gwrthod cwcis ychwanegol Arbed dewisiadau Derbyn pob cwci

Gweithio gyda’n data arolwg

Rydym yn cynnal arolygon o bobl ledled y DU bob blwyddyn ar ystod o bynciau fel arian, pensiynau a dyled.  Dysgwch sut y gallwch ddefnyddio'r data hwn ar gyfer eich gwaith eich hun.

Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn cynnal arolygon i gefnogi gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ein gwaith parhaus ar Strategaeth y DU ar gyfer Lles Ariannol. Mae'r data o'r arolygon hefyd yn llywio ein cynllun corfforaethol a'n strategaeth.

  • Defnyddio data o'n gwefan a'n hadroddiadau
  • Os na allwch ddod o hyd i'r data sydd ei angen arnoch, neu os oes gennych ymholiad neu gais syml
  • Pa ddata sydd ar gael os oes gennyf gais mwy cymhleth?
  • Pwy all gael mynediad at y data hwn?
  • Pethau i feddwl amdanynt cyn gwneud cais am fynediad at y data
  • Sut alla i wneud cais am fynediad?

Defnyddio data o'n gwefan a'n hadroddiadau

Rydym bob amser yn falch o weld ein data yn cael ei ddefnyddio. Os ydych chi'n gweld ystadegau, rhywfaint o ddata neu graffig yr hoffech ei ddefnyddio yna rhowch wybod i ni.  Y cyfan rydyn ni'n gofyn amdano yw'r cyfle i adolygu a gwirio unrhyw gyhoeddiad sy'n defnyddio ein data fel ffynhonnell.  Byddem hefyd yn disgwyl i'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau gael ei ddyfynnu fel ffynhonnell ddata yn y cyhoeddiad.

Cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd a gallwn adolygu’r gwaith i sicrhau bod data’n cael ei ddyfynnu'n gywir. Efallai y byddwn hefyd yn gallu cynnig mwy o ddata cyfredol i chi.

Dyfynnu'r Gwasanaeth Arian a PhensiynauDyfynnu'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau

Byddem yn disgwyl gweld: 

  • y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac enw'r adroddiad (os yw'n berthnasol) a ddyfynnir yng nghorff y testun neu'r troednodiadau, ac
     Arian a Phensiynau ac enw'r adroddiad (os yw'n berthnasol) a ddyfynnir yng nghorff y testun neu'r troednodiadau, ac
  • os yn bosibl, dolen i'r adroddiad neu'r dudalen we berthnasol.

Er enghraifft:

  • Ffynhonnell: Gwasanaeth Arian a Phensiynau, UK MoneyView 2025
  • Mae Arolwg Angen Dyled Gwasanaeth Arian a Phensiynau 2023, yn dweud wrthym fod ‘x’% o bobl wedi gwneud ‘y’
     Angen Dyled Gwasanaeth Arian a Phensiynau 2023, yn dweud wrthym fod ‘x’% o bobl wedi gwneud ‘y’
  • Ffynhonnell: Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Arolwg Lles Ariannol Plant a Phobl Ifanc 2022
  • Mae Arolwg Lles Ariannol Oedolion 2021 gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn adrodd bod x% o oedolion yn y DU yn dweud eu bod yn teimlo'n bryderus wrth feddwl am faterion ariannol.

Defnyddio ein graffeg

Os ydych chi'n defnyddio graffeg o'n hadroddiadau MoneyView 2025, fe welwch ddata maint ffynhonnell a data maint sylfaen ar bob graffig y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyhoeddiadau.   ydych chi'n defnyddio graffeg o'n hadroddiadau MoneyView 2025, fe welwch ddata maint ffynhonnell a data maint data maint sylfaen ar bob graffig y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyhoeddiadau.  

Yn dibynnu ar y math o gyhoeddiad a'r data a ddefnyddir, efallai y byddwn yn gofyn i'r canlynol gael eu hychwanegu at y cyhoeddiad:  

Mae'r adroddiad hwn yn cynrychioli ymchwil a safbwyntiau'r awduron yn unig a'r [rhowch y sefydliad y mae'r awduron yn gweithio iddo]. Mae'r dadansoddiad, y dehongliad a'r argymhellion sy'n deillio o'n defnydd o'r [insert name of Money and Pensions Survey] yn rhai o'r [rhowch enw’r sefydliad y mae’r awduron yn gweithio iddo] ac nid yw’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn gyfrifol amdanynt ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau. 

Nol i'r brig

Os na allwch ddod o hyd i'r data sydd ei angen arnoch, neu os oes gennych ymholiad neu gais syml

Os na allwch ddod o hyd i'r union beth rydych chi'n chwilio amdano mewn adroddiad neu ar ein gwefan, byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu – ac mewn rhai achosion, gallwn wneud darnau bach o ddadansoddi syml i gynorthwyo.

Gallwch gysylltu â ni am hyn drwy e-bostio [email protected]Yn agor mewn ffenestr newydd

Os na allwn eich helpu gyda'ch cais ein hunain, neu os oes gennych ddarn mwy cymhleth o ddadansoddi yr hoffech ei wneud, efallai y byddai'n briodol i chi gael y data crai eich hun trwy'r broses a ddisgrifir yn adrannau nesaf y dudalen hon.

Nol i'r brig

Pa ddata sydd ar gael os oes gennyf gais mwy cymhleth?

Rydym yn sicrhau bod llawer o'r data rydyn ni'n ei gasglu ar gael i eraill ei ddadansoddi drwy'r Gwasanaeth Data DaearyddolYn agor mewn ffenestr newydd (GeoDS)

Mae'r setiau data canlynol ar gael, ac rydym yn bwriadu ychwanegu mwy dros amser:

  • MoneyView 2025Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Debt Need Survey 2020, 2021, 2022, 2023Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Children and Young People’s Financial Wellbeing Survey, 2019, 2022Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Adult Financial Wellbeing Survey 2021Yn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch ddarganfod mwy am bob set o ddata trwy greu cyfrif gyda’rYn agor mewn ffenestr newydd Gwasanaeth Data Daearyddol (GeoDS) ac yna mewngofnodi.

Nol i'r brig

Pwy all gael mynediad at y data hwn?

Rydym yn darparu mynediad trwy'r Gwasanaeth Data DaearyddolYn agor mewn ffenestr newydd (GeoDS) wrth iddynt ofyn i bobl sy'n gwneud ceisiadau ystyried y meysydd allweddol canlynol, yr ydym wedyn yn eu hasesu fel rhan o gais:

  • Budd y cyhoedd - a fydd y data yn cael ei ddefnyddio er lles y cyhoedd?
  • Diogelwch data - sut bydd y data yn cael ei storio a'i gyrchu?
  • Safonau moesegol - a yw'r sefydliad neu'r person sydd eisiau'r data yn cydymffurfio â safonau cydnabyddedig?
  • Hyfforddiant - a yw'r bobl sy'n mynd i fod yn gweithio gyda'r data wedi'u hyfforddi i berfformio'r dadansoddiad arfaethedig?

Rydym yn agored i rannu'r data gyda sefydliadau neu unigolion cyn belled â'u bod yn gallu tystio arfer da a chwmpasu'r pwyntiau hyn yn foddhaol yn eu cais. Mae hyn yn cadw'r bobl sy'n ymateb i'n harolygon, MaPS a'r person sy'n gwneud cais i ddefnyddio'r data yn ddiogel.

Nol i'r brig

Pethau i feddwl amdanynt cyn gwneud cais am fynediad at y data

Dylech gofio ychydig o bwyntiau cyn gwneud cais i gael mynediad at y data.  

Byddwch yn gallu cyrchu ffeiliau sy'n cynnwys y data crai o'r arolygon hyn. Bydd y rhain yn cynnwys rhwng 10,000 a 23,000 o gofnodion. Mae pob cofnod yn cynnwys yr atebion a roddwyd gan gyfranogwr yn yr arolwg.  

Mae'r holl ddata rydyn ni'n ei roi ar y Gwasanaeth Data Daearyddol (GeoDS) yn ddienw, oherwydd pan fydd aelodau o'r cyhoedd yn rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn un o'n harolygon, rydym yn rhoi sicrwydd iddynt ynghylch sut y bydd y data'n cael ei ddefnyddio, sy'n cynnwys eu hawl i beidio â chael eu hadnabod.  

Mae'n debyg y bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd arbenigol i weithio gyda'r data hwn fel SPSS neu Stata. Darperir y data mewn fformat csv sy'n gydnaws â'r rhan fwyaf o feddalwedd ystadegol.  Os nad oes gennych bobl yn fewnol sy'n ddefnyddwyr profiadol o'r math hwn o feddalwedd, bydd angen i chi edrych ar allanoli dadansoddiad y data. 

Nid yw meddalwedd taenlen fel Excel yn debygol o fod yn addas ar gyfer dadansoddi unrhyw un o'n setiau data. Gall nifer y meysydd data sydd gennym ar gyfer pob cofnod fod yn fwy na'r uchafswm nifer o golofnau a ganiateir.

Nol i'r brig

Sut alla i wneud cais am fynediad?

Ar ôl i chi greu cyfrifYn agor mewn ffenestr newydd yn y Gwasanaeth Data Daearyddol, gallwch gychwyn eich cais.  Bydd y broses ymgeisio’n gofyn am eich cynlluniau ar gyfer defnyddio'r data a hyfforddiant a sgiliau'r bobl a fydd yn trin y set ddata.

Ar ôl i chi gwblhau'r cais, bydd y Gwasanaeth Data Daearyddol yn rhannu hyn gyda MaPS a byddwn yn penderfynu a ddylid caniatáu mynediad.  Rydym yn edrych ar geisiadau ac yn gwneud penderfyniad cyn gynted ag y gallwn.  Efallai y byddwn yn gofyn am eglurhad ar rai agweddau ar eich cais. Os yw'ch cais yn llwyddiannus, bydd y Gwasanaeth Data Daearyddol wedyn yn dilyn eu proses i'ch galluogi i gael mynediad at y data yn ddiogel.

Nol i'r brig

Gweler hefyd

  • Ein hymchwil
  • Cymryd rhan yn ein harolygon

Gweler Hefyd

  • Beth yw lles ariannol?
  • Strategaeth y DU am Les Ariannol
  • HelpwrArian

Cael y newyddion diweddaraf ar ein cynnydd ac ymuno âr sgwrs

CYFREITHIOL

  • Telerau ac Amodau
  • Rhybudd preifatrwydd
  • Polisi cwcis
  • Safonau Gwasanaeth Arian a Phensiynau
 
  • Cynllun cyhoeddi
  • Cais Gwrthrych am Wybodaeth
  • Datganiad hygyrchedd
  • Dewis y cwci

EIN BRAND

  • HelpwrArian Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Strategaeth Gallu Ariannol ar gyfer y DU Yn agor mewn ffenestr newydd

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

  • Cysylltwch â ni
  • Cofrestrwch i gylchlythyr Yn agor mewn ffenestr newydd
  • Twitter Yn agor mewn ffenestr newydd
  • LinkedIn Yn agor mewn ffenestr newydd
  • YouTube Yn agor mewn ffenestr newydd

Hawlfraint 2026 Money & Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB.

Cedwir pob hawl.