Rydym yn cynnal arolygon gyda phobl yn y DU ar draws ystod o bynciau sy'n ymwneud ag arian, pensiynau a dyled. Gallwch ddarganfod mwy am ein hymchwil a sut rydym yn ei ddefnyddio isod.
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn gorff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a sefydlwyd ar ddechrau 2019, ac mae hefyd yn ymgysylltu â Thrysorlys EF ar faterion polisi sy’n ymwneud â gallu ariannol a chyngor ar ddyledion.
Rydym yn helpu pobl – yn enwedig y rhai mwyaf anghenus – i wella’u lles ariannol ac i adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Gan gydweithio ledled y DU, rydym yn sicrhau y gall cwsmeriaid gyrchu arweiniad ar arian a phensiynau a chyngor ar ddyledion o safon uchel ar hyd eu bywydau, sut a phryd y mae eu hangen arnynt.
Efallai eich bod wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn rhywfaint o ymchwil gan MaPS, ac rydym yn eich annog i wneud hynny. Mae eich barn yn bwysig i ni a gall helpu i lunio ein gwaith.
Diolch i bawb sy'n cymryd rhan mewn unrhyw ran o'n hymchwil.
Byddwn yn ceisio gwneud cymryd rhan yn syml ac yn werth chweil. Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol a byddwn yn rhoi syniad realistig i chi o ba mor hir y gall yr ymchwil gymryd.
Rydym yn sicrhau bod ein holl ymchwil yn angenrheidiol i helpu gyda'n gwaith, a byddwn ond yn casglu data sy'n ddefnyddiol ac yn gymesur.
Ni fyddwn byth yn gofyn am eich manylion banc nac unrhyw fanylion talu.
Rydym hefyd yn cynnal ymchwil i gasglu adborth gan sefydliadau y mae MaPS yn ymgysylltu â nhw a rhanddeiliaid eraill. Os nad ydych eisiau i ni gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn ymchwil i randdeiliaid MaPS, naill ai gan MaPS neu gan un o'n partneriaid ymchwil, e-bostiwch [email protected]Opens in a new window.
Bydd eich atebion i'r arolwg yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddant byth yn cael eu defnyddio i'ch adnabod mewn unrhyw ffordd. Dim ond atebion arolwg dienw fydd yn cael eu rhannu gyda MaPS. Bydd eich manylion yn cael eu defnyddio yn y ffyrdd rydych yn cydsynio iddynt yn unig ac ni fyddant yn cael eu defnyddio i werthu unrhyw beth i chi. Mae ein partneriaid ymchwil yn ymrwymo i safonau uchel o ran diogelu data.
Mae MaPS yn ystyried preifatrwydd a diogelu data o ddifrif. Darllenwch ein polisi preifatrwydd llawn neu gallwch gysylltu â ni.
Os ydych wedi derbyn gwahoddiad i gwblhau arolwg gan MaPS ac yr hoffech fwy o wybodaeth, cyfeiriwch at y wybodaeth neu'r manylion cyswllt ar y llythyr gwahoddiad / e-bost a gawsoch gan ein partner ymchwil.