Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian yn nodi’r cymwyseddau craidd sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth diogel, o safon i’ch cwsmeriaid. Mae wedi’i ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n darparu unrhyw fath o arweiniad arian beth bynnag yw ei sector neu rôl ei swydd.
Dyma’r rhinweddau hanfodol sydd eu hangen wrth gael unrhyw fath o sgwrs arian gyda’ch cwsmeriaid, gan gynnwys casglu gwybodaeth a’i gyfeirio at ffynonellau addas am gymorth pellach, fel cyngor ar ddyledion. Fel y gwelwch isod, mae’r sylfeini wedi’u rannu i ddau rhan: sgiliau ac ymddygiadau, a gwybodaeth a chydymffurfiaeth.
Pan rydych yn hapus eich bod yn deall y sylfeini ar gyfer rhoi arweiniad arian, archwiliwch y mannau arbenigol (parthau technegol) a fydd yn eich helpu yn eich rôl benodol.
Mae Haen 1 yn cynnwys rhoi gwybodaeth ffeithiol, cyffredinol fel cyfeirio ac adnoddau a fydd yn galluogi cwsmeriaid i wneud mwy am ei sefyllfa ei hun.
Haen 2 yw canolbwyntio ar amgylchiadau unigol cwsmer, archwilio anghenion a nodi opsiynau. Efallai byddwch yn cynnig hyrwyddo neu gefnogaeth, neu’n cyfeirio pobl i sefydliadau eraill.
Haen 3 yw darparu gwybodaeth bwrpasol mewn ardal arbenigol. Bydd gennych wybodaeth fanwl a’n debygol o ddelio gydag achosion cymhleth.
Mae’r fframwaith cymhwysedd ar gyfer Arweinwyr Arian yn nodi’r sgiliau, gwybodaeth a’r ymddygiad sydd eu hangen i ddarparu arweiniad diduedd ar reoli arian a lles ariannol yn y gofod anrheoleiddiedig.
Mae yna 12 parth arian, mae pob un ohonynt yn seiliedig ar wybodaeth dechnegol. Mae'r parthau i gyd yn haenog, yn ôl lefel y cymhlethdod y mae'r ymarferydd yn gweithio arni. Mae uchafswm o dair haen, er nad yw pob parth yn gofyn am sgiliau neu wybodaeth ar bob lefel.