Mae sgiliau trosglwyddadwy cryf yn sylfaenol i ddarparu arweiniad diduedd ar reoli arian a lles ariannol. Mae hyn yn cynnwys gweithio'n dda gydag eraill - gan gynnwys cydweithwyr ac asiantaethau eraill - yn ogystal â defnyddio'r systemau a'r gweithdrefnau sefydliadol priodol yn gywir, cadw cofnodion cywir a rhoi sylw i fanylder. Dylai fod gan ymarferwyr hefyd lefelau da o lythrennedd a rhifedd i gyfathrebu'r hyn a all yn aml fod yn wybodaeth gymhleth mewn ffordd syml a dealladwy.
Sillafu ac atalnodi cywir, yn enwedig pan fydd yn ofynnol i ymarferwyr gofnodi gwybodaeth cwsmeriaid, ac yn enwedig yn Haenau 2 a 3, ysgrifennu cywir a chryno ar gyfer cadw cofnodion a gwneud atgyfeiriadau.
Y gallu i resymu a chymhwyso cysyniadau rhifol, gan ddeall rhifyddeg sylfaenol (h.y. adio, tynnu, lluosi a rhannu). Yn dibynnu ar rôl yr ymarferydd, yn Haenau 2 a 3, efallai bydd angen y gallu i gyfrifo ffracsiynau; canrannau; llog syml a chyfansawdd.
Sgiliau cyfrifiadurol i sicrhau y gellir cynnal cofnodion cywir a chael mynediad at wybodaeth berthnasol mewn modd amserol a diogel.
Yn dibynnu ar y rôl, sgiliau defnyddio offer a chyfrifianellau ar-lein, ynghyd â'r gallu i ddefnyddio gwefannau cymharu ac offer ar-lein (e.e. cyfrifianellau morgais a/neu fudd-daliadau). Bydd hyn hefyd yn cynnwys elfen o ddadansoddiad beirniadol i farnu perthnasedd a dilysrwydd y wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno.
Mae cywirdeb a sylw i fanylder yn hanfodol ar gyfer cynnal cofnodion clir a chywir (gan gynnwys unrhyw gyfeirnodau a chodau; gwybodaeth am amgylchiadau cwsmeriaid).
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig. Wrth gyfathrebu ag eraill, mae'r ymarferydd yn defnyddio iaith briodol, gan barchu cydraddoldeb ac amrywiaeth a, lle bo hynny'n berthnasol, gan ddefnyddio arwyddion di-eiriau priodol.
Mae'r ymarferydd yn nodi ac yn cadarnhau anghenion a disgwyliadau cydweithwyr a chwsmeriaid, gan sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol â phobl berthnasol. Mae ganddynt y gallu i ddelio ag anghytundebau mewn ffordd gyfeillgar ac adeiladol i gynnal perthnasoedd da. Lle bo hynny'n briodol, dylai'r ymarferydd gyfrannu'n weithredol at weithio'n effeithiol mewn tîm trwy gydweithredu â chydweithwyr, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol; nodi gwrthdaro a allai achosi problemau i gynhyrchiant a cheisio atebion yn brydlon gan y person cyfrifol.
Cofnodi gwybodaeth berthnasol mewn modd sy'n hawdd ei dilyn ac sy'n caniatáu i weithwyr eraill ei deall, gan sicrhau bod gwybodaeth wedi'i grwpio'n rhesymegol a'i bod yn hygyrch. Dylai ymarferwyr nodi unrhyw rwystrau neu ffactorau a allai effeithio ar ganlyniadau a chyfnewid gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau sefydliadol.
Pan rydych yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian, gan gynnwys y ffiniau wrth roi arweiniad arian, rydych yn barod i gymryd eich help ymhellach. Darganfyddwch ba mor hyderus ydych chi am eich sylfeini arweiniad, a chewch awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i adeiladu eich sgiliau a gwybodaeth..