Fframwaith Cymhwysedd: cynllunio ar gyfer nes ymlaen mewn bywyd

Parthau Gwybodaeth Dechnegol

12. Cynllunio ar gyfer nes ymlaen mewn bywyd

Mae'r parth hwn yn ymwneud â materion sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer bywyd diweddarach, gan gynnwys: ewyllysiau; ymddiriedolaethau; cynlluniau angladd wedi'u talu ymlaen llaw; costau angladd; cefnogaeth i ofalwyr; costau gofal; Pŵer Atwrnai; profiant diewyllysedd; ffynonellau cefnogaeth; sgamiau. Mae'r parth yn cynnwys haenau 1, 2 a 3.

12.1.1 Ymwybyddiaeth o beth yw ewyllys a pham y gallai fod gennych un
12.1.2 Ymwybyddiaeth o gynlluniau talu ymlaen llaw am angladd
12.1.3 Ymwybyddiaeth o'r ffactorau sy'n cyfrannu tuag at gostau angladd (e.e. arch, amlosgi, claddu ac ati)
12.1.4 Ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i ofalwyr yn genedlaethol ac yn lleol
12.1.5 Ymwybyddiaeth o gymhlethdod costau gofal
12.1.6 Ymwybyddiaeth o Bŵer Atwrnai a mynediad trydydd parti
12.1.7 Cyfeirio cwsmeriaid at ffynonellau priodol o wybodaeth a chymorth
12.1.8 Ymwybyddiaeth o sgamiau a beth i’w wneud os yw cwsmer wedi bod yn destun i sgam
12.2.1 Gwybodaeth am y broses i greu ewyllys
12.2.2 Gwybodaeth am y gwahaniaeth rhwng ewyllys ac ymddiriedolaeth
12.3.3 Gwybodaeth am yr hyn y mae cynllun talu ymlaen llaw am angladd yn ei gynnwys fel arfer a phwy sy'n eu darparu
12.2.4 Gwybodaeth am y meini prawf cymhwyso a'r broses gwneud cais am gymorth i ofalwyr (e.e. Lwfans Gofalwyr), a llwybrau eraill fel cyllid o'r GIG ac Awdurdodau Lleol
12.2.5 Gwybodaeth am Bŵer Atwrnai, sut i'w gael a'r meysydd y mae'n ei gynnwys
12.2.6 Gwybodaeth am effaith gwneud cais am gymorth ar hawliau budd-daliadau eraill
12.2.7 Gwybodaeth am dreth etifeddu, pryd mae'n berthnasol a phryd nad yw'n berthnasol
12.2.8 Gwybodaeth am gostau gofal a'r cyllid sydd ar gael (e.e. gofal iechyd parhaus y GIG, cymorth ariannol Awdurdodau Lleol ac ati)
12.2.9 Gwybodaeth am ryddhau ecwiti a chydnabod cyfyngiadau'r cyngor y gellir ei roi (cyfeiriwch at Adran D ‘Ffiniau’r gwasanaeth a’ch rôl chi’ ar disgrifiad o gyngor)
12.3.1 Gwybodaeth am y defnydd o ewyllys ac ymddiriedolaethau a rôl Atwrnai ac Ysgutor
12.3.2 Gwybodaeth am y rheoliadau sy'n ymdrin ag ewyllys a chynllunio etifeddol a chydnabod cyfyngiadau'r cyngor y gellir ei roi (cyfeiriwch at Adran D ‘Ffiniau’r gwasanaeth a’ch rôl chi’ ar disgrifiad o gyngor)
12.3.3 Gwybodaeth am y defnydd o ymddiriedolaethau a strwythurau eraill i ddiwallu dymuniadau hirdymor
12.3.4 Gwybodaeth am effaith diffyg ewyllys (gan gynnwys pan nad yw partneriaid yn briod/partneriaeth sifil), pwerau atwrnai neu warchodaeth llys
12.3.5 Gwybodaeth am brosesau apeliadau ariannu costau gofal
12.3.6 Dealltwriaeth o brofiant a sut y gall hyn effeithio ar atebolrwydd dyledion

Hyfforddiant a chymwysterau

Darganfyddwch am hyfforddiant allanol am y parth cynllunio ar gyfer bywyd diweddarach.

Cam nesaf: gwirio fy hyder nawr

Pan rydych yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian, gan gynnwys y ffiniau wrth roi arweiniad arian, rydych yn barod i gymryd eich help ymhellach. Darganfyddwch ba mor hyderus ydych chi am eich sylfeini arweiniad, a chewch awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i adeiladu eich sgiliau a gwybodaeth.