Mae'r rhinweddau hyn wrth wraidd Y Fframwaith. Mae ehangder a chymhlethdod gwybodaeth ac arweiniad ar reoli arian a lles ariannol yn golygu bod angen i ymarferwyr dynnu'n ddwfn ar eu rhinweddau personol i ymdrin â gofynion y rôl.
Mae'r sawl sy'n cynnig arweiniad ar reoli arian a lles ariannol yn dod â hygrededd i'r hyn maent yn ei wneud. Bydd yr ymarferydd yn gweithredu fel model rôl wrth ymwneud â chwsmeriaid ac yn dangos ymrwymiad i gyfle cyfartal.
Dylai ymarferwyr wybod eu cryfderau a'u cyfyngiadau eu hunain a defnyddio methiant neu gamfarn fel cyfle i ddysgu. Mae angen i ymarferwyr fod ag ymwybyddiaeth o'u hemosiynau eu hunain a gwybod sut i'w rheoli, gan eu haddasu'n briodol i'r sefyllfa. Byddant yn ymwybodol o'u heffaith bersonol eu hunain ar eraill, yn enwedig pan fyddant dan bwysau.
Rhaid i ddarparwyr arweiniad ariannol wneud hynny'n ddiduedd; o ran y wybodaeth y maent yn ei darparu ac o ran unrhyw sefydliadau y cyfeirir y cwsmer iddynt. Felly bydd ymarferwyr yn wrthrychol, ddim yn caniatáu eu hunain i gael eu dylanwadu gan deimladau neu farnau personol. Rhaid iddynt hefyd fod yn empathetig ac yn sensitif i ddymuniadau'r cwsmer ond heb ganiatáu i'r teimladau hynny o empathi ddylanwadu ar y ddarpariaeth o'r cyngor a'r arweiniad gorau. Mae ymwybyddiaeth o wrthdaro buddiannau gwirioneddol a phosibl a pha gamau i'w cymryd o dan yr amgylchiadau hynny yn bwysig.
Rhaid i ymarferwyr feddu ar safon o ddiplomyddiaeth a bod yn sensitif ac yn fedrus wrth reoli cysylltiadau ag eraill. Mae'r gallu i gynnal agwedd gadarnhaol yn briodoledd y dylent ei meddu ochr yn ochr â dibynadwyedd.
Rhaid i ymarferwyr fod yn hyblyg yn eu dull, gan ddangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion a hoffterau eraill.
Agwedd allweddol ar ddarparu arweiniad ariannol yn dda yw gallu dangos empathi â sefyllfa cwsmeriaid a mesur eu lefel bresennol o hyder a’u gallu i reoli eu harian. Dylai ymarferwyr sy'n gweithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid ddeall pwysigrwydd cyfathrebu di-eiriau, fel iaith y corff, a sut mae gwahanol ddiwylliannau'n defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn gwahanol ffyrdd. Dylai fod gan ymarferwyr ddealltwriaeth o bwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth a chydberthynas ag eraill, a dulliau i gyflawni hyn mewn gwahanol sefyllfaoedd (e.e. dros y ffôn, unigolion ac mewn grwpiau) ac i ystod o bobl, gan gynnwys cwsmeriaid ag ymddygiadau heriol.
Pan rydych yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian, gan gynnwys y ffiniau wrth roi arweiniad arian, rydych yn barod i gymryd eich help ymhellach. Darganfyddwch ba mor hyderus ydych chi am eich sylfeini arweiniad, a chewch awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i adeiladu eich sgiliau a gwybodaeth..