Mae'r parth hwn yn ymwneud â materion sy'n ymwneud ag aelwydydd, gan gynnwys: rhentu a phrynu cartref; biliau cartref; tai cymdeithasol a phreifat; cytundebau tenantiaeth; hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid a landlord; grantiau i gynorthwyo gwelliannau a thalu costau symud; morgeisi; taliadau rhent/morgais; ffynonellau cefnogaeth; sgamiau. Mae'r parth yn cynnwys haenau 1, 2 a 3.
10.1.1 | Ymwybyddiaeth o'r costau cyffredin sy'n gysylltiedig â rhentu neu fod yn berchen ar gartref (blaendal; rhent/morgais; gwasanaeth a chyfleustodau – dŵr, nwy, trydan ac ati) |
10.1.2 | Ymwybyddiaeth o gostau eraill a biliau cyffredin (e.e. trwydded deledu, yswiriant, band eang ac ati) |
10.1.3 | Ymwybyddiaeth o'r broses o rentu cartref (e.e. tystlythyrau; blaendal; symud tŷ ac ati) |
10.1.4 | Ymwybyddiaeth o ffyrdd o arbed ynni o gwmpas y tŷ |
10.1.5 | Ymwybyddiaeth o nodweddion a sut i ddarllen biliau cyffredin y cartref (e.e. treth cyngor/trethi, dŵr, nwy ac ati) |
10.1.6 | Ymwybyddiaeth o fodolaeth grantiau i ariannu gwelliannau, cymhorthion ac addasiadau i'r cartref |
10.1.7 | Ymwybyddiaeth o'r gwahaniaethau rhwng tai cymdeithasol a thai preifat |
10.1.8 | Cyfeirio cwsmeriaid at ffynonellau priodol o wybodaeth am rentu, perchnogaeth cartref a chyngor ar dai |
10.1.9 | Ymwybyddiaeth o sgamiau a beth i’w wneud os yw cwsmer wedi bod yn destun i sgam |
10.2.1 | Gwybodaeth am brif nodweddion cytundebau tenantiaeth a'r costau sydd ynghlwm i'r landlord ar tenant (e.e. costau asiantaeth a blaendaliadau) |
10.2.2 | Gwybodaeth am argaeledd grantiau ar gyfer costau symud |
10.2.3 | Gwybodaeth am hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid a landlordiaid |
10.2.4 | Gwybodaeth am y grantiau i ariannu gwelliannau, cymhorthion ac addasiadau i'r cartref |
10.2.5 | Dealltwriaeth o fanteision ac anfanteision rhentu yn erbyn prynu cartref |
10.2.6 | Dealltwriaeth o'r gweithdrefnau a ddefnyddir gan y prif fenthycwyr |
10.2.7 | Dealltwriaeth o rôl ymgynghorwyr morgais |
10.2.8 | Dealltwriaeth o'r newidiadau mewn amgylchiadau personol a allai effeithio ar allu unigolyn i dalu eu rhent/morgais |
10.3.1 | Bod yn gyfarwydd gyda a defnyddio pecynnau cymorth a chyfrifianellau ar-lein yn hyderus (e.e. cyfrifianellau treth stamp/treth trafodiadau tir, cyfrifianellau fforddiadwyedd morgais ac ati) |
10.3.2 | Cefnogi cwsmeriaid i gael mynediad i byrth ar-lein a defnyddio pecynnau cymorth, a allai gynnwys cwblhau gwybodaeth ar eu rhan |
Darganfyddwch am hyfforddiant allanol am y parth cartrefi.