Fframwaith Cymhwysedd: Adnabod eich cwsmer

Parthau Gwybodaeth Dechnegol

1. Adnabod eich cwsmer

Mae'r parth hwn yn ymwneud â deall pwy yw'r cwsmer a'u anghenion - y gallant fod yn ymwybodol ohonynt neu beidio - ac mae'n tynnu ar lawer o'r ymddygiadau trawsbynciol a sgiliau sy'n sail i ymarfer.  Mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r ymarferydd ddatblygu dealltwriaeth o'u cwsmeriaid, gan gynnwys cefndir, amgylchiadau, disgwyliadau a nodau.

1.1.1 Gofyn cwestiynau a gwrando'n ofalus ar ymatebion y cwsmeriaid, gan egluro lle y bo'n briodol, i benderfynu ar gymhlethdod a brys yr angen
1.1.2 Ymwybyddiaeth o natur gyfannol arweiniad ariannol, a bod cysylltiad rhwng llawer o feysydd (e.e. dyled a budd-daliadau; cartrefi a morgeisi a benthyca ac ati)
1.1.3 Ymwybyddiaeth o'r ffyrdd y gall digwyddiadau bywyd effeithio ar amgylchiadau unigolyn, er enghraifft: salwch; cael babi neu blentyn, gan gynnwys mabwysiadu a meithrin; swydd newydd, newid swyddi, colli swydd; profedigaeth; ysgariad, gwahanu a pherthynas yn chwalu; prynu eitemau mawr
1.1.4 Ymwybyddiaeth o'r 'peryglon' sy'n nodi angen brys a/neu fregusrwydd a sut i'w hadnabod: perygl o hunan-niweidio/diogelu; dim bwyd; perygl o ddigartrefedd; beilïaid/swyddogion siryf a/neu gamau gorfodi; camdriniaeth economaidd ac ariannol
1.1.5 Ymwybyddiaeth o bŵer atwrnai a mynediad trydydd parti
1.1.6 Ymwybyddiaeth o sgamiau a beth i'w wneud os yw cwsmer wedi bod yn destun sgam
1.2.1 Gofyn cwestiynau manwl a treiddgar, gan wrando'n astud i: deall ymwybyddiaeth y cwsmeriaid o'u hanghenion a'u lefel blaenorol o ddealltwriaeth; deall os yw amgylchiadau cwsmeriaid wedi newid yn ddiweddar neu os ydynt yn debygol o newid; edrych i mewn i opsiynau, eu manteision a'u hanfanteision ac a allai dewisiadau amgen fod yn fwy addas (e.e. cynilo yn hytrach na benthyca) i amgylchiadau'r cwsmer; nodi unrhyw broblemau neu anghenion ychwanegol
1.2.2 Gofyn cwestiynau manwl a phenodol am amgylchiadau unigol cwsmeriaid a all gynnwys data personol a gwybodaeth sensitif
1.2.3 Helpu cwsmeriaid i nodi eu materion, eu nodau a'u blaenoriaethau eu hunain, gan gynnwys unrhyw heriau neu rwystrau posibl
1.2.4 Gwirio dealltwriaeth cwsmeriaid o'u hopsiynau, gan asesu eu lefel o ddealltwriaeth drwy gwestiynu
1.2.5 Cadarnhau nodau, disgwyliadau a, lle bo'n briodol, dealltwriaeth y cwsmeriaid o'r gwasanaeth a'i bolisïau.
1.2.6 Cynnal ymchwil: I asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer cyfeirio; I nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am anghenion neu fater y cwsmer; I ganfod, deall a defnyddio tystiolaeth a mewnwelediad sy'n perthyn i ddarparu arweiniad ariannol
1.2.7 Deall faint o wybodaeth y dylid ei darparu ar gyfer gwahanol fathau o gwsmeriaid/pa fath o wybodaeth sy'n addas.
1.2.8 Deall sut i fynd i'r afael â phryderon ynghylch twyll neu ddwyn hunaniaeth.
1.2.9 Hwyluso cwsmeriaid i weithredu ar eu rhan eu hunain, lle y bo'n briodol, gyda'r nod o'u grymuso i reoli eu materion eu hunain a newid eu hymddygiad.

Hyfforddiant a chymwysterau

Darganfyddwch am hyfforddiant allanol am y parth adnabod eich cwsmer.

Cam nesaf: gwirio fy hyder nawr

Pan rydych yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian, gan gynnwys y ffiniau wrth roi arweiniad arian, rydych yn barod i gymryd eich help ymhellach. Darganfyddwch ba mor hyderus ydych chi am eich sylfeini arweiniad, a chewch awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i adeiladu eich sgiliau a gwybodaeth.