Mae'r parth hwn yn ymwneud â materion sy'n ymwneud â lles a budd-daliadau, gan gynnwys: y prif fudd-daliadau sydd ar gael; gwneud cais am fudd-daliadau; y prif feini prawf cymhwysedd; problemau budd-daliadau; sut mae prawf modd yn effeithio ar fudd-daliadau; ffynonellau cefnogaeth; Credyd Cynhwysol; dadlau penderfyniadau budd-daliadau; sgamiau. Mae'r parth yn cynnwys haenau 1 a 2 yn unig.
Rydym yn cydnabod y gall hawl i gael budd-daliadau fod yn gefndir pwysig i fywyd ariannol rhywun a'i bod yn bwysig i ymarferwyr arweiniad ariannol fod yn ymwybodol o'i oblygiadau.
Mae angen i ni hefyd gydnabod bod y tirwedd les wedi newid yn sylweddol oherwydd diwygiadau budd-daliadau ar raddfa eang, mwy o alw, cymhlethdod a maint.
Mewn maesydd sy'n cael eu rheoleiddio (fel dyledion a phensiynau), mae'r fframwaith hwn yn mynd i fyny hyd at ond nid yw'n croesi'r ffiniau hynny. Yn achos Lles a Budd-daliadau, yn niffyg ffin a reoleiddir ond o ystyried natur arbenigol a chymhlethdod maes, cyfyngwyd y fframwaith i'r maesydd hynny y mae ymarferwyr arweiniad ariannol cyffredinol yn debygol o ymdrin â hwy ac rydym yn cysylltu â fframweithiau perthnasol presennol sy'n cwmpasu budd-daliadau a lles yn fanylach.
4.1.1 | Ymwybyddiaeth o'r prif fudd-daliadau sydd ar gael, yn cwmpasu digwyddiadau bywyd sy'n berthnasol i'ch cwsmeriaid (e.e. genedigaethau, marwolaethau, magu plant, ysgariad/gwahanu, colli swydd, ymddeoliad, salwch ac anabledd, gofalu) |
4.1.2 | Ymwybyddiaeth o ba asiantaethau a swyddfeydd sy'n gweinyddu gwahanol fathau o fudd-daliadau (e.e DWP, CThEM, Awdurdodau Lleol ac ati.) |
4.1.3 | Ymwybyddiaeth o ba sefydliadau sy'n cynnig cyngor arbenigol ar fudd-daliadau ac offer ar gyfer cyfrifiadau budd-daliadau, bod yn gyfarwydd â gwefannau a sut i gyfeirio cwsmeriaid atynt |
4.14 | Ymwybyddiaeth o Benodai |
4.15 | Nodi unrhyw fregusdod mewn cwsmeriaid a all fod yn rhwystr i wneud neu reoli cais llwyddiannus am fudd-dal (neu ddelio â phroblem budd-daliadau) |
4.1.6 | Cyfeirio at ffynonellau cymorth perthnasol (e.e. llythrennedd a rhifedd, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, symudedd corfforol, hyder a mynediad digidol, camdriniaeth economaidd neu ddomestig |
4.1.7 | Ymwybyddiaeth o sgamiau a beth i’w wneud os yw cwsmer wedi bod yn destun i sgam |
4.2.1 | Gwybodaeth am y broses o wneud cais am fudd-daliadau lles a'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen (e.e. pa fathau o ID sy'n dderbyniol, pa fanciau sy'n cynnig cyfrifon banc sylfaenol di-gost, sut i ddarparu tystiolaeth o gyfeiriad ac ati) |
4.2.2 | Gwybodaeth am yr ystyriaethau ariannol o wneud a rheoli cais am Gredyd Cynhwysol (e.e. talu mewn ôl-daliad, angen cyfrif banc trafodaethol, rheoli aros pum wythnos am y taliad cyntaf ac ati) |
4.2.3 | Gwybodaeth am ffynonellau cymorth eraill gan y llywodraeth a thu allan i'r llywodraeth (e.e. Benthyciadau trefnu a thaliadau ymlaen llaw, cronfeydd cymorth lles lleol, grantiau a disgowntiau ac ati) |
4.2.4 | Gwybodaeth am yr amrywiaeth o fudd-daliadau'r llywodraeth a thaliadau statudol sydd ar gael a'r gallu i ddefnyddio hyn i edrych i mewn i sefyllfa cwsmer i roi syniad o'r budd-daliadau sy'n debygol o fod ar gael iddynt |
4.2.5 | Dealltwriaeth o brif feini prawf cymhwyster hawl i fudd-daliadau sy'n briodol i'r unigolyn a sut y gall newid yn eu hamgylchiadau effeithio ar hyn |
4.2.6 | Gwybodaeth am ble i gyfeirio pobl i ddechrau cais am fudd-daliadau, sy'n briodol i'r unigolyn |
4.2.7 | Dealltwriaeth o egwyddorion Credyd Cynhwysol |
4.2.8 | Dealltwriaeth o'r broses ar effaith ar y cwsmer wrth symud o fudd-daliadau 'legacy' i Gredyd Cynhywsol a ble i gyfeirio am gymorth pellach |
4.2.9 | Deall sut y mae egwyddor prawf modd yn effeithio ar gymhwyster a hawl i fudd-daliadau (e.e. sut y bydd cyfanswm incwm a chynilion cartref yn effeithio ar fudd-daliadau) |
4.2.10 | Dealltwriaeth o sbardunau posibl o fewn y system fudd-daliadau ar gyfer caledi ariannol cynyddol ac egluro i'r cwsmer sut i liniaru (e.e. ymdopi â bylchau mewn taliadau budd-dal, sancsiynau, incwm yn gostwng o symud drosodd i Gredyd Cynhwysol ac ati) |
4.2.11 | Dealltwriaeth o sut i ddefnyddio offer cyfrifiannell budd-daliadau i gynorthwyo cwsmer i gael gwell syniad o faint y maent yn debygol o'i gael, edrych a fyddant yn well neu waeth eu byd wrth symud o fudd-daliadau 'legacy' i Gredyd Cynhwysol |
4.2.12 | Cyfeirio i gefnogaeth briodol ar gyfer anghytuno gyda phenderfyniad budd-daliadau |
Darganfyddwch am hyfforddiant allanol am y parth lles a budd-daliadau.