Mae'r parth hwn yn ymwneud â materion sy'n ymwneud â chyllidebu a llif arian, gan gynnwys: cyllidebu; alldaliadau cartrefi; cynyddu incwm; cyfrifon banc; taliadau digidol; defnyddio technoleg ariannol; ffynonellau cefnogaeth; sgamiau; twyll a dwyn hunaniaeth. Mae'r parth yn cynnwys haenau 1, 2 a 3.
5.1.1 | Ymwybyddiaeth o egwyddorion cyllidebu |
5.1.2 | Ymwybyddiaeth o'r adnoddau sydd ar gael i gynorthwyo gyda chyllidebu a chynllunio |
5.1.3 | Ymwybyddiaeth o ddulliau o leihau treuliau cartrefi (e.e. newid darparwr ynni neu ffôn symudol ac ati) |
5.1.4 | Ymwybyddiaeth o ffyrdd o gynyddu incwm (e.e. gwirio bod cwsmeriaid yn cael yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl i'w cael, gwerthu nwyddau diangen ac ati) |
5.1.5 | Ymwybyddiaeth o'r gwahanol fathau o gyfrifon banc (e.e. cyfredol, cynilion, ar y cyd ac ati) a'r gwahaniaethau rhyngddynt |
5.1.6 | Ymwybyddiaeth o'r broses sylfaenol o sut i agor cyfrif banc, gan gynnwys y ddogfennaeth priodol sydd eu hangen |
5.1.7 | Ymwybyddiaeth o sut i sefydlu taliadau rheolaidd (e.e. archebion sefydlog, debydau uniongyrchol) |
5.1.8 | Dealltwriaeth o pam mae cyfrif banc yn ddefnyddiol (e.e. cadw arian yn ddiogel; rheoli incwm/gwariant; derbyn taliadau ac ati |
5.1.9 | Atgyfeirio cwsmeriaid i ffynonellau priodol o wybodaeth am gyfrifon banc, gan gynnwys gwefannau cymharu prisiau. |
5.1.10 | Ymwybyddiaeth o sgamiau a beth i’w wneud os yw cwsmer wedi bod yn destun i sgam |
5.2.1 | Gwybodaeth am sut i lenwi (neu gynorthwyo/arwain) taflen gyllideb/datganiad ariannol personol syml |
5.2.2 | Gwybodaeth am ddulliau i leihau treuliau misol |
5.2.3 | Gwybodaeth am sut i wneud taliadau digidol a defnyddio cyfleusterau bancio digidol ar-lein ac apps |
5.2.4 | Gwybodaeth o dreuliau o ddydd i ddydd nodweddiadol a anwybyddir yn aml ond y dylid cyllidebu amdanynt |
5.2.5 | Gwybodaeth am fanteision a risgiau defnyddio technoleg ariannol (e.e. apps rheoli arian, bancio ar-lein/symudol, taliadau digidol ac ati) a sut y gall helpu i gyllidebu a monitro incwm a gwariant |
5.2.6 | Gwybodaeth am sut i fynd i'r afael â phryderon ynghylch twyll neu ddwyn hunaniaeth |
5.2.7 | Ymwybyddiaeth o nodweddion sylfaenol cynnyrch bancio, budd-daliadau, gwaharddiadau a gwarantau |
5.2.8 | Gwybodaeth am amrywiaeth o ddulliau o uchafu incwm |
5.1.1 | Gwybodaeth fanwl am sut i lunio cyllideb gynhwysfawr a defnyddio cynlluniwr cyllideb i dorri lawr gwariant |
5.1.2 | Gwybodaeth fanwl am sut i ddefnyddio offer cymorth a chyfrifianellau ar-lein a sut i roi cyngor ar sut i gael y gorau allan ohonynt |
5.13 | Hwyluso cwsmeriaid i weithredu ar eu rhan eu hunain lle bo hynny'n briodol, gyda'r nod o'u grymuso i gyllidebu a rheoli llif arian yn annibynnol a newid eu hymddygiad |
Darganfyddwch am hyfforddiant allanol am y parth cyllidebu a llif arian.