Fframwaith Cymhwysedd: dyled

Parthau Gwybodaeth Dechnegol

2. Dyled 

Mae'r parth hwn yn ymwneud â materion sy'n ymwneud â dyled, gan gynnwys: mathau cyffredin o ddyled e.e. cardiau credyd, treth/cyfraddau cyngor ac ati; dyledion blaenoriaeth a heb flaenoriaeth, benthyciadau o ffynonellau anghyfreithlon ac amheus; ffynonellau cefnogaeth; sgamiau. Mae'r parth yn cynnwys Haen 1 yn unig.

Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o lle mae’r ffiniau rheoledig ac nad ydych yn mynd y tu hwnt iddynt (cyfeiriwch at Adran D ‘Ffiniau’r gwasanaeth a’ch rôl chi’ ar disgrifiad o gyngor). Gall arweiniad roi gwybodaeth a/neu opsiynau i gwsmeriaid o ran datrys dyledion heb wneud argymhelliad penodol. Ni ddylech argymell cwrs gweithredu penodol yn seiliedig ar amgylchiadau a/neu nodau unigol y cwsmer. 

2.1.1 Ymwybyddiaeth o'r mathau cyffredin o ddyled y mae cwsmeriaid fel rheol yn ceisio cyngor ac arweiniad arnynt (e.e. cardiau credyd, benthyciadau, treth cyngor/trethi ac ati)
2.1.2 Ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth rhwng dyledion blaenoriaethol a rhai nad ydynt yn flaenoriaeth
2.1.3 Ymwybyddiaeth o'r sbardunau tebygol ar gyfer dyled
2.1.4 Ymwybyddiaeth o'r rhesymau pam y gallai unigolion chwilio am fenthyciadau o ffynonellau anghyfreithlon neu amheus fel benthycwyr arian didrwydded, teulu a ffrindiau a materion cyffredin y gall hyn eu hachosi
2.1.5 Penderfynu a yw cwsmeriaid yn llwyddo i gadw i fyny â thaliadau, os na allant ymdopi, neu os oes sefyllfa frys (e.e. asiantau gorfodi
2.1.6 Cyfeirio cwsmeriaid at sefydliadau lleol a chenedlaethol priodol sy'n rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion dyled a ffynonellau o gymorth
2.1.7 Cefnogi cwsmeriaid wrth gael mynediad i byrth ar-lein a defnyddio pecynnau cymorth, a allai gynnwys cwblhau gwybodaeth ar eu rhan
2.1.8 Darparu gwybodaeth ffeithiol mewn ymateb i gwestiynau penodol, wedi'u targedu (e.e. disgrifio cynllun rheoli dyled; trefniant gwirfoddol unigol ac ati)
2.1.9 Ymwybyddiaeth o sgamiau a beth i'w wneud os yw cwsmer wedi bod yn destun i sgam

Hyfforddiant a chymwysterau

Darganfyddwch am hyfforddiant allanol am y parth dyled.

Cam nesaf: gwirio fy hyder nawr

Pan rydych yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian, gan gynnwys y ffiniau wrth roi arweiniad arian, rydych yn barod i gymryd eich help ymhellach. Darganfyddwch ba mor hyderus ydych chi am eich sylfeini arweiniad, a chewch awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i adeiladu eich sgiliau a gwybodaeth.