Mae'r parth hwn yn ymwneud â materion sy'n ymwneud â phensiynau, gan gynnwys: cynllunio ymddeoliad; gwahanol fathau o bensiwn; ymrestru awtomatig; Pensiwn y Wladwriaeth; datganiadau pensiwn; Cyfraith pensiynau; ffynonellau cefnogaeth; ffynonellau gwybodaeth fanwl; sgamiau. Mae'r parth yn cynnwys haenau 1, 2 a 3.
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o lle mae’r ffiniau rheoledig ac nad ydych yn mynd y tu hwnt iddynt (cyfeiriwch at Adran D ‘Ffiniau’r gwasanaeth a’ch rôl chi’ ar disgrifiad o gyngor). Gall arweiniad ddarparu gwybodaeth a/neu opsiynau o ran dewis cynllun pensiwn neu dynnu'n ôl ond peidio â gwneud argymhelliad penodol.
11.1.1 | Ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynllunio ar gyfer ymddeoliad |
11.1.2 | Ymwybyddiaeth o beth yw pensiwn a sut i wahaniaethu rhwng gwahanol fathau |
11.1.3 | Ymwybyddiaeth o beth yw ymrestru awtomatig a sut mae'n gweithio |
11.1.4 | Ymwybyddiaeth o ba bryd a sut y gellir hawlio Pensiwn y Wladwriaeth a'i fod yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr unigolyn |
11.1.5 | Cyfeirio cwsmeriaid at ffynonellau gwybodaeth priodol ar bensiynau a/neu gymorth ar gyfer cynllunio ymddeoliad |
11.1.6 | Ymwybyddiaeth o sgamiau a beth i’w wneud os yw cwsmer wedi bod yn destun i sgam |
11.2.1 | Gwybodaeth am y nodweddion a'r prif wahaniaethau rhwng mathau o bensiwn (e.e. Pensiwn y Wladwriaeth, buddion diffiniedig, cyfraniad diffiniedig ac ati) |
11.2.2 | Gwybodaeth am pryd a sut y gellir hawlio Pensiwn y Wladwriaeth a'i fod yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr unigolyn |
11.2.3 | Gwybodaeth am fanteision cynllunio ar gyfer ymddeoliad, gan gynnwys sut i gael rhagolwg pensiwn |
11.2.4 | Gwybodaeth am sut i ddarllen datganiad pensiwn |
11.2.5 | Gwybodaeth am oblygiadau ac effeithiau posibl ymrestru awtomatig ar amgylchiadau unigolyn |
11.2.6 | Gwybodaeth am y meini prawf cymhwyster pensiynau |
11.2.7 | Gwybodaeth am effaith gohirio pensiwn ymddeol |
11.2.8 | Gwybodaeth am hawl i Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth |
11.2.9 | Dealltwriaeth o'r ffactorau i'w hystyried wrth ystyried buddsoddi mewn cynllun pensiwn |
11.2.10 | Dealltwriaeth o Gyfraith pensiynau |
11.2.11 | Dealltwriaeth o sut y cyfrifir Pensiwn y Wladwriaeth, ei gyfnod cymhwyso a sut i hawlio |
11.2.12 | Dealltwriaeth o sut i gynyddu Pensiwn y Wladwriaeth |
11.3.1 | Gwybodaeth am sut i ddefnyddio chyfrifianellau pensiynau ac ymddeoliad arbenigol |
11.3.2 | Gwybodaeth am sut i wirio faint sydd wedi'i gronni yng nghronfa bensiwn unigolyn |
11.3.3 | Gwybodaeth am sut i ddatrys materion sy'n codi yn ystod y broses hawlio |
11.3.4 | Gwybodaeth o fynediad i gymorth arbenigol (e.e. HelpwrArian, yr Ombwdsmon Pensiynau, ayyb.) |
11.3.5 | Gwybodaeth am sut a phryd y mae'r rheolau Lwfans Blynyddol (AA) a'r Lwfans Gydol Oes (LTA) yn berthnasol, gan gynnwys gwybodaeth am sut mae'r Tapr Lwfans Blynyddol yn gymwys, a'r diogelwch sydd ar gael i gwsmeriaid sydd â buddion sy'n uwch na'r LTA |
11.3.6 | Gwybodaeth am bwysigrwydd diogelu buddion o fewn pensiwn, y dylai cwsmeriaid geisio cyngor ariannol cyn iddynt ystyried rhoi'r buddion hyn i fyny a'r risgiau i gwsmeriaid sy'n ystyried trosglwyddo pensiwn DB i drefniant DC. |
Darganfyddwch am hyfforddiant allanol am y parth pensiynau.