Mae'r parth hwn yn ymwneud â chynnal gwybodaeth a sgiliau digonol i ddarparu gwasanaeth da ac, mewn rhai achosion, datblygu gwybodaeth a sgiliau er mwyn darparu arweiniad ar haen uwch. Gall hyn olygu bod yn gyfoes ar faterion ariannol, er enghraifft, diweddariadau i ddeddfwriaeth a rheoliadau a sefydliadau allweddol sy'n bwysig ar gyfer sicrhau bod ymarferwyr yn rhoi gwybodaeth gywir a chyfoes, ac ar gyfer gwybod ble i gyfeirio cwsmeriaid. Yn ogystal, gall gynnwys hunan-fyfyrio, ennill gwybodaeth neu wella sgiliau. Gall ymarferwyr ddatblygu eu ymarfer drwy ddefnyddio naill ai dulliau ffurfiol a/neu anffurfiol.
Mae Hunanreolaeth, gyda chefnogaeth hunanymwybyddiaeth emosiynol, yn galluogi ymarferwyr i reoleiddio eu hymddygiad eu hunain, hyd yn oed pan gânt eu cythruddo. Mae'r safon hwn yn gweld ymarferwyr yn cydnabod terfynau eu hawdurdod ac yn gwybod y camau i'w cymryd pan gyrhaeddir y terfyn hwnnw. Dylent fod yn ddygn a gwydn yn wyneb anhawster a gallu ymdopi ag amgylchedd cynyddol gymhleth - gyda ffiniau sefydliadol yn cymylu a'r gofyniad i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill (e.e. wrth wneud neu gymryd atgyfeiriadau). Dylai'r ymarferydd gymryd amser priodol i fyfyrio a hefyd geisio cefnogaeth bersonol briodol pan fo angen, er enghraifft pan/ar ôl delio ag achosion cymhleth neu drawmatig.
Dylai ymarferwyr allu derbyn adborth/beirniadaeth mewn modd cadarnhaol ac asesu ei ddilysrwydd a'i bwysigrwydd. Dylent geisio gwerthuso eu perfformiad eu hunain, naill ai yn erbyn targedau a nodau penodol, neu trwy fyfyrio ar eu gwaith a'u gweithredoedd eu hunain. Mae gosod a blaenoriaethu nodau a thargedau clir a realistig ar gyfer datblygiad eu hunain a defnyddio ystod o dystiolaeth ddilys a dibynadwy i asesu eu gwaith eu hunain, sy'n cynnwys asesiad o effeithiau eu hymddygiad a'u gwerthoedd eu hunain ar eraill, yn rhan hanfodol o wella arferion/datblygiad proffesiynol parhaus ymarferwyr.
Rhaid i ymarferwyr gael y wybodaeth gyfredol am ddeddfwriaeth, codau ymarfer a chanllawiau, gan ddeall pwysigrwydd cydymffurfio â gofynion cenedlaethol, lleol, proffesiynol a sefydliadol. Mae'n hanfodol bod ymarferwyr yn cynnal dealltwriaeth o gyfyngiadau eu rôl, eu cyfyngiadau eu hunain a therfynau'r gwasanaeth. Yn olaf, rhaid iddynt gynnal y sgiliau meddal gofynnol sy'n angenrheidiol i ddelio â chwsmeriaid e.e. sgiliau cyfathrebu effeithiol.
Pan rydych yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian, gan gynnwys y ffiniau wrth roi arweiniad arian, rydych yn barod i gymryd eich help ymhellach. Darganfyddwch ba mor hyderus ydych chi am eich sylfeini arweiniad, a chewch awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i adeiladu eich sgiliau a gwybodaeth..