Mae'r parth hwn yn ymwneud â gweithio'n gyfreithlon ac yn ddiogel. Mae hyn yn golygu gweithio yn unol â'r rheoliadau, deddfwriaeth a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol sy'n llywodraethu cyfrinachedd a diogelu data, yn ogystal â'r rhai sy'n amddiffyn hawliau cwsmeriaid. Rhaid i ymarferwyr hefyd weithio'n ddiogel i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag unrhyw risg neu beryglon corfforol.
Pan rydych yn gyfarwydd â’r Fframwaith Cymhwysedd Arweiniad Arian, gan gynnwys y ffiniau wrth roi arweiniad arian, rydych yn barod i gymryd eich help ymhellach. Darganfyddwch ba mor hyderus ydych chi am eich sylfeini arweiniad, a chewch awgrymiadau ac adnoddau i’ch helpu i adeiladu eich sgiliau a gwybodaeth..