Meddwl ble i ddechrau? Mae ein pecyn cyfathrebu yn cynnwys graffeg cyfryngau cymdeithasol, baneri a phoster. Mae yna hefyd gopi templed ar gyfer eich sianeli cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau mewnrwyd ac e-bost, yn ogystal â ffurflen i chi rannu eich cynlluniau Wythnos Siarad Arian.
Mae ein pecyn cyfranogi Wythnos Siarad Arian 2024, a fydd yn cael ei ryddhau yn fuan, yn cynnig ffyrdd o deilwra eich gweithgareddau i'ch sector a'ch cynulleidfaoedd.
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i ddweud wrth bobl pam eich bod yn cefnogi Wythnos Siarad Arian, ac arddangoswch y gefnogaeth neu'r gwasanaethau rydych chi eisoes yn eu cynnig.
Defnyddiwch yr hashnodau #SiaradArian a #GwnewchUnPeth i ddweud wrthym am 'un peth' rydych chi'n gofyn i bobl ei wneud.
Lawrlwythwch a defnyddiwch ein graffeg cyfryngau cymdeithasol ar eich sianeli eich hun:
Rhannwch y graffeg hwn i ddweud wrth bobl pa 'un peth' rydych chi'n ei wneud yr Wythnos Siarad Arian hon ac anogwch eraill i wneud yr un peth:
Lawrlwythwch a rhannwch graffeg troshaen tryloyw
Gadewch i bobl wybod ble y gallant ddod o hyd i gymorth trwy gysylltu â’r arweiniad sydd gan HelpwrArian sydd am ddim, yn ddiduedd ac sydd â chefnogaeth y llywodraeth trwy eich sianeli mewnol neu allanol.
Rydym yn cefnogi Wythnos Siarad Arian, sy'n ceisio chwalu'r rhwystrau a'i gwneud hi'n haws i bobl rannu eu meddyliau a'u teimladau am arian.
Gall fod yn anodd siarad am arian. Dyna pam mae Wythnos #SiaradArian yn gyfle gwych i gychwyn sgwrs gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr. Mewn gwirionedd, gall cynnwys sgyrsiau arian yn bywydau bob dydd ein helpu i feithrin yr hyder a'r gwytnwch ariannol sydd ei angen i wynebu beth bynnag sydd gan y dyfodol ar y gweill i ni.
Mae ymchwil yn dangos bod pobl sy'n siarad am arian yn:
Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, beth am #DoOneThing i wella lles ariannol a defnyddio un o'r teclynnau neu gyfrifianellauYn agor mewn ffenestr newydd am ddim sydd ar gael ar HelpwrArian.
Lawrlwythwch ein poster HelpwrArian
Rhannwch neu argraffwch ein poster Siarad Arian i helpu i gyfeirio at wasanaethau HelpwrArian .
Rydyn ni eisiau gwybod sut rydych chi'n cefnogi Wythnos Siarad Arian fel y gallwn rannu a dathlu eich cyfranogiad.
Boed yn bostiad ar gyfryngau cymdeithasol, yn ddigwyddiad byw, yn ymgyrch lawn neu drwy roi poster yn eich gweithle, neu unrhyw beth yn y canol, defnyddiwch y ffurflen isod i roi gwybod i ni.
Ymgysylltu’r wasg leol, masnach neu genedlaethol yn y gwaith rydych yn ei wneud i helpu pobl siarad am arian gan ddefnyddio ein templed datganiad i’r wasg.