Yn y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) rydym yn gwerthfawrogi ein cwsmeriaid ac eisiau rhoi'r profiad gorau posibl i chi, ond rydym yn cydnabod nad yw pethau'n mynd yn ôl y cynllun weithiau.
Os nad oedd eich profiad gyda ni yr hyn yr oeddech chi'n ei ddisgwyl, neu os ydym wedi gwneud rhywbeth o'i le, rydyn ni eisiau gwybod fel y gallwn ddysgu ohono a gwella.
Gallwch gysylltu â ni drwy:
Rydym yn derbyn cwynion yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn ymateb yn yr un iaith.
Os oes angen cymorth arnoch neu os oes angen i ni wneud addasiadau addas i chi (fel print bras neu wasanaethau cyfieithu) i’ch helpu i godi a thrafod eich cwyn gyda ni, rhowch wybod i ni.
Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am fanylion personol er mwyn ein helpu i ymchwilio i'ch cwynion. Bydd unrhyw fanylion a gasglwn yn cael eu cadw'n ddiogel a'u defnyddio at ddiben ymchwilio i'ch cwyn yn unig.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod preifatrwydd a diogelwch data personol yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a'r holl gyfreithiau a rheoliadau diogelu data cymwys.
I ddysgu mwy am sut rydym yn defnyddio'ch data ac yn ei gadw'n ddiogel, gallwch weld ein hysbysiad preifatrwydd.
Ar ôl i ni dderbyn eich cwyn, byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch o fewn 5 diwrnod gwaith ac anelu at anfon ymateb atoch o fewn 20 diwrnod gwaith.
Os na allwn gwrdd â'r terfyn amser hwnnw, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn eich diweddaru ar hyd y ffordd.
Os ydych chi'n anhapus â'r ymateb, mae gennych 28 diwrnod i'w herio. Bydd y gŵyn wedyn yn cael ei hanfon at dîm gwahanol a fydd yn ymchwilio i'ch cwyn yn annibynnol ac yn anfon ymateb atoch o fewn 20 diwrnod gwaith.
Ar ôl hyn, os ydych yn parhau i fod yn anhapus â'r ffordd yr ydym wedi ymdrin â'ch cwyn, gallwch ei chyfeirio at yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd (PHSO).
Mae'r PHSO yn gorff rheoleiddio annibynnol sy'n adolygu cwynion am wasanaethau MaPS. Gallwch gysylltu â nhw drwy: