Angela Byrne yw Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Bancio Manwerthu, yn NatWest. Mae Angela yn gyfrifol am oruchwylio strategaeth, gweithrediadau a pherfformiad cyffredinol y banc manwerthu.
Mae Angela a’i thimau’n arwain y gwaith arloesi sy’n gwella profiad bron i 18 miliwn o gwsmeriaid NatWest wrth ysgogi perfformiad ariannol a sicrhau bod y banc yn gweithredu o fewn fframweithiau rheoleiddio.
Cyn camu i’r rôl hon, Angela oedd Rheolwr Gyfarwyddwr tîm Cynigion a Theithiau Cwsmeriaid NatWest. Mae timau Angela wedi darparu digideiddio cyflawn i greu teithiau di-dor i gwsmeriaid a sicrhau twf cynaliadwy. Mae hyn wedi cynyddu incwm a lleihau costau wrth wella'r NPS a'r gyfran o'r farchnad.
Mae Angela yn hyrwyddo diwylliant o chwilfrydedd deallusol ac mae hefyd yn eiriolwr mawr dros ddilyniant swyddogion gweithredol benywaidd ifanc o fewn diwydiant bancio’r DU.