Fel rhan o'n cyfrifoldeb ynghylch cyngor ar ddyled yn y DU, rydym yn darparu arweiniad, adnoddau a fframweithiau i sicrhau safonau uchel yn y sector cyngor ar ddyled.
Mae Safonau MaPS yn nodi'r egwyddorion craidd ar gyfer anghenion cyflenwi ein swyddogaethau cyngor ar ddyledion yn effeithiol, ynghyd â’r gofynion o ran ansawdd a pherfformiad,, yn ogystal ag ar gyfer sefydliadau sy'n gweithio gyda ni.
Gan weithio gyda'r sector cyngor ar ddyled, rydym wedi creu fframwaith ansawdd cyngor ar ddyled. Ein nod yw cynnal safonau uchel o fewn sefydliadau dyled, yn ogystal ag unigolion sy'n cefnogi cleientiaid ar y rheng flaen.
Gallwch ddysgu mwy a gweld y fframwaith ansawdd cyngor ar ddyled.
Rydym yn achredu cyrsiau hyfforddi a chymwysterau sy'n bodloni'r safonau a nodir yn ein fframwaith ansawdd cyngor ar ddyled. Mae hyn yn caniatáu i ymarferwyr ddod o hyd i gyfleoedd dysgu addas sy'n cael eu cydnabod fel rhai ansawdd uchel.
Gallwch weld cyrsiau ar yr hwb llwybr dysgu.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r Grŵp Gweithredu Tlodi Plant (CPAG) i gyhoeddi'r Llawlyfr Cyngor ar Ddyled. Mae hwn yn adnodd gwbl ar-lein gyda gwybodaeth dechnegol cyfredol ar ddyled i gefnogi cynghorwyr ar draws ystod o bynciau. Rhyddhawyd yr 16eg argraffiad yn 2026.
Rydym yn ariannu'r Gwasanaeth Cyngor ar Ddyled Arbenigol (SDAS), a ddarperir gan Shelter. Mae hon yn llinell gyngor a gwesgwrs am ddim sy'n caniatáu i gynghorwyr ar ddyled gael cymorth ac arweiniad arbenigol gydag achosion cymhleth.
Gallwch ddysgu mwy am yr SDAS.
Rydym yn cyhoeddi diweddariadau misol yn ein cylchlythyr Profiad Cwsmeriaid ac Ansawdd. Gallwch: